Datganiad CNC mewn ymateb i adroddiad Adran 19 Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Rydym yn llwyr sylweddoli’r effaith ddybryd a gafodd stormydd Chwefror 2020 ar gymunedau yn Rhondda Cynon Taf. Roedd maint effeithiau strwythurol a dynol y llifogydd yn enbydus ac roedd y torcalon i’w weld yn amlwg yn y cymunedau hynny. Rydym yn dal i gydymdeimlo’n fawr â’r rhai y cafodd eu tai eu difrodi, y rhai y bygythiwyd eu bywoliaeth a’r rhai sy'n dal i adfer ac ailadeiladu heddiw.

Roedd y glawiad a brofwyd ym mis Chwefror 2020 yn ddigynsail ac yn eithriadol. Nid yw Cymru wedi gweld mis Chwefror gwlypach ers dechrau cadw cofnodion ym 1862. Hwn hefyd oedd y pumed mis gwlypaf a gofnodwyd erioed gan arwain at rai o'r llifogydd mwyaf sylweddol mae Cymru wedi’u gweld ers y 1970au.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn cytuno â’r datganiad yn adroddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) bod y "digwyddiad ar 15 a 16 Chwefror 2020 yn eithafol, ac mae'n annhebygol y gellid atal llifogydd yn sgil digwyddiad tebyg yn gyfan gwbl." 

Canfu adolygiad CNC o lifogydd Chwefror 2020 fod y dulliau gweithio a fabwysiadwyd gennym yn ystod y gwaith cwympo coed uwchben Pentre yn briodol ac yn unol â safonau coedwigaeth, ac nad oedd y gweithrediadau hyn yn debygol o fod yn brif achos y llifogydd.

Rydym yn derbyn y gallai deunydd pren a gafodd ei olchi oddi ar y mynyddoedd uwchben Pentre fod wedi cyfrannu at rwystrau i'r system gwlferi, a oedd hefyd yn cynnwys cryn dipyn o bridd a chreigiau.  Fodd bynnag, roedd cyfran o'r malurion pren ddim yn gysylltiedig â gweithrediadau cwympo CNC ac fe'u golchwyd i lawr o ganlyniad naturiol i ddigwyddiad mor eithafol. Felly mae CNC yn anghytuno â chasgliad yr adroddiad mai ei weithrediadau cynaeafu oedd prif achos y llifogydd yn ystod Storm Dennis.

Rydym yn gwybod bod y bobl yr effeithiwyd arnynt eisiau deall y rhesymau dros y llifogydd a beth y gellir ei wneud i helpu i leihau’r risg yn y dyfodol. Rydym wedi gweithio mewn partneriaeth â CBSRhCT i atgyweirio ac uwchraddio ceg y cwlfert ers y stormydd a chynnal archwiliadau rheolaidd mewn lleoliadau allweddol ar draws y Fwrdeistref drwy gydol y flwyddyn. Mae'r rhain yn digwydd yn amlach yn ystod cyfnod y gaeaf a chyn unrhyw ddigwyddiad glaw trwm.  Mae'r adroddiad yn nodi'r capasiti cyfyngedig yn y system gwlferi ym Mhentre ac o ganlyniad, mae CBSRhCT yn cynnal rhaglen o ymchwiliadau a gwaith uwchraddio.

Mae ein hadolygiadau ein hunain wedi tanlinellu ein hymrwymiad i ddysgu gwersi o stormydd mis Chwefror a gwneud gwelliannau lle bynnag y bo modd. Ond mae angen ystyried yn sylfaenol y dewisiadau y mae'n rhaid i bob un ohonom eu gwneud o ran sut y caiff perygl llifogydd ei reoli a sut caiff y gwaith ei gefnogi ar lefel genedlaethol yng Nghymru. Yn achos Pentre, rydym am weithio'n adeiladol gyda CBSRhCT a chydag awdurdodau rheoli perygl llifogydd eraill i barhau i adolygu'r hyn sy'n ymarferol bosibl i wella'r sefyllfa yn y gymuned hon.

Mae'n rhaid i ni dderbyn na allwn stopio'r glaw a bod rhywfaint o lifogydd yn anochel. Mae newid yn yr hinsawdd yn arwain at dywydd mwy eithafol, ac rydym yn sicr o weld mwy o'r mathau o stormydd a welsom yn 2020 yn y dyfodol. Dyna pam y dylai'r gwersi a ddysgwyd gan bob awdurdod rheoli perygl llifogydd sy'n rhan o'r ymateb i ddigwyddiadau mis Chwefror fod yn gatalydd ar gyfer y camau pendant sydd eu hangen i addasu i heriau'r dyfodol.

DIWEDD

Wnaeth CNC gyhoeddi adolygiadau ei hun i fewn i lifogydd Chwefror 2020 ym mis Hydref y llynedd. Gallwch ddod o hyd i’r adroddadau yma: Cyfoeth Naturiol Cymru / Llifogydd yng Nghymru ym mis Chwefror 2020 - Ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru (naturalresources.wales)

Diweddarwyd ddiwethaf