Wylfa Newydd – Ein gwaith ni

Cefndir

Ar 17 Ionawr 2019, cyhoeddodd Horizon Nuclear Power ei fod yn atal ei raglen datblygu niwclear yn y DU, yn dilyn penderfyniad gan ei riant-gwmni Hitachi, Ltd.

Mae Horizon yn bwriadu datblygu gorsaf bŵer niwclear newydd ar Ynys Môn.

Mae'r safle ar dir ger hen Orsaf Bŵer Magnox Wylfa, sydd bellach yn cael ei ddatgomisiynu.

Roedd Horizon yn anelu at ddechrau cynhyrchu trydan yn Wylfa Newydd yng nghanol y 2020au - gyda chynhwysedd cynhyrchu o 3100 MW o leiaf - digon o bŵer ar gyfer tua phum miliwn o gartrefi.

Roedd gan CNC dair rôl mewn perthynas ag Wylfa Newydd:

  • asesu dyluniad yr adweithyddion
  • Trwyddedu Amgylcheddol a Thrwyddedu Morol
  • darparu cyngor arbenigol i sefydliadau eraill ar benderfyniadau y mae angen iddynt eu gwneud

Er bod Horizon wedi tynnu nifer o geisiadau am drwyddedau yn ôl, rydym yn parhau i benderfynu ar y Drwydded Gollyngiadau Dŵr Adeiladu a'r Drwydded Forol.

Hyd nes y cawn wybod fel arall, rydym yn parhau i chwarae ein rôl fel ymgynghorydd statudol yn y broses gynllunio.

 

Asesu dyluniad yr adweithyddion – Asesiad Dylunio Generig (GDA)

Mae dyluniad yr adweithydd a gynigir gan Horizon - yr Adweithydd Dŵr Berwedig Uwch, neu ABWR - wedi cael cymeradwyaeth Asesiad Dylunio Generig (GDA) ym mis Rhagfyr 2017.

Mae rhaglen pedair blynedd fanwl, y bartneriaeth hon rhwng CNC, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Swyddfa Rheoleiddio Niwclear yn ymchwilio ac yn asesu agweddau diogelwch, gwarchod yr amgylchedd a rheoli gwastraff ar gynlluniau adweithyddion.

Trwyddedu

Cyn y gall y datblygwr adeiladu a gweithredu gorsaf bŵer niwclear yn Wylfa Newydd, maent angen cael sawl trwydded gennym.

Byddwn yn cynnal asesiad trylwyr o gynigion Horizon i weld a ydynt yn cynnwys digon o ddulliau diogelu i amddiffyn pobl a’r amgylchedd, cyn penderfynu a ddylid cyhoeddi'r trwyddedau neu wrthod y cais.

Rydym eisoes wedi rhoi rhai trwyddedau i warchod yr amgylchedd ar gyfer gwaith sydd eisoes wedi’i wneud, er enghraifft i ganiatáu torri coed cyfyngedig, i ddefnyddio chwynladdwr mewn modd rheoledig, gosod offer monitro mewn cyrsiau dŵr ac i gynnal ymchwiliadau ar waelod y môr.

Roedd Horizon wedi cyflwyno nifer o geisiadau am drwyddedau i ni cyn atal y prosiect, sef:

Sylweddau Ymbelydrol

Derbyniwyd y cais am drwydded hwn gan CNC ym mis Hydref 2017

Dangos sut y bydd Horizon yn diogelu pobl a'r amgylchedd trwy leihau faint o wastraff ymbelydrol y mae'n ei gynhyrchu a'i ryddhau.

Mae'r cais hwn am drwydded wedi'i dynnu'n ôl yn swyddogol gan y datblygwr ar 14 Chwefror 2019.

Gollwng Dŵr Adeiladu

Derbyniwyd y cais am drwydded hwn gan CNC fis Mehefin 2018

Rheoli a lleihau effaith draenio'r safle a dŵr halogedig yn ystod y prif gyfnod adeiladu. Er enghraifft, gallai hyn gynnwys gollyngiadau o ddŵr glaw ffo a gollyngiadau o system garthffosiaeth.

Trwyddedu morol

Derbyniwyd y cais am drwydded hwn gan CNC fis Mehefin 2018

Mae hyn yn ofynnol ar gyfer unrhyw waith sy'n cynnwys adeiladu, symud a gwaredu deunyddiau islaw'r marc dŵr uchel. Mae hyn yn cynnwys nodweddion fel morgloddiau, cyfleuster i ddadlwytho llongau (MOLF - cyfleuster dadlwytho morol) neu garthu morol.

Gollwng dŵr oeri

Derbyniwyd y cais am drwydded hwn gan CNC fis Mehefin 2018

I leihau effaith amgylcheddol tynnu dŵr y môr i oeri systemau'r atomfa ac i'w ollwng (yn gynhesach a chyda rhai cemegau) yn ôl i'r môr.

Mae'r cais hwn am drwydded wedi'i dynnu'n ôl yn swyddogol gan y datblygwr ar 14 Chwefror 2019.

Gosod system losgi

Derbyniwyd y cais am drwydded hwn gan CNC fis Mehefin 2018

Sicrhau bod gan eneraduron a boeleri argyfwng wrth gefn fesurau i ddiogelu'r amgylchedd lleol.

Mae'r cais hwn am drwydded wedi'i dynnu'n ôl yn swyddogol gan y datblygwr ar 14 Chwefror 2019.

Tynnu Dŵr Daear

Gan fod y prosiect wedi ei atal, ni fydd Horizon yn cyflwyno cais ar gyfer y gweithgaredd hwn

Cyngor Cynllunio

Mae ein rôl hefyd yn cynnwys rhoi cyngor arbenigol i sefydliadau eraill ar benderfyniadau y maent angen eu gwneud.

Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu ar ganiatâd cynllunio ar gyfer yr orsaf bŵer newydd, a fydd hefyd yn cynnwys y prif ddatblygiadau sy’n gysylltiedig â’r prosiect. Cyngor Sir Ynys Môn yw’r un sy’n gwneud penderfyniad ar gyfer y gwelliannau i’r A5025 o Wylfa i’r Fali a'r gweithgareddau paratoi a chlirio cynnar yn y safle.

Byddwn yn darparu cyngor arbenigol i’r sefydliadau hyn ar sut i ddiogelu a gwella’r amgylchedd ar sawl agwedd.

Cysylltwch â ni – am ragor o wybodaeth energyisland@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk 

Diweddarwyd ddiwethaf