ORML2233 Cais am Drwydded Forol Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr
Ar gyfer beth mae’r cais am drwydded forol?
Ar 30 Mai 2022, cyflwynodd Awel y Môr Offshore Wind Farm Limited gais am drwydded forol i CNC ar gyfer Fferm Wynt Alltraeth Sefydlog o'r enw Awel y Môr.
Mae Fferm Wynt Alltraeth Awel y Môr yn chwaer brosiect arfaethedig i Fferm Wynt Alltraeth weithredol Gwynt y Môr oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Bydd Awel y Môr yn cynnwys hyd at 50 o Eneraduron Tyrbinau Gwynt a'r holl seilwaith cysylltiedig sydd ei angen i drosglwyddo'r trydan a gynhyrchir i'r lan.
Mae ardal aráe Awel y Môr tua 10.5km oddi ar arfordir gogledd-ddwyrain Cymru. Mae Coridor y Cebl Allforio yn y môr yn ymestyn o ffin dde-orllewinol i ffin dde-ddwyreiniol ardal yr aráe i gyfeiriad y de-ddwyrain i gwrdd â’r tir ar Draeth Frith rhwng y Rhyl a Phrestatyn.
Y tu allan i gwmpas y cais hwn am drwydded forol, mae Coridor Cebl Allforio ar y tir yn ymestyn o'r tir i'r is-orsaf ar y tir i'r gorllewin o Barc Busnes Llanelwy cyn cysylltu ag is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Modelwyddan.
Beth yw rôl Cyfoeth Naturiol Cymru wrth benderfynu ar y cais am drwydded forol?
Yng Nghymru, fel yr awdurdod trwyddedu morol ar ran Gweinidogion Cymru, ein rôl ni yw penderfynu ar y cais am drwydded forol. Mae hyn yn cwmpasu agweddau ar y prosiect ar gyfer gwaith y mae'n ofynnol ei wneud o fewn yr amgylchedd morol ac ardaloedd llanwol (yr ardal sy'n disgyn tua'r môr o Benllanw Cymedrig y Gorllanw) ac i benderfynu a ddylid rhoi trwydded gydag amodau neu wrthod y cais. Mae'r camau rydym yn eu dilyn wrth benderfynu a ddylid caniatáu neu wrthod trwydded yn cael eu diffinio gan ofynion cyfreithiol.
Wrth benderfynu a ddylid rhoi trwydded forol ai peidio, rhaid inni ystyried yr angen i:
- ddiogelu iechyd pobl
- ddiogelu yr amgylchedd
- sicrhau nad yw'r cynnig yn ymyrryd â defnydd cyfreithlon o'r môr.
Rydym yn gwneud y penderfyniad hwn yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael a gyflwynwyd i gefnogi'r cais ac a gyflwynwyd i ni drwy'r broses ymgynghori.
Mae'n ofynnol i ni gyfiawnhau'r penderfyniad hwn o fewn y cyfyngiadau cyfreithiol hyn. Er enghraifft, ni fyddai'n briodol inni wrthod y drwydded dim ond am fod gwrthwynebiad lleol i'r gweithgaredd sy'n cael ei wneud yn y lleoliad hwn.
Gyda pha sefydliadau ydych chi wedi ymgynghori?
Rydym yn gweithio gyda nifer o sefydliadau a chyrff arbenigol i geisio eu barn ar ddiogelu iechyd pobl, yr amgylchedd ac ymyrraeth bosibl â defnydd cyfreithlon o'r môr. Mae'r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- Amryw adrannau o fewn Cyfoeth Naturiol Cymru e.e. Arbenigwyr Technegol;
- Y Gymdeithas Hwylio Frenhinol;
- Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau;
- Trinity House;
- Awdurdodau Lleol Perthnasol
- RSPB
Byddai pob un o'r cyrff arbenigol hyn yn rhoi sylwadau ar eu maes gwybodaeth neu gyfrifoldeb priodol. Er enghraifft, byddwn yn gofyn i Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau roi sylwadau ar ymyrraeth bosibl â defnyddiau eraill o’r môr fel cludiant mewn llongau a mordwyo diogel. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'r holl ymgyngoreion i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon ac yn ystyried eu cyngor arbenigol wrth wneud ein penderfyniad.
Yn ogystal ag ymgynghori â sefydliadau a chyrff cyhoeddus, rydym hefyd yn ymgynghori â'r cyhoedd, i'n helpu i ystyried safbwyntiau na fyddem efallai'n ymwybodol ohonynt fel arall. Gwnaethom ymgynghori'n gyhoeddus ar y wybodaeth a gyflwynwyd yn y cais gwreiddiol. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw am 42 diwrnod yn gorffen ar 18 Awst 2022.
Ar ôl ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad gwnaed cais am ragor o wybodaeth gan yr ymgeisydd ar 8 Medi 2022.
Derbyniwyd rhagor o wybodaeth gan yr ymgeisydd ar 25 Tachwedd 2022. Gwnaethom ymgynghori â nifer o sefydliadau a chyrff arbenigol i ofyn eu barn ar yr wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd. Hefyd, gwnaethom ymgynghori â’r cyhoedd, cynhaliwyd yr ymgynghoriad hwnnw am 42 diwrnod yn gorffen ar 26 Ionawr 2023.
Mae’r wybodaeth ychwanegol ynghyd â’r holl ddogfennau sydd ar gael sy’n gysylltiedig â’r cais i’w gweld ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein (Gallwch chwilio am y dogfennau gan ddefnyddio cyfeirnod y cais, sef ORML2233)
Beth yw'r camau nesaf?
Byddwn yn ystyried yr holl ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori i’n helpu i gyfarwyddo ein penderfyniad ar y cais.
Byddwn yn parhau i asesu’r holl wybodaeth a dderbyniwyd i’n helpu i wneud ein penderfyniad, a byddwn yn ceisio cyngor arbenigol pellach os bydd angen. Efallai hefyd y byddwn yn dewis gofyn am eglurhad neu wybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd os ystyrir bod hynny’n angenrheidiol.
Pan fyddwn yn fodlon ein bod wedi asesu'r holl wybodaeth berthnasol yn llawn, byddwn yn cyhoeddi ein penderfyniad terfynol ar ein gwefan gyda dogfen benderfyniad sy'n crynhoi ein penderfyniad ac yn dangos sut rydym wedi ystyried y sylwadau rydym wedi'u derbyn.
Pa fathau eraill o ganiatâd sydd eu hangen ar y prosiect?
Yn ogystal â'r cais am drwydded forol, mae Awel y Môr Offshore Wind Farm Limited wedi cyflwyno cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu sy'n cael ei ystyried gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar hyn o bryd. Mae rhagor o wybodaeth am y cais am Orchymyn Cydsyniad Datblygu ar gael ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio.
Mae rhai agweddau ar yr asesu amgylcheddol lle byddwn yn dibynnu ar yr asesiad a gynhaliwyd o dan broses y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu. Serch hynny, mae yna brosesau gwahanol ar gyfer penderfynu ar y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu a'r Drwydded Forol.