Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Polisi Ymbelydredd a Diwydiant

Dyddiad cau: 5 Mawrth 2023 | Cyflog: £41,150 - £46,147 (Gradd 7) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2024

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 203465

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant i helpu Cymru i ddod yn genedl sero net erbyn 2050 fan bellaf drwy ddatgarboneiddio diwydiant.

Byddwch yn gweithio gydag uwch-gynghorwyr arbenigol er mwyn helpu i sbarduno arloesi yn null Cyfoeth Naturiol Cymru o ran rheoleiddio prosiectau datgarboneiddio ar raddfa ddiwydiannol yng Nghymru, wrth geisio sicrhau nad yw materion amgylcheddol eraill yn cael eu hanwybyddu, gan gynnwys yr economi gylchol ac effeithlonrwydd adnoddau, ansawdd aer a dŵr, a chyfleoedd i gefnogi cydnerthedd ecosystemau.

Bydd gofyn i chi ddehongli deddfwriaeth, casglu tystiolaeth, a chynorthwyo wrth ddatblygu polisi gweithredol, canllawiau ac offer fel y bo'n briodol i sicrhau y gellir cyflawni datgarboneiddio cyn gynted â phosibl o fewn y fframweithiau deddfwriaethol priodol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gweithio gyda thimau dulliau rheoleiddio CNC i sicrhau dulliau rheoleiddio effeithiol a chymesur.

Bydd gennych brofiad perthnasol i ddarparu lefel uchel o arbenigedd proffesiynol i Lywodraeth Cymru i'w galluogi i ddatblygu deddfwriaeth newydd a bydd gofyn i chi ymgysylltu â 'chlystyrau diwydiannol' ledled Cymru, diwydiannau unigol, llywodraethau, ac asiantaethau partner. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda staff gweithredol i roi cyngor ac arweiniad.

Fel arbenigwr proffesiynol, byddwch yn cefnogi timau gweithredol, trwyddedu a pholisi ehangach yn y meysydd gwaith canlynol:

  • Cynhyrchu hydrogen (a thanwydd carbon isel / di-garbon arall)
  • Dal a defnyddio carbon
  • Prosesau diwydiannol
  • Cynhyrchu ynni a gwres drwy hylosgi
  • Rheoli allyriadau diwydiannol
  • Systemau rheoli amgylcheddol

Oherwydd portffolio eang y Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant, efallai y bydd cyfleoedd hefyd i fod yn rhan o waith polisi arall a wneir o fewn y tîm wrth i ni adeiladu gwydnwch a chynllun olyniaeth.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer cymdeithasau masnach perthnasol yng Nghymru a’r DU, adrannau’r llywodraeth, a rheoleiddwyr amgylcheddol y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol a deddfwriaeth newydd, a dehongli deddfwriaeth, cyngor a chanllawiau perthnasol ar gyfer y sector(au) a meysydd cyfrifoldeb penodol.
  • Cynnal gwybodaeth ymarferol fanwl o'r sector(au) neilltuedig, gan nodi goblygiadau newidiadau mewn deddfwriaeth, technoleg a'r farchnad ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru a'r sector(au).
  • Cefnogi datblygiad staff ar draws CNC drwy gymhwyso gwybodaeth a phrofiad technolegol, deddfwriaethol a rheoleiddiol.
  • Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes, gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
  • Cyfrannu at y gwaith o gyflwyno cynllun busnes y tîm, cynllun cyflenwi'r gyfarwyddiaeth, a chynllun corfforaethol CNC.
  • Cefnogi wrth fentora a hyfforddi cynghorwyr yn y tîm i sicrhau bod gan y tîm ddigon o wydnwch technegol a deddfwriaethol ar gyfer eich maes gwaith penodedig.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol a sbardunau polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ym meysydd rheoleiddio diwydiant, rheoleiddio newid hinsawdd, a rheoli ansawdd aer, sŵn ac iechyd.
  2. Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau'r llywodraeth / rheoleiddwyr, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
  3. Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflawni canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a'r sefydliad ehangach.
  4. Profiad o ddeall a chymhwyso egwyddorion gweithgareddau rheoliadol.
  5. Gallu gweithio'n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
  6. Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
  7. Bydd disgwyl i chi gadw'n gyfredol â newidiadau mewn polisi rheoliadol a newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth trwy aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu drwy gyfrwng cyfatebol arall.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 - Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml 

Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i ymgymryd â thasgau ymarferol neu dechnegol neu waith sy'n gofyn am wybodaeth arbenigol uwch yn y pwnc perthnasol.
  • Y gallu i ddarparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill ar faterion perthnasol yn seiliedig ar ei wybodaeth a'i brofiad a bod yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ei faes arbenigol.
  • Dangos profiad sylweddol perthnasol. Yn gallu dangos lefel uchel o wybodaeth, a hygrededd personol a phroffesiynol, er enghraifft, yn gallu gweithredu fel tyst arbenigol mewn ymholiad cyhoeddus.
  • Yn gallu dangos sgiliau mentora, rhannu gwybodaeth a goruchwylio da ynghyd â'r gallu i osod cyfeiriad strategol ar gyfer ei hun, ei faes ac eraill.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Yn gallu dehongli cynlluniau cyflawni perthnasol a deall eu cyd-destun ym mholisi a strategaeth genedlaethol ac ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Yn gallu dadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth, a all fod o natur dechnegol, gan dynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion ar bob lefel.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni canlyniadau, gyda'r angen am rywfaint o grebwyll neu greadigrwydd er mwyn newid blaenoriaethau oherwydd galwadau sy'n gwrthdaro.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar sail mewnbwn gan reolwyr llinell a chyfoedion; dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru; yr ystod o opsiynau sydd ar gael; a'u goblygiadau posib ar gyfer y busnes.
  • Y gallu i arwain a rheoli prosiectau sy’n gysylltiedig â materion penodol a chymhleth sy’n aml yn heriol, a fydd fel arfer yn golygu risg uchel i enw da.
  • Gwerthfawrogi y gellir gwneud penderfyniadau (a allai ymwneud â pholisi cenedlaethol), gan arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig ym maes gwaith deiliad y swydd.
  • Dangos gwerthfawrogiad o ganlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir a'r effaith andwyol y gallent ei chael ar y sefydliad mewn perthynas â'i randdeiliaid allanol, megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaeth ac ati.

Effaith

  • Dangos ymwybyddiaeth o sut y gall ei benderfyniadau gwmpasu ystod eang o faterion ac efallai na fydd y canlyniadau bob amser yn glir neu'n amlwg ar unwaith.
  • Gwerthfawrogi y gall effaith penderfyniadau a wneir gan ddeiliad y swydd fod yn debygol o gael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac yn debygol o barhau dros y tymor canolig, ac o safbwynt allanol gall fod ar lefel genedlaethol.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Bydd gan ddeiliad y swydd gysylltiadau sylweddol â rhanddeiliaid allanol a gellir disgwyl iddo gynrychioli'r sefydliad yn allanol, gan gyfleu gwybodaeth arbenigol.
  • Y gallu i ryngweithio a meithrin cydberthnasau gwaith da gydag uwch arweinwyr yn fewnol ac yn allanol, ar lefel genedlaethol a'r DU.
  • Y gallu i drafod materion polisi, a allai fod yn dechnegol iawn, arbenigol neu'n fanwl eu natur, gydag eraill, gan deilwra dull, arddull a lefel y cyfathrebu'n briodol i'r gynulleidfa.
  • Bydd y gwaith yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar; ac arwain prosiectau allweddol sydd â chryn dipyn o gymhlethdod, sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu a dylanwadu gwych.
  • Y gallu i hwyluso a/neu gyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor ar faterion technegol neu arbenigol cymhleth, yn cynnwys newidiadau deddfwriaethol a llywio cyfeiriad trafodaethau neu weithgareddau.
  • Y gallu i feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Y gallu i lunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati â pheth cymhlethdod, yn cynnwys cyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu yn eu cylch neu'n eu defnyddio ac a fyddai'n cael effaith andwyol pe baent yn anghywir neu’n cael eu drafftio'n wael.
  • Y gallu i ganfod data a chynnwys o sawl lleoliad, sy'n cynnwys rhywfaint o ymchwilio allanol a mynegi barn broffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli.
  • Mae dogfennaeth o'r fath yn debygol o gael effaith dros dymor hwy yn gyffredinol.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 5 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Paul Gibson ar paul.gibson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf