Trwyddedau ar gyfer Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop dan Reoliad 55 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ac Erthygl 9 o Gyfarwyddeb Adar y Comisiwn Ewropeaidd

Rhwymedigaethau adrodd

Gall CNC roi trwyddedau i gyflawni gweithredoedd sy’n effeithio ar anifeiliaid neu blanhigion sy’n cael eu rhestru fel Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop ac adar gwyllt.

Rhoddir trwyddedau ar gyfer adar dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Rhoddir trwyddedau ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion eraill dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.

Cyn gadael yr UE, roedd CNC yn adrodd ar drwyddedau i’r Comisiwn Ewropeaidd o dan Erthygl 16 o’r Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac Erthygl 9 o’r Gyfarwyddeb Adar.

Mae’r gofyniad Cyfarwyddeb Cynefinoedd bellach wedi cael ei drosglwyddo i ddeddfwriaeth y DU.

Mae’n rhaid i CNC gyhoeddi adroddiad bob dwy flynedd. Mae hyn yn unol â Rheoliad 55 o Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017.  

Mae CNC wedi dewis cyhoeddi manylion y trwyddedau a roddwyd ar gyfer adar, er nad yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith. Rydym ni wedi cyhoeddi’r manylion ochr yn ochr â’n cyhoeddiadau am drwyddedau ar gyfer anifeiliaid a phlanhigion eraill.

Mae’r datganiad hwn yn atodol i’r data a ddarperir ar drwyddedau Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop a Thrwyddedau Adar Gwyllt. Dylid ystyried hyn fel rhan o’n hadroddiad.

 

Rhoi trwydded

Dim ond at ddiben penodol dan y ddeddfwriaeth y gall CNC roi trwydded. Er enghraifft

  • at ddibenion ymchwil neu addysgu (Adar)
  • at ddibenion gwyddonol neu addysgiadol (Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop)
  • er budd iechyd neu ddiogelwch y cyhoedd
  • i atal difrod difrifol i gnydau, da byw, coedwigoedd, pysgodfeydd a dŵr
  • pan fo’n bwysig o safbwynt diddordeb y cyhoedd, er enghraifft ar gyfer rhesymau cymdeithasol neu economaidd (Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yn unig)
  • ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddangos

  • bod eu diben yn addas i’r Rheoliadau Cynefinoedd neu nodau’r Gyfarwyddeb Adar
  • nad oes dewis neu ateb boddhaol arall
  • na fydd yn niweidio sefydlogrwydd statws cadwraeth poblogaeth y rhywogaeth yn eu cynefinoedd arferol.

Er mwyn profi na fydd statws cadwraeth poblogaeth Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop yn cael ei niweidio, mae’n rhaid i’r ymgeisydd ddarparu 

  • data arolwg cadarn
  • methodoleg
  • mesurau lliniaru a digolledu addas

Mae’n rhaid i’r ymgeisydd brofi ei fod yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth a’r profiad i oruchwylio a chwblhau’r gwaith.

Dulliau

Pan fo CNC yn rhoi trwyddedau i gymryd neu ddal Rhywogaethau penodol a Warchodir gan Ewrop, dim ond y dulliau safonol isod a ganiateir.

  • Ystlumod – â llaw, rhwydi addas gan gynnwys trap telyn neu rwyd niwlog
  • Madfallod Cribog y Dŵr – â llaw, trapiau potel neu drapiau syrthio i dwll
  • Pathewod – â llaw
  • Planhigion – â llaw neu gyda gafaelfach

Mae’r drwydded yn nodi’r dulliau cymeradwy i’w defnyddio a phryd y gellir gwneud y gweithgareddau.

Adroddiadau Ymateb i Drwyddedau

Mae adroddiadau ymateb i drwyddedau’n amod ym mhob trwydded. Dylid cyflwyno’r adroddiad o fewn pedair wythnos i ddyddiad terfyn y drwydded.

Os oes angen lliniaru, mae monitro ar ôl cwblhau gwaith yn amod o’r drwydded, a dylid adrodd ar hynny’n ogystal.

Mae arbenigwyr CNC yn adolygu canlyniadau monitro ac yn mynd ar drywydd adroddiadau nad ydynt wedi’u cyflwyno. Bydd ddiffyg cydymffurfiaeth gydag amodau’r drwydded yn destun camau gorfodi.

Gwybodaeth bellach

Am ragor o fanylion, ewch i’n tudalen Trwyddedau a Chaniatáu.  

 

Diweddarwyd ddiwethaf