Uwch-Gynghorydd Datblygiad Masnachol

Dyddiad cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308-£40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener.

Rhif swydd: 203354

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

A ydych yn chwilio am swydd sy'n darparu buddion cymdeithasol, diwylliannol ac ariannol heb fod y ddaear yn talu’r pris? Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau rheoli prosiect, cyfathrebu a thrafod i ymuno â'n Tîm Datblygu Masnachol deinamig a medrus iawn i helpu i gyflawni prosiectau masnachol arloesol a chynaliadwy ledled Cymru. Fel rhan o’r tîm hwn byddwch yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o gynllunio a chyflawni amrywiaeth o brosiectau cyffrous ar draws portffolio Masnachol CNC gan gynnwys ynni adnewyddadwy, twristiaeth a hamdden ac arloesi. Gan weithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid mewnol ac allanol, a dylanwadu arnynt, byddwch yn gwneud cyfraniad sylweddol at lesiant amgylcheddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol Cymru yn y rôl hon. Os yw hon yn swnio fel rôl sy'n addas i chi, byddem wrth ein boddau'n clywed gennych.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Arwain a goruchwylio timau prosiect, gan gynnwys cyflenwyr arbenigol a Swyddogion Cymorth Prosiect.
  • Meithrin a chynnal cydberthnasau gwaith cadarnhaol â rhanddeiliaid mewnol ac allanol wrth gyflawni gweithgareddau masnachol i sicrhau cefnogaeth barhaus gan randdeiliaid allweddol drwy gydol cylch oes y prosiect.
  • Darparu mentora a chymorth datblygu staff i aelodau'r tîm a chefnogi’r gwaith o weithredu asesiadau risg ac arferion gwaith mewn perthynas ag iechyd, diogelwch a llesiant.
  • Rheoli prosiect y gwaith o gyflawni prosiectau masnachol yn unol â pholisi a gweithdrefnau llywodraethu cyfredol CNC. Cynnal dogfennau prosiect, trefnu cyfarfodydd bwrdd y prosiect, ac uwchgyfeirio problemau a cheisio arweiniad fel sy'n briodol.
  • Ymgysylltu’n uniongyrchol â datblygwyr i fapio a sicrhau cydymffurfedd â’r holl weithdrefnau perthnasol wrth gynllunio a chyflawni prosiectau.
  • Goruchwylio'r gwaith o drafod a chwblhau cytundebau masnachol, gan weithio'n agos gyda chyflenwyr asiant tir arbenigol.
  • Cyflwyno prosesau ymgynghori mewnol CNC (fel ymgynghoriadau tir ac eiddo).
  • Adolygu asesiadau risg a datganiadau dull datblygwyr a monitro gweithgareddau ar safleoedd i sicrhau cydymffurfedd gan ddatblygwyr.
  • Sefydlu a rheoli contractau ar gyfer gwasanaethau cyflenwi arbenigol, gan gynnwys gweithgareddau ar y tir fel clirio coed, arolygon strwythurol ac astudiaethau dichonoldeb.
  • Cynorthwyo datblygwyr i gyflawni nodau cilyddol yn unol â pholisi a llywodraethu CNC a sicrhau bod buddiannau ehangach CNC yn cael eu hystyried yn llawn.
  • Datblygu systemau a sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith i reoli cytundebau masnachol yn ystod eu hoes weithredol.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Profiad o reoli prosiectau.
  2. Hyblyg ac yn barod i fynd i'r afael ag amrywiaeth o brosiectau mewn nifer o leoliadau.
  3. Trefnus, hunangymhellol ac yn meddu ar sgiliau rheoli adnoddau da.
  4. Sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol a datrys problemau rhagorol.
  5. Sgiliau cyflwyno a dylanwadu ardderchog.
  6. Yn meddu ar y gallu i wneud penderfyniadau cadarn sy'n seiliedig ar dystiolaeth wrth gyflawni dyletswyddau a gwybod pryd i uwchgyfeirio penderfyniadau i uwch staff.
  7. Sgiliau TG rhagorol, gan gynnwys MS Office.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 – Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a sgiliau hanfodol

  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi brofiad sylweddol, gwybodaeth arbenigol ac arbenigedd pwnc, a bydd y gallu ganddynt i ymgymryd â thasgau ymarferol neu dechnegol ar lefel uwch.
  • Bydd deiliad y swydd yn darparu cyngor gwrthrychol i bobl eraill, sy'n seiliedig ar wybodaeth a phrofiad. Bydd yn ymwybodol o’r newidiadau diweddaraf yn ei faes technegol/arbenigol.
  • Bydd deiliad y swydd wedi cael profiad o weithio mewn nifer o sefydliadau gwahanol, neu o weithio mewn rolau neu swyddogaethau gwahanol o fewn sefydliad unigol.
  • Bydd deiliaid y swyddi'n arddangos sgiliau da o ran cyfathrebu, mentora, dylanwadu a diplomyddiaeth a byddant yn cynnal ymwybyddiaeth o'r agenda ac amgylchedd busnes ehangach.

Gwerthuso gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi gweithredol y swyddogaeth a deall eu cyd-destun o fewn strategaeth ehangach CNC.
  • Y gallu i ddadansoddi a dehongli amrediad o wybodaeth gymhleth sy'n ymwneud â'i faes arbenigedd, gan dynnu pwyntiau allweddol a'u cyfleu i unigolion. Mae'n bosibl y bydd angen iddo ddarparu cyngor arbenigol i gydweithwyr llai profiadol.

Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth

  • Yn gyffredinol, caiff y gwaith ei lywio gan y canlyniadau disgwyliedig, ond bydd deiliad y swydd yn gallu penderfynu ar y ffordd orau o'u cyflawni. Er efallai y darperir arweiniad gan bobl eraill, bydd angen defnyddio rhywfaint o grebwyll neu greadigrwydd. Bydd angen i ddeiliad y swydd allu addasu blaenoriaethau o ganlyniad i ofynion sy'n gwrthdaro. Bydd amcanion a thargedau ac ati yn cael eu hadolygu ar sail ganolraddol.
  • Cyfrifoldeb dros wneud penderfyniadau rheoli annibynnol ar lefel weithredol, gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid. Bydd ganddo ddealltwriaeth o bolisïau CNC, a'u goblygiadau posibl i'r busnes. Bydd deiliaid y swyddi ynghlwm wrth y gwaith o ddatblygu polisi'r sefydliad, a bydd ganddynt rywfaint o ymreolaeth yn y gwaith o weithredu polisi sefydliadol.
  • Efallai y bydd penderfyniadau a wneir yn arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig o fewn maes gwaith deiliad y swydd. Bydd canlyniad gwneud penderfyniadau anghywir yn cael effaith niweidiol ar y sefydliad o ran ei randdeiliaid allanol megis sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati.
  • Efallai y bydd penderfyniadau'n ymwneud ag amrediad eang o faterion ac mae'n bosibl na fydd canlyniadau rhai penderfyniadau bob amser yn glir neu'n amlwg. Efallai y bydd problemau sy'n dod i'r golwg hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallai’r rhain fod yn amrywiol. Bydd penderfyniadau yn debygol o gael effaith ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol ac yn debygol o barhau dros y tymor canolig.

Effaith

  • Bydd gan ddeiliaid y swyddi lefel gymedrol o ddylanwad ac effaith, a fydd yn parhau dros y tymor canolig yn gyffredinol.
  • Bydd penderfyniadau a gweithredoedd deiliad y swydd yn dylanwadu ar eraill.
  • Caiff y penderfyniadau a wneir / y camau a gymerir gan ddeiliad y swydd effaith ganolig yn fewnol neu'n allanol.

Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill

  • Y gallu i ymgysylltu ar draws y sefydliad, gan gyflwyno polisïau a chynlluniau gwaith yn y modd mwyaf effeithlon. Bydd deiliaid y swyddi'n cysylltu â sefydliadau allanol, a byddant yn aml yn mynychu fforymau amlasiantaeth. Byddant yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer cyngor arbenigol i gydweithwyr iau.
  • Bydd deiliad y swydd yn meddu ar sgiliau dwyn perswâd da, ynghyd â sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig. Mae'n bosibl y bydd angen iddo hwyluso neu gyflwyno yn ystod cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan gyfrannu a rhoi cyngor yn ôl y gofyn. Bydd angen iddo feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da.
  • Bydd deiliaid y swyddi'n cynhyrchu dogfennau, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati sy'n llai cymhleth. Bydd dogfennau'n cynnwys cyngor, arweiniad neu farn ar lefel is y bydd y derbynnydd yn gweithredu arnynt neu'n eu defnyddio. Mae'r rhain yn debygol o arwain at ganlyniadau niweidiol os ydynt yn anghywir neu wedi'u drafftio'n wael.
  • Y gallu i gyrchu gwybodaeth o sawl lleoliad trwy ymchwil a chymhwyso crebwyll proffesiynol ynghylch sut y dylid dehongli'r deunydd, y mae ei effaith yn debygol o barhau yn y tymor canolig.

Cyfrifoldeb dros adnoddau

  • Mae'n bosibl y bydd gan ddeiliaid y swyddi gyllideb ddirprwyedig.
  • Cyfrifoldeb dros wirio dilysrwydd ffurflenni a dogfennau fel rhan o broses, a/neu gaffael nwyddau a gwasanaethau gyda chymeradwyaeth.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 19 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â James Laing ar James.laing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07967 037 004

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf