Cwympo coed yn Rhyslyn, Parc Coedwig Afan

Mae coed sydd wedi’u heintio â chlefyd llarwydd yn cael eu cwympo yn rhan Rhyslyn o Barc Coedwig Afan. Disgwylir i’r gwaith gymryd oddeutu chwe mis i’w gwblhau. Dyma’r lle gorau i ddod o hyd i’r wybodaeth gywir ddiweddaraf.

Amseriad y gwaith

Penderfynodd timau Coedwigaeth Afan yn bwrpasol i osgoi dechrau’r gwaith cwympo coed yn ystod gwyliau’r ysgol er mwyn lleihau’r effaith ar fusnesau lleol sy’n dibynnu ar ymwelwyr â’r goedwig, sy’n dod yno i fwynhau cerdded, rhedeg, marchogaeth, beicio a beicio mynydd.

Dargyfeiriadau a chau llwybrau

Torri coed Rhyslyn - Ardal Gynaeafu 1

Bydd rhai o’r llwybrau cerdded a beicio mynydd yn cael eu cau a’u dargyfeirio wrth i’r gwaith fynd rhagddo. Mae’r union fanylion yn cael eu cadarnhau a byddant yn cael eu hychwanegu at yr hwb gwybodaeth hwn.

Rydym ni’n deall pwysigrwydd Parc Coedwig Afan o safbwynt hamdden ac rydym ni’n gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau’r effaith y bydd hyn yn ei gael ar bobl sy’n dymuno ymweld â’r goedwig, gan barhau i sicrhau diogelwch ar y lefel uchaf posibl i ymwelwyr a chontractwyr.

Disgwyliwn y bydd y llwybrau canlynol yn cael eu heffeithio:

Llwybrau MTB:

Y Wal – drwy gydol y gwaith cynaeafu, bydd newidiadau dros dro yn cael eu gwneud gan gynnwys dechrau a diwedd swyddogol yn Bryn Bettws Lodge gydag addasiadau i’r llwybr.

Map o Lwybr MTB Dros Dro Y Wal

Yn dilyn cyfres o waith cwympo, bydd angen cau rhannau o’r llwybrau canlynol, gan gynnwys:

Brickworks, Alpha, Elevator, 6ft Under, Resurrection, Stage 4, Zig Zags ac Omega

Llwybr Rookie Glas – yn ystod y gwaith cynaeafu yn yr ardal hon, bydd y Llwybr Rookie Glas ar gau.

Rheilffordd – drwy gydol y gwaith cynaeafu, bydd Llwybr y Rheilffordd ar hyd ffordd goedwig Rhyslyn ar gau. Bydd dal modd cael mynediad i’r Llwybr Rheilffordd ar hyd y llwybr Sustrans.

Llwybrau cerdded

Llwybr Pen-rhys – yn ystod y cyfnod cynaeafu yn yr ardal hon, bydd Llwybr Pen-rhys ar gau.

Llwybr Afon a Rheilffordd – yn ystod y gwaith cynaeafu yn yr ardal hon, bydd Llwybr Afon a Rheilffordd yn cael ei addasu dros dro i gynnwys taith gylchol fer, gan ddefnyddio disgyniad Llwybr Rookie Glas.

Llwybr Crib Gyfylchi – drwy gydol y gwaith cynaeafu, bydd newidiadau dros dro yn cael eu gwneud gan gynnwys dechrau a diwedd swyddogol yn Bryn Bettws Lodge gydag addasiadau i’r llwybr.

Map o ddargyfeiriad Llwybr Cerdded Crib Gyfylchi

Hawliau tramwy cyhoeddus – mae’r cwmni sy’n prynu’r pren, WBE (Western Bio Energy) wedi gwneud cais i gau’r holl  hawliau tramwy cyhoeddus yn ffurfiol o fewn y llannerch ac ar hyd y ddau lwybr tynnu coed hyd at yr ardal stacio coed.

Bydd y canlynol yn parhau i fod ar agor:

  • Pob maes parcio
  • Llwybr White’s Level
  • Llwybr Blade
  • Llwybr Awyrlin
  • Richard Burton Birthplace Trail
  • Llwybr Rookie Gwyrdd
  • Llwybr Blue Scar
  • Ardal sgiliau ar y Llwybr Rookie
  • Taith Hen Ffordd y Llan

Clefyd Llarwydd

Rydym ni’n tynnu’r coed yma gan eu bod wedi’u heintio â chlefyd llarwydd, neu Phytophthora ramorum.

Mae hwn yn glefyd tebyg i ffwng sy’n achosi difrod sylweddol a marwolaethau ymysg amrywiaeth eang o goed a phlanhigion eraill. Er nad oes modd i ni atal lledaeniad clefyd llarwydd, gallwn gymryd camau i’w arafu.

Mae’n ddyletswydd cyfreithiol arnom ni i waredu’r coed llarwydd sydd wedi’u heintio dan yr Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol – Symudiad – a gyflwynir gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhaid cwympo’r holl goed llarwydd fel rhan o’n strategaeth genedlaethol i atal lledaeniad pellach.

Helpwch ni i osgoi oedi

Rydym ni’n annog unrhyw un sy’n ymweld â Choedwig Afan yn ystod y gwaith cwympo i ddilyn y dargyfeiriadau a’r arwyddion yn nodi bod llwybrau ar gau.

Pan fo pobl yn anwybyddu dargyfeiriadau ac arwyddion bod llwybrau ar gau, gallant fynd i mewn i safleoedd gweithredol peryglus, gan orfodi contractwyr i oedi’r gwaith nes bydd aelodau’r cyhoedd wedi symud o’r ardal. Gall yr amhariadau hyn arwain at oedi wrth ail-agor y llwybrau sydd wedi’u heffeithio.

Pwyntiau gwybodaeth

Byddwn yn diweddaru arwyddion llwybrau ac yn gosod pwyntiau gwybodaeth mewn meysydd parcio ym Mharc Coedwig Afan cyn dechrau ar y gwaith cwympo.

Ar ôl cynaeafu

Ar ôl cwblhau’r gwaith cynaeafu, bydd yr holl lwybrau sydd wedi’u heffeithio’n cael eu hadfer cyn gynted â phosibl, a bydd gwelliannau’n cael eu gwneud i rai ardaloedd.

Bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau golygfannau newydd o’r afon.

Bydd gwaith ail-stocio sylweddol yn cael ei wneud drwy blannu coed llydanddail a chonwydd cymysg i dyfu coetir iachach a chryfach.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru