Cylch gorchwyl penodol y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth

Diben

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth (EAC) yn bwyllgor sefydlog a’i brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a darparu cyngor, her ac adolygiad annibynnol i’r Adran Gwybodaeth a Thystiolaeth, mewn cysylltiad â’i gyfeiriad strategol, a swyddogaethau tystiolaeth ehangach CNC.

Cwmpas

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn cynghori Bwrdd CNC ynglŷn â rhaglenni tystiolaeth cymeradwy CNC a’r broses o’u rhoi ar waith, yn enwedig yng nghyswllt y cydbwysedd rhwng tystiolaeth strategol a gweithredol.

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach, a dealltwriaeth defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth, o brosesau a blaenoriaethau tystiolaeth. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod pawb yn CNC yn cadw at yr egwyddorion a’r canllawiau a osodwyd yng nghanllawiau’r llywodraeth ganolog ar gael a defnyddio cyngor gwyddonol a chodau ymarfer perthynol.

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn rhoi sylw i’r holl ddulliau tystiolaeth a ddefnyddir yn CNC a’r holl ddisgyblaethau academaidd sydd eu hangen i ddarparu tystiolaeth ar gyfer ein prosesau gwneud penderfyniadau.

Cyfrifoldebau 

Cyfrifoldebau’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yw:

  • hybu, ysgogi ac annog yr arfer o wreiddio prosesau tystiolaeth, sicrhau ansawdd a chyflawni;
  • gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer tystiolaeth strategol a gweithredol sy’n cael ei nodi neu sy’n cael ei chyflwyno gan CNC;
  • tynnu sylw at ddulliau newydd o gyflwyno tystiolaeth a dulliau gweithredu arloesol i CNC;
  • gwneud argymhellion i’r Bwrdd ynglŷn â chydbwysedd yn y portffolio tystiolaeth rhwng materion gweithredol a pholisi, ymatebion adweithiol a chytundebau ar gyfer y dyfodol, ar gyfer dyrannu adnoddau yn y dyfodol;
  • cyflwyno adroddiadau i Fwrdd CNC ar ansawdd ac addasrwydd y broses dystiolaeth a chyflawni yn CNC;
  • hyrwyddo ar lefel Bwrdd y defnydd o astudiaethau’r dyfodol yn CNC, gan gynnwys rhagfynegi datblygiadau ym maes technoleg ac arloesi.
  • Gall y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth wneud datganiadau cyhoeddus, os oes angen, ar ôl i Fwrdd CNC dderbyn ei gyngor. Gellir defnyddio cyfathrebiadau mewnol i gefnogi neu hybu egwyddorion defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau gweithredol, tynnu sylw at feysydd o ddiddordeb, grwpiau gorchwyl a gorffen, a chanlyniadau allweddol o bob cyfarfod. Dylid anfon hysbysiadau mewnol cyn pen pythefnos ar ôl y cyfarfod. 

Cyfarfodydd

Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, fel arfer ym mis Ionawr a mis Mehefin i gynorthwyo’r cylch rhaglennu a chyllidebu.

Ni chaniateir dirprwyon.

Aelodaeth

Caiff y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth ei gadeirio gan yr aelod o Fwrdd CNC sydd â chyfrifoldeb am Dystiolaeth ac Arloesi.

Bydd aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys ail aelod o Fwrdd CNC a thua wyth aelod allanol annibynnol, sydd ym marn y Cadeirydd ac arweinwyr CNC yn cynnig arbenigedd priodol, e.e. dulliau tystiolaeth rhyngddisgyblaethol (gan gynnwys dealltwriaeth o ymddygiadau), SMNR, effaith ymchwil, dulliau dadansoddol, gwaith ymchwil gweithredol, arloesi technolegol, a chyfathrebu ym maes gwyddoniaeth.

Gall aelodaeth gychwynnol o’r Pwyllgor cynghori ar dystiolaeth fod drwy wahoddiad gan y Cadeirydd a chael ei hadolygu bob blwyddyn (hyd y cyfnodau i’w penderfynu). Gellir datblygu proses ddethol gystadleuol wrth i’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth aeddfedu.

Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2021

Diweddarwyd ddiwethaf