Gwaith cwympo coed ger Llanbedr Pont Steffan yn 2021

Bydd gwaith cwympo coed yn digwydd yng Nghoedwig Uchaf, Coedwig Isaf a Lodge Wood ar gyrion Llanbedr Pont Steffan tua diwedd y flwyddyn. Mae hyn oherwydd presenoldeb eang clefyd y llarwydd yn y blociau coedwig hynny.

Y gwaith cwympo

Er nad yw’r clefyd ei hun yn niweidiol i bobl, mae'n aml yn angheuol i goed llarwydd. O ganlyniad, mae Hysbysiad Iechyd Planhigion Statudol (HIPS) wedi'i gyflwyno ar gyfer y coed hynny. Mae HIPS yn gofyn am ddinistrio'r coed.

Bydd y math o gwympo yn y blociau coedwig yn dibynnu ar y crynodiad o goed llarwydd mewn ardal benodol fel y disgrifir isod:

  • Adrannau sydd â chrynodiad uchel o goed llarwydd: Bydd yn rhaid i'r adrannau hyn gael eu cwympo'n llwyr. Mae hyn yn golygu y bydd pob coeden yn yr adrannau hyn yn cael eu torri, ac eithrio coed llydanddail mawr ac iach.
  • Adrannau heb grynodiad uchel o goed llarwydd: Bydd y coed llarwydd yn yr adrannau hyn yn cael eu torri’n ddetholus a bydd rhywogaethau llydanddail brodorol yn cael tyfu. Bydd gwaith cwympo coed dethol yn cael rhywfaint o effaith weledol ar y rhannau hynny o’r coedwigoedd.
  • Adrannau heb goed llarwydd: Bydd yr adrannau hyn yn mynd drwy'r broses deneuo arferol fel rhan o'r gwaith safonol o reoli coedwigaeth. Dim ond ychydig iawn o effaith weledol a gaiff hyn.

Mae'r map isod yn dangos y math o gwympo a fydd yn digwydd mewn gwahanol rannau o'r blociau coedwig.
Nodwch y bydd yr adrannau melyn yn cael eu cwympo'n llwyr, bydd yr adrannau glas yn cael eu cwympo'n ddetholus, a bydd yr adrannau gwyrdd yn cael eu teneuo. Ni fydd gwaith cwympo coed yn digwydd mewn ardaloedd o goedwig nad ydynt wedi'u lliwio.

Beth yw clefyd y llarwydd?

Mae clefyd y llarwydd, neu phytophthora ramorum, yn glefyd tebyg i ffwng sy'n gallu achosi difrod helaeth a marwolaeth i ystod eang o goed a phlanhigion eraill. Mae’r clefyd yn ymledu drwy sborau yn yr awyr, sy’n mynd o goeden i goeden. Nid yw'n fygythiad i iechyd pobl nac anifeiliaid.

Er na allwn atal clefyd y llarwydd rhag lledaenu, gallwn gymryd camau i'w arafu.

Yn 2013, nododd arolygon fod clefyd y llarwydd yn lledaenu'n gyflym ar draws coedwigoedd yng Nghymru, gan ysgogi strategaeth genedlaethol i gael gwared ar goed heintiedig i'w atal rhag lledaenu ymhellach.

Mae'r clefyd wedi heintio tua 6.7 miliwn o goed llarwydd ledled Cymru ac wedi cael effaith ddramatig ar ein coedwigaeth.

Pam mae angen cynnal y gwaith?

Bydd llwyrdorri rhannau o goedwig yn cael effaith sylweddol ar y dirwedd leol. Er bod hyn yn destun gofid, mae'n angenrheidiol am ddau reswm allweddol:

  1. Diogelwch: Os cânt eu gadael i sefyll, bydd y coed llarwydd heintiedig yn marw yn y pen draw ac yn cwympo eu hunain. Mae hwn yn fater diogelwch amlwg na ellir ond ei reoli drwy gwympo'r coed mewn modd rheoledig.
  2. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gydymffurfio â'r HIPS: Rhoddir Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol i fynd i'r afael â lledaeniad clefyd planhigion.

Yn ogystal â'r rhesymau allweddol uchod, mae cwympo'r coed tra bônt yn dal i fod mewn cyflwr gwerthadwy yn galluogi CNC – fel rheolwr Ystad Goetir Llywodraeth Cymru – i werthu'r hawliau cwympo ar gyfer y pren. Mae'r arian a geir yn sgil gwerthu'r hawliau cwympo yn cael ei ailfuddsoddi ar unwaith yn yr ystad, gan ganiatáu CNC reoli coedwigoedd yn gynaliadwy.

Beth fydd yn digwydd ar ôl y gwaith cwympo coed?

Ar ôl y gwaith cwympo coed, bydd yr adrannau sydd wedi'u cwympo'n llwyr yn cael eu hailblannu â rhywogaethau llydanddail brodorol. Bydd hyn yn y pen draw yn adfer nodweddion coetir hynafol i'r ardal a bydd yn helpu bioamrywiaeth leol i ffynnu.

Pryd fydd y gwaith cwympo coed yn digwydd?

Nid ydym mewn sefyllfa i gadarnhau union amser y gwaith ar hyn o bryd. Byddwn yn cadarnhau amseriad y gwaith pan fydd y wybodaeth gennym.
Bydd y cyfle i brynu’r hawl i gwympo ar gyfer y bloc hwn o goedwigaeth yn codi ym mis Gorffennaf 2021, a byddem yn disgwyl i'r contractwyr ddechrau gwaith cwympo coed cyn diwedd y flwyddyn. Yn unol ag arfer safonol, bydd gan y contractwr chwe mis i gwblhau'r gwaith, gan gynnwys cludo’r pren.

Pa effaith y gallai'r gwaith ei chael ar drigolion lleol?

Gall gweithrediadau cwympo coed amharu ar drigolion lleol gan ei bod yn broses sy'n gofyn am beiriannau trwm a chludiant.

Er gwaethaf hyn, bydd CNC yn gosod amodau ar werthu'r hawliau cwympo a fydd yn ceisio lliniaru'r effaith y gallai ei chael ar eich cymuned, ac i chi yn arbennig fel un sy'n byw'n agos i'r goedwig. Mae'r amodau hyn yn cynnwys:

  • Cyfyngiadau amser ar gyfer cwympo a chludo: Dim ond ar ddyddiau gwaith a rhwng 8am a 6pm y caniateir cwympo a chludo’r coed.
  • Cyfyngiad cyhoeddus: Gan fod cwympo coed yn broses beryglus, byddwn yn sicrhau bod camau ar waith i amddiffyn pobl ac i gyfyngu ar fynediad i'r ardaloedd sy'n destun gwaith cwympo. Er mwyn diogelu’r cyhoedd, ni fyddwn yn caniatáu i'r gwaith ddechrau cyn i'r tymor ysgol ddechrau ym mis Medi. Mae hyn er mwyn lleihau'r risg y bydd plant a phobl ifanc yn y coedwigoedd tra bo'r gwaith yn digwydd.

Eisiau gwybod mwy?

Rydym yn hapus i ateb unrhyw gwestiynnau sydd gan bobl sydd eisiau gwybod mwy neu sydd â gofidion am y gwaith. Gallwch:

  • Ffonio ar 0300 065 3000 (Llun-Gwener, 9am-5pm)
  • Ebostio enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Diweddarwyd ddiwethaf