Ymholiad am Drwyddedau Cyffredinol CNC
Mae ein Trwyddedau Cyffredinol yn nodi'n glir y diben a'r amgylchiadau y gellir dibynnu arnynt. Dyma un o'r ardaloedd a gafodd ei herio mewn achos cyfreithiol aflwyddiannus yn ddiweddar. Roedd y dyfarniad yn glir - nid yw'r Trwyddedau Cyffredinol presennol yn anghyfreithlon ac nid oes gofyniad cyfreithiol iddynt nodi, ymhellach nag y maent eisoes yn eu gwneud, yr amgylchiadau lle y gellir dibynnu arnynt yn gyfreithlon.
Ar hyn o bryd rydym yn cynnal adolygiad manwl a chynhwysfawr o'n hymagwedd at yr holl hawliau a roddwn ar gyfer saethu a dal adar gwyllt yng Nghymru, ac mae hyn yn cynnwys Trwyddedau Cyffredinol. Rydym wedi ymrwymo, gan fod ein trwyddedau'n gyfreithlon a bod yr adolygiad ar y gweill, na fyddwn yn gwneud unrhyw newidiadau i'n Trwyddedau Cyffredinol ar hyn o bryd.
Mae'r Trwyddedau Cyffredinol presennol yn ddilys o 1 Ionawr 2021 tan 31 Rhagfyr 2021.
Bydd yr adolygiad yn cynnwys ymgynghoriad yn ddiweddarach yn y flwyddyn, a byddem yn eich annog i gymryd rhan gan y bydd yn llywio ein hymagwedd at yr holl ganiatâd a roddwn yn y dyfodol ar gyfer saethu a dal adar gwyllt yng Nghymru. Bydd rhagor o fanylion am yr ymgynghoriad ar gael ar ein gwefan ac ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol unwaith y byddant ar gael.
Rydym yn ymwybodol o gylchlythyr Wild Justice a awgrymodd bod pobl yn cysylltu â ni am ein Trwyddedau Cyffredinol. Gobeithiwn y bydd ein hymateb yn rhoi eglurder ychwanegol i chi ynglŷn â'n Trwyddedau Cyffredinol a chyd-destun ein hadolygiad. Hoffem hefyd ddweud ein bod wedi cydnabod derbyn yr ohebiaeth wreiddiol gan Wild Justice a'n bod wedi ymateb i'w llythyr atom yn llawn.