Uwch-gynghorydd Arbenigol, Polisi Ymbelydredd a Diwydiant
Dyddiad cau: 5 Mawrth 2023 | Cyflog: £47,408 - £52,359 (Gradd 8) | Lleoliad: Hyblyg
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2024
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 203464
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant i helpu Cymru i ddod yn genedl sero net erbyn 2050 fan bellaf drwy ddatgarboneiddio diwydiant.
Byddwch yn helpu i sbarduno arloesi yn null Cyfoeth Naturiol Cymru o ran rheoleiddio prosiectau datgarboneiddio ar raddfa ddiwydiannol yng Nghymru, wrth geisio sicrhau nad yw materion amgylcheddol eraill yn cael eu hanwybyddu, gan gynnwys yr economi gylchol ac effeithlonrwydd adnoddau, ansawdd aer a dŵr, a chyfleoedd i gefnogi cydnerthedd ecosystemau. Bydd gofyn i chi ddehongli deddfwriaeth, casglu tystiolaeth, a datblygu polisi gweithredol, canllawiau ac offer fel y bo'n briodol i sicrhau y gellir cyflawni datgarboneiddio cyn gynted â phosibl o fewn y fframweithiau deddfwriaethol priodol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gweithio gyda thimau dulliau rheoleiddio CNC i sicrhau dulliau rheoleiddio effeithiol a chymesur.
Bydd gennych brofiad perthnasol i ddarparu lefel uchel o arbenigedd proffesiynol i Lywodraeth Cymru i'w galluogi i ddatblygu deddfwriaeth newydd (gan gynnwys diwygio’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol) a bydd gofyn i chi ymgysylltu â 'chlystyrau diwydiannol' ledled Cymru, diwydiannau unigol, llywodraethau, ac asiantaethau partner. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda staff gweithredol i roi cyngor ac arweiniad.
Fel arbenigwr proffesiynol, byddwch yn cefnogi timau gweithredol, trwyddedu a pholisi ehangach yn y meysydd gwaith canlynol:
- Cynhyrchu hydrogen (a thanwydd carbon isel / di-garbon arall)
- Dal a defnyddio carbon
- Prosesau diwydiannol
- Cynhyrchu ynni a gwres drwy hylosgi
- Rheoli allyriadau diwydiannol
- Systemau rheoli amgylcheddol
Bydd deiliad y swydd hefyd yn cysylltu â’r cynghorwyr arbenigol arweiniol ar gyfer rheoleiddio diwydiant ac ymgysylltu â’r gymuned o fewn timau gweithredol rheoleiddio diwydiant i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu ac adolygu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn gwella ein rhyngweithio â chymunedau lleol mewn perthynas â pherfformiad amgylcheddol y gosodiad(au) diwydiannol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd a wnaed i Lywodraeth Cymru.
Oherwydd portffolio eang y Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant, efallai y bydd cyfleoedd hefyd i fod yn rhan o waith polisi arall a wneir o fewn y tîm wrth i ni adeiladu gwydnwch a chynllun olyniaeth.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt gyda chymdeithasau masnach perthnasol yng Nghymru a’r DU, adrannau’r llywodraeth a rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol, dehongli deddfwriaethau perthnasol, a deddfwriaethau newydd, cyngor a chanllawiau ar gyfer rheoleiddio gweithgareddau niwclear a rhai nad ydynt yn weithgareddau niwclear yng Nghymru.
- Arwain ar neu gefnogi prosiectau cenedlaethol i gyflawni datrysiadau integredig wedi'u cynllunio a'u rheoli'n dda sy'n hybu newid a gwelliannau effeithiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gyfer busnesau ledled Cymru.
- Ymwneud â chynlluniau a strategaethau swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, swyddogion yr Undeb Ewropeaidd, cyrff amgylcheddol eraill y DU, a chyrff y sector a’r diwydiant yng Nghymru, a cheisio dylanwadu arnynt
- Nodi a rheoli unrhyw risgiau i enw da ac i’r sefydliad, gan ddangos barn gadarn ac ymwybyddiaeth wleidyddol dda wrth wneud penderfyniadau.
- Arwain yn benodol ar y gwaith o fentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm wydnwch technegol a deddfwriaethol digonol ar gyfer eich maes gwaith neilltuedig.
- Sicrhau bod dulliau gwella parhaus yn cael eu defnyddio yn y meysydd gwaith y mae'r tîm yn ymgymryd â hwy.
- Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
- Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y gweithgareddau niwclear a'r rhai nad ydynt yn rhai niwclear a reoleiddir yng Nghymru.
- Dealltwriaeth dechnegol ragorol o'ch maes gwaith neilltuedig, gyda sgiliau dadansoddol cryf a phrofiad o reoli prosiectau llwyddiannus a gyflawnwyd drwy brofiad gwaith sylweddol mewn maes cysylltiedig.
- Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
- Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflenwi canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a'r sefydliad ehangach.
- Profiad o ddeall a chymhwyso gweithgareddau rheoliadol.
- Y gallu i weithio'n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
- Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
- Bydd disgwyl i chi gadw'n gyfredol â newidiadau mewn polisi rheoliadol a newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth trwy aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu trwy gyfrwng cyfatebol arall.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 - Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 5 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Paul Gibson ar paul.gibson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.