Cylch gorchwyl penodol y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth
Diben
Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth (EAC) yn bwyllgor sefydlog a’i brif rôl yw cynghori’r Bwrdd a darparu cyngor, her ac adolygiad annibynnol i’r Adran Gwybodaeth a Thystiolaeth, mewn cysylltiad â’i gyfeiriad strategol, a swyddogaethau tystiolaeth ehangach CNC.
Cwmpas
Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn cynghori Bwrdd CNC ynglŷn â rhaglenni tystiolaeth cymeradwy CNC a’r broses o’u rhoi ar waith, yn enwedig yng nghyswllt y cydbwysedd rhwng tystiolaeth strategol a gweithredol.
Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn helpu i gryfhau dealltwriaeth yn y gymuned ymchwil ehangach, a dealltwriaeth defnyddwyr tystiolaeth yn y llywodraeth, o brosesau a blaenoriaethau tystiolaeth. Mae hefyd yn ceisio sicrhau bod pawb yn CNC yn cadw at yr egwyddorion a’r canllawiau a osodwyd yng nghanllawiau’r llywodraeth ganolog ar gael a defnyddio cyngor gwyddonol a chodau ymarfer perthynol.
Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn rhoi sylw i’r holl ddulliau tystiolaeth a ddefnyddir yn CNC a’r holl ddisgyblaethau academaidd sydd eu hangen i ddarparu tystiolaeth ar gyfer ein prosesau gwneud penderfyniadau.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yw:
- hybu, ysgogi ac annog yr arfer o wreiddio prosesau tystiolaeth, sicrhau ansawdd a chyflawni;
- gweithredu fel seinfwrdd ar gyfer tystiolaeth strategol a gweithredol sy’n cael ei nodi neu sy’n cael ei chyflwyno gan CNC;
- tynnu sylw at ddulliau newydd o gyflwyno tystiolaeth a dulliau gweithredu arloesol i CNC;
- gwneud argymhellion i’r Bwrdd ynglŷn â chydbwysedd yn y portffolio tystiolaeth rhwng materion gweithredol a pholisi, ymatebion adweithiol a chytundebau ar gyfer y dyfodol, ar gyfer dyrannu adnoddau yn y dyfodol;
- cyflwyno adroddiadau i Fwrdd CNC ar ansawdd ac addasrwydd y broses dystiolaeth a chyflawni yn CNC;
- hyrwyddo ar lefel Bwrdd y defnydd o astudiaethau’r dyfodol yn CNC, gan gynnwys rhagfynegi datblygiadau ym maes technoleg ac arloesi.
- Gall y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth wneud datganiadau cyhoeddus, os oes angen, ar ôl i Fwrdd CNC dderbyn ei gyngor. Gellir defnyddio cyfathrebiadau mewnol i gefnogi neu hybu egwyddorion defnyddio tystiolaeth wrth lunio polisi a gwneud penderfyniadau gweithredol, tynnu sylw at feysydd o ddiddordeb, grwpiau gorchwyl a gorffen, a chanlyniadau allweddol o bob cyfarfod. Dylid anfon hysbysiadau mewnol cyn pen pythefnos ar ôl y cyfarfod.
Cyfarfodydd
Bydd y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth yn cyfarfod o leiaf ddwywaith y flwyddyn, fel arfer ym mis Ionawr a mis Mehefin i gynorthwyo’r cylch rhaglennu a chyllidebu.
Ni chaniateir dirprwyon.
Aelodaeth
Caiff y Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth ei gadeirio gan yr aelod o Fwrdd CNC sydd â chyfrifoldeb am Dystiolaeth ac Arloesi.
Bydd aelodaeth y pwyllgor yn cynnwys ail aelod o Fwrdd CNC a thua wyth aelod allanol annibynnol, sydd ym marn y Cadeirydd ac arweinwyr CNC yn cynnig arbenigedd priodol, e.e. dulliau tystiolaeth rhyngddisgyblaethol (gan gynnwys dealltwriaeth o ymddygiadau), SMNR, effaith ymchwil, dulliau dadansoddol, gwaith ymchwil gweithredol, arloesi technolegol, a chyfathrebu ym maes gwyddoniaeth.
Gall aelodaeth gychwynnol o’r Pwyllgor cynghori ar dystiolaeth fod drwy wahoddiad gan y Cadeirydd a chael ei hadolygu bob blwyddyn (hyd y cyfnodau i’w penderfynu). Gellir datblygu proses ddethol gystadleuol wrth i’r Pwyllgor Cynghori ar Dystiolaeth aeddfedu.
Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl: Tachwedd 2021