Rhaglen Grant Cymunedau Gwydn Cyfoeth Naturiol

Mae Rhaglen y Grant Cymunedau Gwydn yn canolbwyntio ar adeiladu cymunedau gwydn drwy gynyddu cyfranogiad cymunedol ym myd natur er mwyn cynyddu iechyd a lles a gwydnwch, a bydd yn cyfrannu at flaenoriaethau seiliedig ar leoedd sy’n ymwneud â chymunedau gwydn a nodir yn ein Datganiadau Ardal.

Cafodd CNC 210 o geisiadau, sef cyfanswm o dros £20 miliwn, ac roedd 21 o’r rhain yn llwyddiannus.

Meddai Martyn Evans, Pennaeth Gweithrediadau De Orllewin Cymru:

"Rydym yn falch iawn o weld safon y ceisiadau a ddaeth i law ar gyfer Cyllid Grant Cymunedau Gwydn 2022. Mae'n amlwg bod yr ymgeiswyr wedi ymrwymo i ymateb i'r heriau sy'n effeithio ar ein hiechyd a'n lles.
"Rydyn ni'n falch o wasanaethu pobl Cymru a gwneud popeth o fewn ein gallu i hyrwyddo ein hamgylchedd naturiol.
"Mae ein swyddogaeth o ran rhoi grantiau yn bwysig iawn i ni ac i'r rhai sy’n cael arian gennym; mae'r grantiau'n cefnogi prosiectau ar lawr gwlad sydd o fudd i gymunedau ac amgylchedd Cymru.
"Mae'r blaenoriaethau’r grantiau newydd hyn yn ategu blaenoriaethau Datganiadau Ardal CNC ac yn ein galluogi i annog dulliau cydweithredu newydd i ymateb i'r heriau sy'n wynebu gwahanol ardaloedd yng Nghymru."

Mae ymgeiswyr wedi cael gwybod a ydyn nhw wedi llwyddo i gael cyllid ar gyfer eu prosiectau ai peidio.

Ychwanegodd Martyn:

"Rydym yn deall y bydd ymgeiswyr aflwyddiannus a gyflwynodd geisiadau da yn siomedig.
"Mae'r gystadleuaeth am ein harian yn gref ac fe dderbynion ni lawer mwy o geisiadau nag y gallwn eu cefnogi.
"Ni lwyddodd ceisiadau aflwyddiannus i sgorio'n ddigon uchel o gymharu â'r ceisiadau eraill. Yn anffodus, ni allwn roi adborth penodol ar bob cais.
“Fodd bynnag, hoffem atgoffa ymgeiswyr y gallai ffynonellau cyllid eraill fod ar gael."

Bydd prosiectau llwyddiannus yn cael eu postio ar ein gwefan pan fydd gwobrau wedi'u cadarnhau.

Cwestiynau

Sawl cais oedd gennych chi?

210

Faint sydd wedi bod yn llwyddiannus?
Danfonir 21 cynnig

Ydych chi wedi dyrannu'r holl arian?

Mae'r holl gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi'i dyrannu ynghyd â'r rhan fwyaf ar gyfer eleni (roedd hi'n anoddach i ymgeiswyr ymrwymo i wariant yng ngweddill y flwyddyn ariannol hon)

Alla i ddarganfod pam nad oeddwn i'n llwyddiannus?

Yn anffodus, ni allwn roi adborth penodol ar bob cais.

A fydd cyfle arall i ymgeisio?

Mae'r cyfleoedd ariannu presennol yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan

Ydych chi'n mynd i ddweud wrthym pwy sydd wedi bod yn llwyddiannus?

Bydd, fe fydd prosiectau sydd wedi'u hariannu yn cael eu rhestru ar ein gwefan dros y mis nesaf wrth i gynigion gael eu derbyn ac mae gennym y darlun cyflawn.

Ydych chi wedi dyrannu'n gyfartal ar draws Cymru?
Rhannwyd y gyllideb yn gyfartal ar draws blaenoriaethau y 7 Datganiad Ardal. Derbyniodd y ceisiadau â'r sgôr uchaf o fewn y gyllideb gynigion

Pryd fyddwch chi'n gwybod pwy sy'n cael cyllid?

28 diwrnod ar ôl i'r llythyrau fynd allan.

Diweddarwyd ddiwethaf