Y Pwyllgor Pobl a Chyflogau - Cylch gorchwyl penodol

Diben 

Pwyllgor sefydlog yw'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau sy'n ystyried materion sy'n ymwneud â rheoli pobl, taliadau, datblygu sefydliadol strategol a newid sefydliadol ar ran Bwrdd CNC. 

Cwmpas

Mae gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau gyfrifoldeb dros oruchwylio tâl ac amodau cyflogaeth staff ar y lefel uchaf a strategaeth dâl gyffredinol ar gyfer yr holl staff a gyflogir gan CNC, darparu cynllun pensiwn, llesiant,  iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac amrywiaeth, a datblygu'r Gymraeg. 

Mae'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn rhoi cyngor ar ddatblygu sefydliadol strategol, gan sicrhau bod strategaeth glir ar waith, bod cynllun y sefydliad yn effeithiol ac yn fforddiadwy, a bod mentrau newid pwysig yn cael eu rheoli’n effeithiol, gyda'r bwriad o sicrhau gweithlu arloesol sy'n perfformio'n dda ac yn uchel eu cymhelliant.

Mae'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau hefyd yn goruchwylio’r gwaith o ymgorffori rhagoriaeth mewn gofal cwsmeriaid ar ran y Bwrdd, fel rhan allweddol o ddiwylliant y sefydliad. 

Cyfrifoldebau

Mae gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau’r cyfrifoldebau canlynol o ran taliadau: 

  • goruchwylio'r strategaeth daliadau gyffredinol, y cynllun gwerthuso swyddi, a'r amodau a thelerau i'r holl staff a gyflogir gan CNC;
  • pennu'r strategaeth dâl gyffredinol ar gyfer y Prif Weithredwr a'r Tîm Gweithredol;
  • adolygu perfformiad yn erbyn amcanion ar gyfer y Prif Weithredwr, ynghyd ag asesiad y Prif Weithredwr o berfformiad y Tîm Gweithredol;
  • cymeradwyo unrhyw ddyfarniadau tâl a chyflog blynyddol ar gyfer y Prif Weithredwr, gan ddilyn cyngor gan Gadeirydd y Bwrdd;
  • cymeradwyo unrhyw ddyfarniadau tâl blynyddol ar gyfer aelodau'r Tîm Gweithredol, sydd y tu allan i drefniadau bargeinio ar y cyd CNC.

Polisi:

  • rhoi sicrwydd i'r Bwrdd fod polisïau pobl ac amodau cyflogaeth CNC yn unol â chanllawiau perthnasol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, Trysorlys ei Mawrhydi a Swyddfa'r Cabinet fel y bo'n briodol.

Talent ac olyniaeth:

  • adolygu dulliau cynllunio olyniaeth y Tîm Gweithredol a materion gwydnwch sefydliadol cysylltiedig, yn cynnwys hyfforddiant a datblygiad;
  • goruchwylio strwythur y Tîm Gweithredol a recriwtio i'r tîm hwn.

Pensiynau:

  • goruchwylio strategaeth y ddarpariaeth pensiwn mewn perthynas â buddion staff a gweinyddiaeth.
  • Dirprwyo cyfrifoldeb gan Fwrdd CNC o ran Datganiad Polisi Dewisol y Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol – i ystyried a chymeradwyo materion sy'n ymwneud â disgresiwn cyflogwyr o dan y Rheoliadau Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol.

Trefniadau ymadael:

  • ystyried a chadarnhau ceisiadau ymadael a thaliadau diswyddo'r Tîm Gweithredol;
  • adolygu trefniadau ymadael ar gyfer yr holl staff eraill, yn cynnwys monitro taliadau diswyddo a rhoi sicrwydd a chydymffurfiaeth fel y nodir yn y canllawiau perthnasol.

Llesiant, iechyd a diogelwch:

  • craffu a rhoi sicrwydd i'r Bwrdd fod strategaeth, cynlluniau a pholisïau effeithiol ar waith;
  • adolygu risgiau allweddol a monitro llesiant, iechyd a diogelwch i sicrhau rheolaeth effeithiol gan y Tîm Gweithredol, gan roi gwybod i'r Bwrdd am unrhyw faterion sylweddol.

Y Gymraeg:

  • sicrhau'r Bwrdd fod y sefydliad yn cyflawni ei uchelgeisiau o ran dod yn sefydliad dwyieithog;
  • Ystyried gofynion y Comisiynydd a chynlluniau ac ymatebion y Weithrediaeth.

Cydraddoldeb ac amrywiaeth:

  • sicrhau'r Bwrdd fod y sefydliad yn cyflawni ei uchelgeisiau o ran dod yn sefydliad cynhwysol;
  • ystyried gofynion y Comisiynydd a chynlluniau ac ymatebion y Weithrediaeth. 

Gofal cwsmeriaid:

  • sicrhau'r Bwrdd fod y sefydliad yn ymgorffori diwylliant o ragoriaeth mewn gofal cwsmeriaid.

Datblygu sefydliadol:

  • goruchwylio strategaeth CNC i ddatblygu'r sefydliad, ei dimau a'i bobl i sicrhau eglurder diben, arweinyddiaeth effeithiol a newid diwylliannol, a rhoi gwybod i'r Bwrdd am gynnydd;
  • fel rhan o'r gwaith o weithredu'r strategaeth, i:
    • adolygu adborth gan staff, gan gynnwys arolygon staff a chamau gweithredu a chynnydd y Weithrediaeth ;
    • cynghori ar ddatblygu cynllun gweithlu strategol;
    • rhoi cyngor ar newid diwylliannol, datblygu arweinyddiaeth, cynllun sefydliadol a newid strategol;
    • goruchwylio newid drwy’r sefydliad cyfan, craffu cynlluniau, risgiau a chynnydd;
    • monitro ac adolygu’r gwaith o ddarparu a buddion achosion busnes allweddol a’r cynllun i wireddu’r buddion fel rhan o werthusiad ôl-freinio. 

Arall:

  • ystyried unrhyw faterion eraill sy'n ymwneud â thaliadau, telerau ac amodau a rheoli pobl a gyfeirir gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau gan Gadeirydd neu Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru;
  • sicrhau bod Polisi Diogelu CNC, i amddiffyn plant ac oedolion sy'n agored i niwed, yn addas i'r diben. 

Cyfarfodydd

Fel arfer, bydd y Pwyllgor Pobl a Chyflogau yn cwrdd bob chwarter.

Gall Cadeirydd y Bwrdd neu'r Prif Weithredwr / Swyddog Cyfrifyddu ofyn i'r Pwyllgor Pobl a Chyflogau ymgynnull cyfarfodydd ychwanegol i drafod materion lle mae angen cyngor gan y Pwyllgor Pobl a Chyflogau. 

Cylch gorchwyl cytunedig: Medi 2021

Diweddarwyd ddiwethaf