Cynghorydd Arbenigol, Rhaglen Safleoedd Gwarchodedig
Dyddiad cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2024
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 203480
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Polisi a Strategaeth Bioamrywiaeth i ddefnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth i gefnogi’r gwaith datblygu a chyflwyno strategaethau, canllawiau, cynlluniau a rhaglenni ar gyfer Safleoedd Gwarchodedig yng Nghymru, yn bennaf Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar flaen y gad o ran diogelu ac adfer cynefinoedd a bywyd gwyllt mewn ymateb i’r Argyfyngau Natur a Hinsawdd ar y cyd. Bydd y swydd hon yn gweithio ochr yn ochr â'n tîm presennol a gydag arbenigwyr bioamrywiaeth ehangach i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau deuol hyn gan ganolbwyntio ar gyfeiriad strategol a pholisi ar gyfer rheoli safleoedd gwarchodedig Cymru yn effeithiol.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrediad o wybodaeth gymhleth a ffynonellau data.
- Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio’r broses o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Rheoli’r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
- Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
- Cynghori ar fylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cefnogi ymgysylltiad â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
- Cynnal gwybodaeth am yr agendâu bioamrywiaeth ac ecosystemau, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a'r farchnad ar gyfer CNC a'r sectorau yr effeithir arnynt.
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy'r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Cydweithio â’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflawni blaenoriaethau a chynllun gwaith blynyddol y cytunir arnynt ar gyfer Sgwrs.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth a phrofiad o'r canlynol:
- Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a chonfensiynau a deddfwriaeth ryngwladol yn ymwneud â safleoedd gwarchodedig. Ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru, y DU a byd-eang mewn perthynas â bioamrywiaeth a safleoedd gwarchodedig; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
- Profiad o ddadansoddi technegol, dehongli ystod o wybodaeth amgylcheddol a ffynonellau data cymhleth, dadansoddi setiau data mawr.
- Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ynghylch yr amrediad o bartneriaid a rhanddeiliaid sydd ynghlwm â safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.
- Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ar draws y sectorau bioamrywiaeth ac ecosystemau a sefydliadau rheoli tir ac amgylcheddol eraill.
- Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a chymwysterau yn y maes hwn.
- Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.
Gofion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 19 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Neil Parker ar Neil.Parker@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.