Hela Eithriedig ar ystâd a reolir gan CNC

Mae Deddf Hela 2004 wedi gwahardd hela mamaliaid gwyllt gyda chŵn yng Nghymru.

Fodd bynnag, mae eithriadau yn y Ddeddf Hela i ganiatáu mathau penodol o reolaeth ddynol  a chyfeirir at hyn weithiau fel hela eithriedig. Weithiau mae angen rheoli poblogaethau o rai mathau o famaliaid gwyllt er mwyn diogelu'r gwaith o gyflawni ein hamcanion rheoli tir gan gynnwys gwarchod rhywogaethau a chynefinoedd gwarchodedig a blaenoriaeth a chapasiti cynhyrchiol.

Hela Eithriedig

Mae hela eithriedig yn cynnwys stelcian neu fflysio mamaliaid gwyllt (gan gynnwys llwynogod) gan ddefnyddio dim mwy na dau gi.  Dim ond er mwyn atal neu leihau niwed difrifol y byddai'r mamal gwyllt yn ei achosi i dda byw, adar hela neu adar gwyllt y gall hyn ddigwydd.

 

Cyfeirir at gategorïau eraill yn y Ddeddf, a gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ar legisllation.gov.uk.

Mae CNC yn caniatáu i eraill wneud hela eithriedig yn unol â'r Ddeddf Hela gan fod gennym gyfrifoldebau cyfreithiol i alluogi rheoli poblogaethau rhai mamaliaid gwyllt a allai fod ar dir Ystâd CNC a allai achosi niwed i dda byw neu gnydau cymdogion ffermio.

Ni chaniateir hela eithriedig na rheoli llwynogod ar unrhyw ran o'r tir a reolir gennym heb ganiatâd penodol

Bydd yr holl drwyddedau a osodir ar gyfer rheoli llwynogod yn ymwneud ag ardaloedd sydd wedi'u diffinio'n glir ac y gellir eu rheoli.  Bydd CNC yn monitro'r trwyddedau hyn o bryd i'w gilydd er mwyn sicrhau y glynir yn gaeth at y telerau.

Hela llwybrau

Penderfynodd Bwrdd CNC na chaniateir hela llwybrau ar y tir a reolir gennym. Gallwch ddarllen y datganiad i'r wasg a gyhoeddwyd yn dilyn penderfyniad y Bwrdd.

Rhoi gwybod am bryderon

Rydym weithiau'n cael pryderon gan ymwelwyr y gallai pobl mewn coedwigoedd a reolir gennym fod yn torri'r gyfraith.

Os ydych chi'n credu bod gweithgarwch anghyfreithlon yn digwydd ar dir rydym yn ei reoli, mae angen i chi roi tystiolaeth glir i CNC drwy'r ffurflen Rhoi gwybod i ni neu drwy ffonio 0300 065 3000. Efallai y byddwch hefyd am drosglwyddo tystiolaeth i'r heddlu.

Archwilio mwy

Cofrestru ar gyfer cylchlythyr

Cofrestru i dderbyn diweddariadau misol gan Cyfoeth Naturiol Cymru