CNC yn cadarnhau ei safbwynt ar saethu
Ym mis Mai 2016, cyfarwyddodd Bwrdd CNC y dylid cynnal adolygiad ffurfiol i ddefnyddio drylliau tân ar y tir yr ydym yn ei reoli. Roedd yr adolygiad i ystyried pwrpas CNC, egwyddorion ac amcanion SMNR, a sut y gellir gyflawni Nodau'r Ddeddf Lles Cynhyrchu Dyfodol.
Yng Nghyfarfod Bwrdd Gorffennaf 2018 cytunwyd ar yr holl argymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth yr adolygiad, gan gynnwys yr argymhelliad y bydd CNC yn parhau i ystyried prydlesu hawliau ar gyfer saethu ffesantod, adar gwyllt a gweithgareddau eraill sy'n cynnwys drylliau fesul achos.
Ar 9 Gorffennaf 2018, derbyniodd CNC lythyr oddi wrth Hannah Blythyn AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, gan ddweud nad yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi saethu ffesantod, bridio adar y gêm, neu cadw adar mewn llociau dal, ar Ystâd Llywodraeth Cymru. Roedd y datganiad clir hwn yn ysgogi'r angen hefyd i Fwrdd CNC ystyried safbwynt y Llywodraeth, gan mai’r Llywodraeth yw’r perchennog tir.
Yng eu cyfoarfod mis Medi, cytunodd Aelodau Bwrdd CNC y bydd CNC yn:
- Rhoi’r gorau i brydlesu hawliau saethu ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, gan ddod i rym o fis Mawrth 2019 pan fydd y prydlesau cyfredol yn dod i ben. Ni fydd CNC yn cynnig unrhyw estyniadau i brydlesau presennol
- Ystyried ceisiadau am ganiatadau i yrru adar o Ystâd Goed Llywodraeth Cymru, ar yr amod nad yw’n golygu hel ffesantoed allan ar gyfer gynnau
- Adolygu prydlesu hawliau saethu adar gwyllt pan fo’r effeithiau posibl ar rywogaethau cadwraeth yn hysbys. Mae hyn tra bydd gwaith yn cael ei wneud gan adaregwyr CNC ar effaith saethu adar ar rywogaethau adar prin
- Parhau i ystyried ceisiadau am ganiatâd i reoli rhywogaethau gwyllt, sy’n effeithio ar amcanion rheoli tir cyfagos, gan ddefnyddio drylliau ar y tir a reolwn
Cynhaliwyd yr adolygiad i asesu defnydd drylliau o’i gymharu â rôl a phwrpas CNC, i reoli adnoddau naturiol Cymru mewn modd cynaliadwy. Roedd y Bwrdd wedi cytuno’n flaenorol ar set o argymhellion oedd yn seiliedig ar dystiolaeth mewn perthynas â defnyddio drylliau ar y tir mae’n ei reoli.
Heddiw, cytunodd y Bwrdd y dylai CNC ystyried ceisiadau am ganiatâd i reoli rhywogaethau gwyllt gan ddefnyddio drylliau ar y tir mae’n ei reoli ac y byddai ceisiadau i ddefnyddio drylliau ar gyfer gweithgareddau eraill megis saethu colomennod clai / targedau yn cael eu hystyried fesul achos unigol.
Dywedodd Madeleine Havard, Cadeirydd Gweithredol CNC:
Fel rheolwr tir, rydym yn seilio ein penderfyniadau ar dystiolaeth, ac mae rheolaeth gynaliadwy o’n adnoddau naturiol yn ganolbwynt i’n pwrpas. Dyna sut y bu i ni gynnal yr adolygiad hwn. Fodd bynnag, wrth wneud ein penderfyniadau terfynol, roedd yn rhaid i'r Bwrdd wrth gwrs ystyried sefyllfa Llywodraeth Cymru fel tirfeddiannwr yr ystad yr ydym yn ei reoli.