Cyfuno ac adolygu trwydded amgylcheddol ar gyfer ffatri Byrddau Gronynnau'r 'Kronospan' Waun

Mae Kronospan Limited wedi bod yn gweithredu ffatri gweithgynhyrchu byrddau gronynnau a byrddau ffeibr dwysedd canolig (MDF) yn y Waun, Gogledd Cymru ers blynyddoedd lawer. Mae'r gweithgareddau sy'n ymwneud â gweithgynhyrchu'r byrddau wedi gofyn am sawl trwydded amgylcheddol i reoli lefelau'r allyriadau a allai fod yn niweidiol o ganlyniad i'r gweithgareddau ac i sicrhau bod y technegau a ddefnyddir yn unol â datblygiadau technegol a safonau'r diwydiant. Yr enw ar y safonau hyn yw’r ‘Technegau Gorau sydd ar Gael’.

Mae’r gweithgareddau yn y Weithfa (safle) sy’n cael eu rheoleiddio gan Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol 2016 wedi bod yn destun cyfarwyddiadau amrywiol gan y llywodraeth. Yn fwyaf nodedig oedd y cyfarwyddyd cyntaf yn 2003, a oedd yn rhannu’r gwaith rheoleiddio hwnnw rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ac Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru (sydd bellach yn rhan o Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC)).

Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfarwyddyd pellach (‘Cyfarwyddyd 2018’) a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i CNC gyfuno’r ddwy drwydded bresennol ar gyfer y safle yn un, ac yna cyflawni’r holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded honno.

Mae CNC bellach wedi cwblhau’r gwaith o amrywio a chyfuno trwyddedau’r ddau reoleiddiwr ac wedi dyroddi trwydded gyfunol i’r gweithredwr ar 4 Hydref 2022. Golyga hyn mai CNC bellach fydd unig reoleiddiwr y safle ac y bydd yn cynnal yr holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded i’r dyfodol.

Mae’r hysbysiad amrywio, y drwydded gyfunol a’n dogfen penderfyniad manwl yn cael eu cadw ar ein cofrestr gyhoeddus ar-lein.  

Mae’r drwydded gyfunol yn cynnwys nifer o amodau gwella y gall y gweithredwr eu rhoi ar waith dros y 18 mis nesaf. Byddwn yn gweithio’n agos ag ef i sicrhau bod y gwelliannau hyn yn cael eu gwneud.

Bydd rhagor o amrywiaethau yn cael eu gwneud i’r drwydded; mae gennym gynlluniau i gynnal adolygiadau a arweinir gan reoleiddiwr ar gyfer gweithrediadau penodol yn erbyn Technegau Gorau Sydd ar Gael a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer sectorau diwydiannau penodol ac i ddiweddaru’r drwydded yn unol â hynny.

Fel gyda phob safle gweithredu a thrwydded, rydym yn ymwybodol y bydd y gweithredwr yn dymuno amrywio ei weithgareddau ac yn sgil hynny, ei drwydded. Bydd yn rhaid iddo wneud hyn drwy gyflwyno cais amrywio i CNC ynghyd â’i gynigion. Byddwn yn dilyn ein Datganiad Cyfranogiad y Cyhoedd drwy roi ystyriaeth i ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer unrhyw geisiadau gan weithredwyr.

Diweddarwyd ddiwethaf