Mae llawer o'r pibellau carthffosiaeth yng Nghymru yn 'garthffosydd cyfun'. Mae hyn yn golygu eu bod fel arfer yn cyfuno dŵr gwastraff o'n cartrefi a'n busnesau (toiledau, sinciau, cawodydd, baddonau ac ati) a dŵr glaw glân o ffyrdd, ardaloedd o leiniau caled a thoeau.

Yn ystod glaw trwm gall swm y carthion fod yn fwy na’r hyn all y pibellau hyn ddygymod ag ef, sy'n golygu llifogydd posibl mewn gweithfeydd carthion sy'n effeithio ar y broses o drin y carthion, a'r potensial i orlenwi a gorlifo cartrefi pobl, busnesau, ffyrdd a mannau agored, oni bai y caniateir iddo lifo mewn mannau eraill.

Dyma pam y datblygwyd gorlifoedd storm (y cyfeirir atynt yn aml fel Gorlifoedd Carthffosydd Cyfun) i weithredu fel falfiau gorlif i leihau'r risg o garthion yn gorlenwi yn ystod glaw trwm.

Defnyddir Gorlifoedd Storm Cyfun (CSOs) yn ystod cyfnodau o law trwm i helpu i ddiogelu eiddo rhag llifogydd ac atal carthion rhag gorlifo i'n strydoedd a'n cartrefi.

Gan mai dim ond yn ystod tywydd gwlyb y mae gollyngiadau carthion storm yn digwydd, mae'r carthion yn y carthffosydd wedi'u gwanhau ac mae gan yr afonydd gyfeintiau mawr o ddŵr ynddynt. Mae hyn yn sicrhau bod effaith carthion storm sy'n mynd i mewn i'r cwrs dŵr yn cael ei leihau.

Ein rôl fel rheoleiddiwr

Rydym yn cyflwyno trwyddedau ar gyfer gorlifoedd storm sy'n ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dŵr sicrhau mai dim ond yn ystod glawiad, pan fydd swm y carthion y tu hwnt i gapasiti'r garthffos oherwydd glawiad a/neu eira tawdd.

Mewn rhai achosion, mae trwyddedau hefyd yn mynnu bod y carthion yn cael eu sgrinio cyn eu gollwng er mwyn atal sbwriel carthion fel weips, ffyn gwlân cotwm a nwyddau mislif rhag cyrraedd yr amgylchedd.

Rydym wedi ei gwneud yn ofynnol i'r cwmnïau dŵr yng Nghymru osod monitorau ar orlifoedd storm i gofnodi gollyngiadau storm. Cyfeirir at y rhain fel offer Monitro Hyd Digwyddiadau (EDM). Cwblhawyd y gwaith o osod y monitorau ym mis Mawrth 2020. Mae'r monitorau hyn yn golygu bod gennym ddata nawr i ddangos pa mor aml y mae'r gollyngiadau'n digwydd, ac am ba hyd.

Pan fyddwn yn derbyn adroddiad am achos o lygredd o ganlyniad i orlif storm, rydym yn cynnal ymchwiliad ac yn gweithredu os byddwn yn canfod trosedd neu lygredd sy’n effeithio ar yr amgylchedd.

Rydym yn gosod targedau ar gyfer DCWW a Hafren Dyfrdwy i leihau nifer yr achosion o lygredd y maent yn eu hachosi, a phob blwyddyn rydym yn cyhoeddi eu perfformiad.

Darllenwch yr Adroddiadau Asesu Perfformiad Amgylcheddol Blynyddol.

Gollyngiadau gorlifoedd storm yn ystod tywydd sych

Yn anffodus, mae gollyngiadau'n digwydd weithiau mewn tywydd sych oherwydd rhwystrau mewn carthffosydd, lle mae'r bibell wedi'i rhwystro ac yn achosi carthion i orlenwi a gollwng o ganlyniad i orlif storm. Gan na fyddai'r llif yn cael ei wanedu â dŵr glaw, gall achosi effaith amgylcheddol.

Mae rhwystrau’n cael eu hachosi’n aml pan fydd eitemau cartref yn cael eu fflysio i lawr y toiled neu'n cael eu harllwys i lawr y sinc, megis weips, nwyddau mislif a brasterau ac olew coginio.

Ble bynnag a phryd bynnag y bydd achos o lygredd, bydd CNC yn asesu'r digwyddiad ac yn defnyddio ei bwerau gorfodi yn briodol.

Pa mor aml y mae gorlifoedd storm yn digwydd yng Nghymru?

Mae'r tabl hwn yn dangos nifer y gollyngiadau a gofnodwyd fesul blwyddyn a nifer y gorlifoedd heb eu trwyddedu yng Nghymru gydag EDM wedi'i osod.

  2020 2019 2018 2017 2016
Nifer y gollyngiadau a gofnodwyd gan EDM 105,751 73,517 48,499 29,878 14,485
Nifer y gorlifoedd storm gydag EDM wedi'i osod 2041 1665 1359 983 545

NODYN Parthed y Tabl.

  • Mae'r cynnydd mewn gollyngiadau o flwyddyn i flwyddyn yn ganlyniad i osod mwy o offer monitro hyd digwyddiadau (EDM), a'r data sydd ar gael o ganlyniad i hynny.
  • Rydym yn ymwybodol bod DCWW a HD yn gweithio i wella dibynadwyedd y data a adroddir drwy EDM. Ar ddiwedd mis Mawrth 2020, llwyddwyd i osod EDM ym mhob achos o orlif storm.
  • Mae'n ofynnol i'r ddau gwmni dŵr ddarparu crynodeb o'u data ar ollyngiadau sydd ar gael drwy’r monitorau i CNC yn flynyddol. Mae'r wybodaeth hefyd yn cael ei hadrodd ar eu gwefannau.

Beth ydym yn ei wneud i leihau effeithiau gorlifoedd storm?

Rydym yn adolygu ein dull gweithredu o ran gorlifoedd storm yng Nghymru, o ran trwyddedu a rheoleiddio gollyngiadau presennol, yn ogystal â'n huchelgais ar gyfer y dyfodol.

Mae data EDM yn cael ei ddefnyddio i lywio'r gwaith o ddatblygu rhaglen DCWW sy’n seiliedig ar fuddsoddiad wedi'i dargedu, o dros £20m, gyda'r nod o leihau effeithiau amgylcheddol gorlifoedd a nodwyd fel gollyngiadau 'uchel' (mwy na 40 o ollyngiadau blynyddol).

Mae CNC yn gweithio'n agos gyda DCWW ar y rhaglen hon i sicrhau bod buddsoddiad yn cael ei dargedu'n briodol. Rydym hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gwmnïau dŵr yng Nghymru dargedu buddsoddiad at gynyddu capasiti a storio gwastraff yn y rhwydwaith carthffosiaeth, a chynnal gwaith monitro ychwanegol fel y gallwn ddeall yn well y materion sy'n codi a gwneud gwaith rheoleiddio priodol lle bynnag y bo angen.

Ar hyn o bryd, mae rhagdybiaeth yn erbyn trwyddedu gorlifoedd storm newydd, oni bai eu bod yn rhan o gynllun ehangach sy'n sicrhau gwelliant net mewn ansawdd dŵr.

Beth ydym yn ei wneud am orlifoedd storm heb eu trwyddedu?

Rydym wedi rhoi rhaglen ar waith i sicrhau bod yr holl orlifoedd storm heb eu trwyddedu a nodwyd yng Nghymru yn cael eu dwyn o fewn ein fframwaith rheoleiddio. Fel hyn, byddwn yn asesu a oes effaith amgylcheddol o ganlyniad i’r gollyngiadau ac yn gofyn am y buddsoddiad priodol i sicrhau gwelliannau i'r seilwaith gwastraff.

Gall pawb chwarae eu rhan

Gall pawb sydd â chysylltiad i garthffos chwarae eu rhan i leihau gollyngiadau o orlifoedd storm. Mae'n hanfodol nad oes unrhyw beth amhriodol yn cael ei roi i lawr y garthffos gan fod hyn yn aml yn achosi rhwystrau sy'n arwain at ollyngiadau o orlifoedd storm ar ddiwrnodau sych. Mae weips yn aml yn cyfrannu at rwystrau mewn carthffosydd a dylid cael gwared ohonynt mewn bin, nid i lawr y toiled. Ni ddylid golchi brasterau, olew na saim i lawr sinciau chwaith gan eu bod yn glynu wrth y tu mewn i bibellau carthffosydd sy'n arwain at rwystrau.

Mae newid yn yr hinsawdd, ynghyd â phoblogaeth sy'n tyfu a’r lleihad yn y nifer o fannau gwyrdd yn arwain at bwysau ychwanegol ar y rhwydwaith carthffosiaeth, ac rydym yn gweithio i sicrhau nad yw hyn yn arwain at fwy o ollyngiadau i'r amgylchedd.

Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, OFWAT, y Cyngor Defnyddwyr Dŵr yn ogystal â'r ddau gwmni dŵr sy'n gweithredu yng Nghymru i wella'r ffordd yr ydym yn mynd i'r afael ag effeithiau amgylcheddol gorlifoedd storm yng Nghymru.

Diweddarwyd ddiwethaf