Y Pwyllgor Cyllid - Cylch gorchwyl penodol

Diben

Pwyllgor sefydlog yw'r Pwyllgor Cyllid a’i brif rôl yw cynghori'r Bwrdd a chefnogi'r Prif Weithredwr / Swyddog Cyfrifyddu ar Gyllid, rheoli cyllideb a chynllunio.

Cwmpas

Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Cyllid yn cyfuno cyfrifoldebau blaenorol y Pwyllgor Cyllid, Cynllunio a Pherfformio â chyfrifoldebau dau Grŵp Gorchwyl a Gorffen blaenorol (Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Bwrdd: Cyllid, Llywodraethu a Chyflawni a Grŵp Trosolwg Llywodraethu Gwerthu Pren y Bwrdd).

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn darparu cyngor, trosolwg a gwaith craffu ar strategaeth, rheolaeth a pherfformiad mewn perthynas â chyllid, cynllunio a pherfformiad busnes, cynlluniau codi tâl a materion masnachol (gan gynnwys gwerthu pren a gweithgaredd marchnata), cydymffurfiaeth a’r Swyddfa Rheoli’r Rhaglen. Wrth wneud ei rôl, bydd y Pwyllgor Cyllid yn canolbwyntio ar gyfeiriad a datblygiad strategol, ac ar graffu ar berfformiad a darpariaeth.

Bydd angen i'r Pwyllgor Cyllid sicrhau wrth wneud ei rôl nad yw'n dyblygu rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Rôl y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yw cynghori'r Bwrdd ar risg, stiwardiaeth ac atebolrwydd ariannol, rheolaeth a llywodraethu. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg hefyd yn parhau i graffu ar welliannau a wneir mewn ymateb i adolygiadau a wneir gan y gwasanaeth Archwilio Mewnol.

Mae gan y Pwyllgor Cyllid a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg rolau ategol. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn edrych ymlaen, gan wneud penderfyniadau o fewn eu cylch gorchwyl a rhoi cyngor i'r Bwrdd ar faterion ariannol a pherfformiad yn ôl y gofyn. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn craffu ac yn rhoi sicrwydd yn ôl y gofyn. Bydd y Pwyllgor Cyllid yn arwain y gwaith o adolygu cynnydd ar weithgareddau masnachol, gwerthiant a marchnata (gan gynnwys pren), tra bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn darparu'r trosolwg. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn arwain y gwaith o adolygu cynnydd yn erbyn cydymffurfiaeth a'r tair llinell o waith amddiffyn, tra bydd y Pwyllgor Cyllid yn darparu'r trosolwg.

Cyfrifoldebau

Dyma gyfrifoldebau’r Pwyllgor Cyllid:

  • darparu cyngor a chymorth wrth ddatblygu cynlluniau busnes blynyddol corfforaethol (4-5 mlynedd) a gweledigaeth tymor hir (hyd at 2015) CNC;
  • darparu cyngor a chymorth i sicrhau datblygiad strategaethau, adroddiadau rheoli a chynlluniau ariannol priodol;
  • craffu ar y Gyllideb flynyddol cyn ei chyflwyno i’r Bwrdd cyfan er mwyn ei chymeradwyo, gan herio tybiaethau sylfaenol a chynghori’r Bwrdd ar sut i’w mabwysiadu;
  • darparu trosolwg a gwaith craffu ar berfformiad ariannol CNC drwy ddatganiadau ariannol rheoli misol a chwarterol i sicrhau bod arian yn cael ei ddefnyddio’n briodol ac yn effeithiol;
  • monitro safle ariannol a rhagolygon / cynaliadwyedd y sefydliad i’r dyfodol i sicrhau ei fod yn gallu parhau i gwrdd â’i ymrwymiadau a’i amcanion strategol;
  • hyrwyddo pwysigrwydd Gwerth am Arian, sicrhau bod dulliau rheoli addas yn weithredol a monitro perfformiad;
  • adolygu a chraffu ar yr Adroddiad Perfformiad sydd wedi’i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon;
  • darparu trosolwg a gwaith craffu ar berfformiad busnes CNC;
  • darparu cyngor a chymorth i’r Rhaglen Codi Tâl Strategol mewn perthynas â newidiadau mewn cynlluniau codi tâl cyfredol ac wrth ddatblygu cynlluniau newydd.;
  • darparu cyngor a chymorth wrth ddatblygu strategaethau a chynlluniau masnachol;
  • darparu trosolwg a gwaith craffu ar y gwaith o gyflawni cynlluniau a pherfformiad masnachol;
  • darparu trosolwg a chyngor mewn perthynas ag ariannu aelodaeth CNC o’r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol;
  • darparu gwaith craffu a herio risgiau allweddol a phroblemau gwerthu a marchnata pren ac ymgorffori gwelliannau llywodraethu a phrosesau yn y meysydd hyn;
  • sicrhau fod ymateb CNC i adolygiad annibynnol Grant Thornton mewn perthynas ag adroddiad yr Archwiliad Mewnol dilynol yn cael ei ymgorffori;
  • goruchwylio’r gwaith o ddarparu drwy system Tracio Pontio Gwerthu a Marchnata Pren, gan gynnwys craffu ar amrywiadau yn y camau gweithredu, cerrig milltir, ac ati;
  • sicrhau trosolwg o ganlyniadau ehangach CNC, gan gynnwys y diwylliant cydymffurfio ac effaith ar staff;
  • darparu trosolwg a gwaith craffu ar y ffordd y darperir gwaith cydymffurfio yn seiliedig ar dair llinell y model amddiffyn;
  • darparu trosolwg a gwaith craffu ar ddarpariaeth Swyddfa Rheoli’r Rhaglen sydd newydd ei sefydlu, y Swyddfa Rheoli Cytundebau, a chaffael.

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Cyllid yn cwrdd o leiaf bedair gwaith y flwyddyn.

Bydd ffocws pob cyfarfod, boed yn gyllid, cynllunio a pherfformiad busnes, codi tâl, materion masnachol neu gyfuniad ohonynt, yn amrywio gan ddibynnu ar y materion y mae angen gwaith craffu neu gyngor arnynt.

Cylch gorchwyl cytunedig: Medi 2021

Diweddarwyd ddiwethaf