Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg – Cylch gorchwyl penodol

Diben

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn bwyllgor sefydlog sy'n ofynnol yn ôl Dogfen Fframwaith Llywodraeth Cymru gyda CNC. Ei brif rôl yw cynghori'r Bwrdd a chefnogi'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu ynghylch materion yn ymwneud â risg, stiwardiaeth ac atebolrwydd ariannol, rheolaeth fewnol a llywodraethu.

Cwmpas 

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn rhoi sicrwydd o ran sefydlu a chynnal amgylchedd rheoli effeithiol er mwyn sicrhau uniondeb, cynaliadwyedd a pharhad, a hynny'n ariannol ac o ran busnes ehangach. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn monitro prosesau rheoli risg CNC i sicrhau eu heffeithiolrwydd wrth ragweld risgiau yn y dyfodol, ynghyd â mynd i'r afael â risgiau presennol, a sicrhau bod mesurau lliniaru risg yn gyson ag archwaeth risg CNC. 

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn darparu Adroddiad Blynyddol i'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu yn crynhoi'r busnes y mae wedi'i gynnal yn ystod y flwyddyn a'r casgliadau yn sgil hynny. Bydd hyn hefyd yn llywio'r gwaith o lunio Datganiad Llywodraethu'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu.

Cyfrifoldebau

Mae'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn gyfrifol am effeithiolrwydd a rheolaethau ariannol a rheolaethau eraill, er mwyn:

  • cael sicrwydd ynghylch effeithiolrwydd fframweithiau ariannol, rheoli risg a  fframweithiau rheolaeth fewnol eraill;
  • cael sicrwydd ynghylch trefniadau llywodraethu corfforaethol CNC;
  • cael sicrwydd ynghylch polisïau a gweithdrefnau CNC mewn perthynas â thwyll, afreoleidd-dra a datgeliadau er budd y cyhoedd;
  • cael sicrwydd, yn flynyddol neu'n amlach os oes angen, ynghylch gweithredu argymhellion cymeradwy sy'n ymwneud ag adroddiadau archwilio mewnol ac allanol ac ymatebion rheolwyr;
  • ystyried elfennau o'r datganiadau ariannol blynyddol ym mhresenoldeb yr archwilwyr allanol, gan gynnwys barn ffurfiol yr archwilwyr, y datganiad o gyfrifoldebau aelodau a'r datganiad rheolaeth fewnol;
  • adolygu'r polisïau cyfrifyddu sy'n ymwneud â'r datganiadau ariannol, yn enwedig mewn perthynas ag unrhyw newidiadau, a rhoi sylwadau ar eu digonolrwydd;
  • craffu ac adrodd i'r Bwrdd ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon CNC a Datganiad Llywodraethu'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu, ac argymell cymeradwyaeth i'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu lofnodi'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon;
  • tynnu sylw'r Bwrdd a'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu at faterion sy'n peri risg sylweddol;
  • cael sicrwydd ynghylch materion yn ymwneud â thwyll, colledion a thaliadau arbennig, gan gynnwys yr Adroddiad Blynyddol;
  • craffu ar yr holl gontractau arwyddocaol a osodir heb gystadleuaeth (yn unigol neu ar y cyd) er mwyn cefnogi tryloywder o ran penderfyniadau.

Archwilio Allanol 

Swyddfa Archwilio Cymru yw archwilydd allanol CNC.

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn adolygu gwaith yr archwilydd allanol ac yn ystyried ei ganfyddiadau ac ymateb y rheolwyr iddynt. Mae'r cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • adolygu ac argymell (i'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu) y dylid cymeradwyo'r cynllun archwilio allanol blynyddol a'r ffi archwilio;
  • adolygu'r holl adroddiadau archwilio allanol, gan gynnwys yr adroddiad cwblhau archwiliad, cyn ei gyflwyno'n derfynol i'r Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu a Bwrdd CNC, yn ogystal ag unrhyw waith a wneir y tu allan i'r cynllun archwilio allanol blynyddol, ac ymateb y rheolwyr yn hynny o beth;
  • adolygu perfformiad yr archwilydd allanol.

Archwilio Mewnol

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn goruchwylio trefniadau archwilio mewnol CNC i sicrhau eu heffeithiolrwydd, a bydd yn adolygu gwaith a chanfyddiadau'r archwilwyr mewnol, ynghyd ag ymatebion y rheolwyr. Mae'r cyfrifoldebau penodol yn cynnwys:

  • cytuno ar y strategaeth archwilio fewnol a'r cynllun archwilio mewnol blynyddol;
  • cael ac adolygu adroddiadau archwilio mewnol pwnc-benodol, ynghyd ag ymatebion y rheolwyr;
  • cael ac adolygu Barn y Rheolwr Archwilio Mewnol a Sicrhau Risg;
  • adolygu perfformiad y gwasanaeth archwilio mewnol.

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.

O leiaf unwaith y flwyddyn, ac fel arall yn ôl yr angen, bydd yr archwilwyr mewnol ac allanol yn cwrdd â'r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg heb i aelodau'r weithrediaeth fod yn bresennol.

Aelodaeth

Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg a mynychwyr eraill yn cynnwys pedwar aelod anweithredol o'r Bwrdd, y mae'n rhaid i o leiaf un ohonynt feddu ar arbenigedd priodol mewn rheolaeth ariannol, cyfrifyddu ac archwilio.

Estynnir gwahoddiad i gynrychiolwyr Archwilio Cymru i fod yn bresennol.

Bydd y Prif Weithredwr/Swyddog Cyfrifyddu, y Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol, a'r Pennaeth Llywodraethu ac Ysgrifennydd y Bwrdd, fel arfer yn mynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg, ac eithrio pan gânt eu gwahardd yn benodol am drafod materion sy'n effeithio ar eu sefyllfa neu eu perfformiad personol.

Cylch Gorchwyl cytunedig: Medi 2021

Diweddarwyd ddiwethaf