Cynghorydd Arbenigol, Rhaglen Safleoedd Gwarchodedig

Dyddiad cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2024

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 203480

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â Thîm Polisi a Strategaeth Bioamrywiaeth i ddefnyddio eich sgiliau a’ch gwybodaeth i gefnogi’r gwaith datblygu a chyflwyno strategaethau, canllawiau, cynlluniau a rhaglenni ar gyfer Safleoedd Gwarchodedig yng Nghymru, yn bennaf Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth Arbennig, Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig a safleoedd Ramsar. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar flaen y gad o ran diogelu ac adfer cynefinoedd a bywyd gwyllt mewn ymateb i’r Argyfyngau Natur a Hinsawdd ar y cyd. Bydd y swydd hon yn gweithio ochr yn ochr â'n tîm presennol a gydag arbenigwyr bioamrywiaeth ehangach i helpu i fynd i'r afael â'r argyfyngau deuol hyn gan ganolbwyntio ar gyfeiriad strategol a pholisi ar gyfer rheoli safleoedd gwarchodedig Cymru yn effeithiol.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar amrediad o wybodaeth gymhleth a ffynonellau data.
  • Rheoli’r gwaith o baratoi deunydd i lywio’r broses o ddatblygu polisïau, cyngor statudol a dogfennau canllaw CNC, Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill. Rheoli’r gwaith o ddatblygu gweithdrefnau, offer a chanllawiau ac arwain y gwaith o gyflwyno ffyrdd newydd o weithio.
  • Cysylltu â rhanddeiliaid allanol fel Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr y sector a phartneriaid er mwyn sicrhau bod rhwymedigaethau prosiectau, polisïau neu strategaethau yn cael eu cyflawni’n amserol ac yn effeithiol.
  • Cynghori ar fylchau mewn tystiolaeth a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
  • Cefnogi ymgysylltiad â sectorau, partneriaid, Llywodraeth Cymru, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a chyrff amgylcheddol eraill yn y DU a gweithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ymholiadau gan gwsmeriaid.
  • Cynnal gwybodaeth am yr agendâu bioamrywiaeth ac ecosystemau, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a'r farchnad ar gyfer CNC a'r sectorau yr effeithir arnynt.
  • Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy'r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
  • Cydweithio â’r Arweinydd Tîm i ddatblygu a chyflawni blaenoriaethau a chynllun gwaith blynyddol y cytunir arnynt ar gyfer Sgwrs.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth a phrofiad o'r canlynol:
  2. Gwybodaeth am y canlynol: Deddfwriaeth Cymru, y DU a chonfensiynau a deddfwriaeth ryngwladol yn ymwneud â safleoedd gwarchodedig. Ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru, y DU a byd-eang mewn perthynas â bioamrywiaeth a safleoedd gwarchodedig; a'r materion a'r cyfleoedd yng Nghymru.
  3. Profiad o ddadansoddi technegol, dehongli ystod o wybodaeth amgylcheddol a ffynonellau data cymhleth, dadansoddi setiau data mawr.
  4. Gwybodaeth a dealltwriaeth ymarferol ynghylch yr amrediad o bartneriaid a rhanddeiliaid sydd ynghlwm â safleoedd gwarchodedig yng Nghymru.
  5. Gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ar draws y sectorau bioamrywiaeth ac ecosystemau a sefydliadau rheoli tir ac amgylcheddol eraill.
  6. Gweithio mewn amgylchedd rheoli rhaglenni a phrosiectau a meddu ar brofiad o reoli prosiectau a chymwysterau yn y maes hwn.
  7. Byddwch yn aelod o sefydliad proffesiynol perthnasol a/neu yn gweithio tuag at fod yn aelod.

Gofion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Dymunol Lefel 4 – Siarad Cymraeg yn rhugl

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd â thasgau ymarferol neu dechnegol neu waith sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol. 
  • Y gallu i ddarparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill ar faterion perthnasol ar sail ei wybodaeth a'i brofiad a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ei faes arbenigol.
  • Dangos profiad sylweddol perthnasol o weithio mewn amrywiaeth o sefydliadau gwahanol, neu rolau/swyddogaethau o fewn sefydliad unigol.
  • Y gallu i arwain a rheoli meysydd gwaith penodol a allai gynnwys gweithredu cynlluniau.
  • Yn meddu ar sgiliau mentora a'r gallu i rannu sgiliau a gwybodaeth ag eraill o fewn y swyddogaeth a/neu ar draws y sefydliad.
  • O bosib yn arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i broffesiwn. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod o wybodaeth gymhleth o natur dechnegol, sy'n ymwneud â maes arbenigedd penodol, gan gyfrannu at ddatblygu strategaethau a pholisïau.
  • Y gallu i dynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion ar bob lefel.
  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi perthnasol a deall eu cyd-destun yn strategaeth a pholisïau cenedlaethol ac ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni canlyniadau gan ddefnyddio rhywfaint o grebwyll neu greadigrwydd, wrth ymateb i ofynion sy'n gwrthdaro, trwy newid blaenoriaethau.
  • Y gallu i wneud penderfyniadau annibynnol ar ystod eang o faterion, gan ystyried yr opsiynau sydd ar gael a'r goblygiadau posibl i'r busnes.
  • Bydd penderfyniadau yn gofyn am gyfraniad gan reolwyr llinell a chyfoedion, a dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru y mae ei effaith yn debygol o fod yn ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac o natur tymor canolig.
  • Gwerthfawrogi canlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir a’r effaith andwyol y gallent ei chael ar y sefydliad mewn perthynas â rhanddeiliaid allanol, megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaeth ac ati.
  • Y gallu i gyfrannu at osod cyfeiriad strategol ar eu cyfer eu hunain, eu maes ac eraill.
  • Y gallu i ddatblygu strategaeth a pholisïau sefydliadol gyda rhywfaint o ymreolaeth wrth weithredu polisi sefydliadol.
  • Y gallu i addasu ac ymateb i benderfyniadau a wnaed sy'n arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig ar gyfer delio â materion o fewn maes gwaith deiliad y swydd, nad ydynt efallai'n glir neu'n amlwg ar unwaith.
  • Efallai y bydd angen gwneud rhai penderfyniadau heb gyfeirio at eraill.

Effaith

  • Dangos gwerthfawrogiad o sut y bydd ei benderfyniadau a'i gamau gweithredu'n dylanwadu ar bobl eraill yn fewnol ac yn allanol.
  • Meddu ar ddealltwriaeth o ganlyniadau ei benderfyniadau, a fydd â lefel gymedrol o effaith a dylanwad ac a fydd o natur tymor canolig. 

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu ag eraill ar draws y busnes, gan gynnwys y sefydliad yn y gwaith o gyflenwi cynlluniau gwaith a pholisïau yn y modd mwyaf effeithlon.
  • ydd angen cyfathrebu â chydweithwyr mewnol a rhanddeiliaid allanol, a all gynnwys cyfraniad a dylanwad arbenigol at weithredu polisi a strategaeth.
  • all rhai rhyngweithiadau fod yn heriol yn emosiynol lle mae unigolion yn ddig neu'n ofidus, felly bydd angen pwyll, amynedd a'r gallu i aros yn ddigynnwrf i geisio datrys y mater.
  • Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar a/neu arwain prosiectau, sy’n gofyn am sgiliau cyfathrebu a dwyn perswâd da.
  • Y gallu i hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan gyfrannu a rhoi cyngor yn ôl y gofyn.
  • Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Y gallu i lunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati â pheth cymhlethdod, sy'n cynnwys elfennau o gyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu'n eu defnyddio, ac a fyddai’n cael canlyniadau negyddol petaent yn cael eu drafftio'n anghywir neu'n wael.
  • Y gallu i ganfod data a chynnwys o sawl lleoliad, sy'n cynnwys rhywfaint o ymchwilio allanol a mynegi barn broffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli.
  • ae effaith dogfennau o'r fath yn debygol o fod o natur tymor canolig 

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Efallai y bydd gan ddeiliaid y swydd gyllideb ddirprwyedig a/neu gyfrifoldeb dros wirio dilysrwydd ffurflenni a dogfennau fel rhan o'r broses a/neu wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau.
  • ydd y lefel cyfrifoldeb ariannol yn debygol o fod yn rhan ddirprwyedig o gyllideb lawer mwy a reolir gan gyflogai ar lefel uwch.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 19 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Neil Parker ar Neil.Parker@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf