Uwch-gynghorydd Arbenigol, Polisi Ymbelydredd a Diwydiant

Dyddiad cau: 5 Mawrth 2023 | Cyflog: £47,408 - £52,359 (Gradd 8) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 31 Mawrth 2024

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.

Rhif swydd: 203464

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â'r Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant i helpu Cymru i ddod yn genedl sero net erbyn 2050 fan bellaf drwy ddatgarboneiddio diwydiant.

Byddwch yn helpu i sbarduno arloesi yn null Cyfoeth Naturiol Cymru o ran rheoleiddio prosiectau datgarboneiddio ar raddfa ddiwydiannol yng Nghymru, wrth geisio sicrhau nad yw materion amgylcheddol eraill yn cael eu hanwybyddu, gan gynnwys yr economi gylchol ac effeithlonrwydd adnoddau, ansawdd aer a dŵr, a chyfleoedd i gefnogi cydnerthedd ecosystemau. Bydd gofyn i chi ddehongli deddfwriaeth, casglu tystiolaeth, a datblygu polisi gweithredol, canllawiau ac offer fel y bo'n briodol i sicrhau y gellir cyflawni datgarboneiddio cyn gynted â phosibl o fewn y fframweithiau deddfwriaethol priodol. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gweithio gyda thimau dulliau rheoleiddio CNC i sicrhau dulliau rheoleiddio effeithiol a chymesur.

Bydd gennych brofiad perthnasol i ddarparu lefel uchel o arbenigedd proffesiynol i Lywodraeth Cymru i'w galluogi i ddatblygu deddfwriaeth newydd (gan gynnwys diwygio’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol) a bydd gofyn i chi ymgysylltu â 'chlystyrau diwydiannol' ledled Cymru, diwydiannau unigol, llywodraethau, ac asiantaethau partner. Byddwch hefyd yn gweithio'n agos gyda staff gweithredol i roi cyngor ac arweiniad.

Fel arbenigwr proffesiynol, byddwch yn cefnogi timau gweithredol, trwyddedu a pholisi ehangach yn y meysydd gwaith canlynol:

  • Cynhyrchu hydrogen (a thanwydd carbon isel / di-garbon arall)
  • Dal a defnyddio carbon
  • Prosesau diwydiannol
  • Cynhyrchu ynni a gwres drwy hylosgi
  • Rheoli allyriadau diwydiannol
  • Systemau rheoli amgylcheddol

Bydd deiliad y swydd hefyd yn cysylltu â’r cynghorwyr arbenigol arweiniol ar gyfer rheoleiddio diwydiant ac ymgysylltu â’r gymuned o fewn timau gweithredol rheoleiddio diwydiant i gynorthwyo'r gwaith o ddatblygu ac adolygu ffyrdd newydd o weithio a fydd yn gwella ein rhyngweithio â chymunedau lleol mewn perthynas â pherfformiad amgylcheddol y gosodiad(au) diwydiannol. Bydd hyn yn cynnwys adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd a wnaed i Lywodraeth Cymru.

Oherwydd portffolio eang y Tîm Polisi Ymbelydredd a Diwydiant, efallai y bydd cyfleoedd hefyd i fod yn rhan o waith polisi arall a wneir o fewn y tîm wrth i ni adeiladu gwydnwch a chynllun olyniaeth.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt gyda chymdeithasau masnach perthnasol yng Nghymru a’r DU, adrannau’r llywodraeth a rheoleiddwyr amgylcheddol, yn y DU ac Ewrop, er mwyn rhannu gwybodaeth a chydweithio ar ddatblygu polisïau gweithredol, dehongli deddfwriaethau perthnasol, a deddfwriaethau newydd, cyngor a chanllawiau ar gyfer rheoleiddio gweithgareddau niwclear a rhai nad ydynt yn weithgareddau niwclear yng Nghymru.
  • Arwain ar neu gefnogi prosiectau cenedlaethol i gyflawni datrysiadau integredig wedi'u cynllunio a'u rheoli'n dda sy'n hybu newid a gwelliannau effeithiol yn Cyfoeth Naturiol Cymru ac ar gyfer busnesau ledled Cymru.
  • Ymwneud â chynlluniau a strategaethau swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, swyddogion yr Undeb Ewropeaidd, cyrff amgylcheddol eraill y DU, a chyrff y sector a’r diwydiant yng Nghymru, a cheisio dylanwadu arnynt
  • Nodi a rheoli unrhyw risgiau i enw da ac i’r sefydliad, gan ddangos barn gadarn ac ymwybyddiaeth wleidyddol dda wrth wneud penderfyniadau.
  • Arwain yn benodol ar y gwaith o fentora a hyfforddi cynghorwyr o fewn y tîm i sicrhau bod gan y tîm wydnwch technegol a deddfwriaethol digonol ar gyfer eich maes gwaith neilltuedig.
  • Sicrhau bod dulliau gwella parhaus yn cael eu defnyddio yn y meysydd gwaith y mae'r tîm yn ymgymryd â hwy.
  • Datblygu, adolygu a gwella dogfennau technegol er mwyn galluogi dealltwriaeth a chymhwysiad cyson a phriodol gan staff yn y busnes gan arwain at ddull effeithiol o ddarparu gwasanaethau.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Gwybodaeth helaeth am ddeddfwriaeth Cymru, y DU a'r UE sy'n gysylltiedig â'ch sector(au) penodol; ysgogwyr polisi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn y gweithgareddau niwclear a'r rhai nad ydynt yn rhai niwclear a reoleiddir yng Nghymru.
  2. Dealltwriaeth dechnegol ragorol o'ch maes gwaith neilltuedig, gyda sgiliau dadansoddol cryf a phrofiad o reoli prosiectau llwyddiannus a gyflawnwyd drwy brofiad gwaith sylweddol mewn maes cysylltiedig.
  3. Profiad o lywio a dylanwadu ar adrannau/rheoleiddwyr y llywodraeth, yn ddelfrydol ar faterion amgylcheddol.
  4. Profiad helaeth o ffurfio a chynnal cysylltiadau agos â phartneriaid/rhanddeiliaid mewnol ac allanol i gyflenwi canlyniadau tîm/prosiect/swyddogaeth benodol a'r sefydliad ehangach.
  5. Profiad o ddeall a chymhwyso gweithgareddau rheoliadol.
  6. Y gallu i weithio'n gyflym a bod â hanes o gyflawni.
  7. Bod yn arloesol ac arddangos ysgogiad i gyflawni targedau.
  8. Bydd disgwyl i chi gadw'n gyfredol â newidiadau mewn polisi rheoliadol a newidiadau arfaethedig mewn deddfwriaeth trwy aelodaeth o gorff proffesiynol perthnasol neu trwy gyfrwng cyfatebol arall.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 - Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml 

Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Y gallu i gyflawni gwaith ymarferol neu dechnegol cymhleth sydd ar lefel uwch. Bydd gan ddeiliad y swydd wybodaeth arbenigol uwch a phrofiad yn y pwnc perthnasol, a bydd yn darparu cyngor gwrthrychol i eraill ar faterion. Bydd yn ymwybodol o'r diweddaraf a newidiadau o fewn ei feysydd technegol / arbenigol ac yn meddu ar y gallu i ddehongli a chymhwyso gwybodaeth ddiweddaredig fel y bo'n briodol. Bydd deiliad y swydd uchaf ei barch yn ei faes yn fewnol ac yn allanol.
  • Bydd gan ddeiliad y swydd brofiad a gwybodaeth sylweddol a helaeth am y maes perthnasol trwy weithio mewn sefydliadau gwahanol neu mewn rolau gwahanol o fewn sefydliadol unigol.
  • Y gallu i arddangos a gweithredu gwybodaeth dechnegol fanwl ac eang gyda lefel uchel o gymhlethdod ac anhawster technegol ar lefel genedlaethol ac ar lefel y DU.
  • Fel arall, bydd yn arddangos lefel uchel o wybodaeth dechnegol/arbenigol mewn pwnc mwy cul, ond yn fanwl, sy'n ei alluogi i weithio ar lefel genedlaethol, lefel y DU ac ar lefel ryngwladol.
  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi lefel uchel o wybodaeth yn ogystal â'r hygrededd personol a phroffesiynol sydd ei angen er mwyn gweithredu fel tyst arbenigol mewn ymholiad cyhoeddus.
  • Bydd deiliad y swydd yn dangos sgiliau mentora, rhannu gwybodaeth a goruchwylio da ynghyd â'r gallu i osod cyfeiriad strategol ar gyfer ei hun, ei faes ac eraill.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi'r swyddogaeth a deall eu cyd-destun o fewn polisïau a strategaethau CNC ac ar lefel genedlaethol yn ehangach.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli amrediad eang o wybodaeth sy’n aml yn gymhleth iawn, gan dynnu pwyntiau allweddol a’u cyfleu i bobl eraill ar bob lefel. 

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Bydd deiliad y swydd yn gallu penderfynu ar y ffordd orau o gyflawni canlyniadau, gan gael ei lywio gan y canlyniadau a ddisgwylir. Bydd cymheiriaid yn darparu arweiniad ond defnyddir rhywfaint o grebwyll neu greadigrwydd. Adolygir amcanion a thargedau ar sail ganolraddol, a bydd angen i ddeiliad y swydd allu addasu blaenoriaethau o ganlyniad i ofynion sy'n gwrthdaro.
  • Gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid, bydd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar lefel reolaeth.  Bydd gan ddeiliad y swydd ddealltwriaeth o bolisi CNC a'i oblygiadau posibl i’r busnes.
  • Bydd deiliaid y swyddi yn arwain a rheoli prosiectau sy’n gysylltiedig â materion penodol mwy cymhleth sydd yn aml yn heriol, gan weithio ar lefel strategol a fydd fel arfer yn golygu risg uchel i enw da. Efallai y bydd y penderfyniadau a wneir gan ddeiliad y swydd yn arwain at newidiadau yng ngweithdrefnau/arferion sefydledig o fewn ei faes gwaith. Caiff y canlyniad o wneud penderfyniadau anghywir effaith niweidiol ar y sefydliad mewn perthynas â'i randdeiliaid allanol. Gall penderfyniadau ymwneud â pholisi cenedlaethol.
  • Efallai y bydd penderfyniadau'n ymwneud ag amrediad eang o faterion, ac mae'n bosibl na fydd canlyniadau rhai penderfyniadau bob amser yn glir neu'n amlwg. Efallai y bydd y problemau a wynebir hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallent fod yn amrywiol. Mae’n debygol y bydd y penderfyniadau a wneir yn cael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol ac mae’n debygol y bydd yr effaith honno’n parhau dros y tymor canolig.

Effaith

  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi effaith a dylanwad canolig i uchel, a fydd yn parhau dros y tymor canolig i’r tymor hir yn gyffredinol.
  • Bydd penderfyniadau a gweithredoedd deiliad y swydd yn dylanwadu ar eraill.
  • Bydd canlyniadau ei benderfyniadau/gweithredoedd yn cael effaith dros y tymor canolig i’r tymor hir, yn fewnol neu'n allanol.
  • Bydd penderfyniadau yn cael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac mae’n debygol o barhau dros y tymor canolig. O safbwynt allanol, gall effaith penderfyniad fod ar lefel genedlaethol.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Y gallu i gynrychioli'r sefydliad yn allanol a chysylltu â rhanddeiliaid i gyfleu gwybodaeth arbenigol. Bydd y rhyngweithiadau a’r cydberthnasau yn ymwneud ag unigolion ar lefel uwch, a hynny’n fewnol ac yn allanol ar lefel Cymru a'r DU.
  • Y gallu i drafod materion polisi technegol sy'n arbenigol neu'n dechnegol iawn, gan deilwra dull, arddull a lefel y cyfathrebu'n briodol ar gyfer y gynulleidfa. Bydd hyn yn cynnwys cyfathrebu ysgrifenedig a llafar. Bydd deiliad y swydd yn arwain prosiectau allweddol, a bydd y rhain yn gymhleth iawn ac yn gofyn am sgiliau cyfathrebu a darbwyllo ar lefel uwch. Efallai y bydd hyn hefyd yn cynnwys hwyluso a/neu gyflwyno yn ystod cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan rannu cyngor technegol neu arbenigol cymhleth ar lefel uchel, gan gynnwys newidiadau a mewnbwn deddfwriaethol. Bydd angen iddo lywio cyfeiriad trafodaethau neu weithgareddau. Bydd yn ofynnol meithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Y gallu i lunio dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati sy’n weddol gymhleth. Bydd dogfennau'n cynnwys cyngor, arweiniad neu farn y bydd y derbynnydd yn gweithredu yn eu cylch neu'n eu defnyddio. Mae'n debygol y ceir canlyniadau niweidiol os yw'r dogfennau'n anghywir neu wedi'u drafftio'n wael.
  • Y gallu i gyrchu data o sawl lleoliad, sy'n gofyn am waith ymchwil allanol a rhywfaint o grebwyll proffesiynol o ran sut y dylai ymchwil o'r fath gael ei dehongli. Mae dogfennaeth o'r fath yn debygol o gael effaith dros y tymor hwy.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 5 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Paul Gibson ar paul.gibson@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf