Goruchwyliwr Cyfleusterau
Dyddiad cau: 1 Mawrth 2023 | Cyflog: £32,876-£36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Canol De Cymru - Hyblyg ar draws De Cymru
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. Gweithio o swyddfa yn dyddiol, rhwng 08:30 a 17:00
Rhif swydd: 202961
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae'r tîm gweithredol Cyfleusterau yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd adeiledig diogel ac iach i staff CNC, a chontractwyr, gan eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac i'n cwsmeriaid fwynhau eu profiad fel ymwelwyr.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ymuno â'r tîm wrth i ni gyflawni’r cylch gwaith uchod tra'n gweithredu newidiadau i wella ein hadeiladau fel eu bod yn addas ar gyfer ffyrdd o weithio yn y dyfodol ac yn lleihau ôl troed carbon CNC, gan wneud ein rhan i ymateb i Argyfwng yr Hinsawdd.
Mae hwn yn gyfle i weithio fel rhan o dîm mawr, gwasgaredig ledled De Cymru, gan gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaeth effeithlon sy'n gysylltiedig â Rheoli Cyfleusterau o fewn y tîm Gweithrediadau Rheoli Cyfleusterau a Fflyd. Bydd deiliad y swydd yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o alluogi'r busnes o ddydd i ddydd a rhedeg CNC yn effeithiol.
Mae CNC yn meddu ar achrediad Amgylcheddol ISO14001 ac ISO45001 Rheoli Iechyd a Diogelwch ac mae llawer o'n tasgau yn cefnogi'r rhain yn uniongyrchol ac yn destun gwaith craffu at ddibenion archwilio.
Darperir hyfforddiant ac mae cyfleoedd i ymgymryd â phrentisiaeth IWFM ac ar gyfer camu ymlaen yn eich gyrfa o fewn y swyddogaeth Rheoli Cyfleusterau a Fflyd.
Trwydded Yrru yn fanteisiol.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Rhoi cyngor o ran cydymffurfiaeth gyfreithiol a chydymffurfiaeth statudol i CNC a'i dimau Gweithrediadau Rheoli Cyfleusterau a Fflyd.
- Darparu manylebau a rôl rheoli prosiectau sy'n gysylltiedig â Rheoli Dylunio Adeiladu ar gyfer CNC a'i dîm Gweithrediadau Rheoli Cyfleusterau a Fflyd.
- Bod yn un pwynt cyswllt o fewn Gweithrediadau Rheoli Cyfleusterau a Fflyd (SPOC) ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â chontractau.
- Darparu cyngor amserol ac ariannol ddarbodus ar bob agwedd ar Reoli Cyfleusterau gan sicrhau bod staff, ymwelwyr a chontractwyr CNC yn gweithio mewn amgylchedd diogel ac iach.
- Cefnogi Arweinydd y Tîm Gweithrediadau Rheoli Cyfleusterau a Fflyd mewn penderfyniadau gwaith strategol a phwrpasol.
- Cefnogi'r timau Gweithrediadau Cyfleusterau i ddarparu gwasanaethau caled a meddal.
- Darparu gwasanaeth rhagorol i gwsmeriaid a meithrin diwylliant o welliant parhaus wrth ddarparu gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau rheng flaen i gwsmeriaid CNC sy'n hanfodol i sicrhau cydymffurfiaeth statudol a chyfreithiol ar draws adeiladau ac asedau eraill CNC.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Rhaid meddu ar statws proffesiynol fel Aelod o Sefydliad Rheoli’r Gweithle a Chyfleusterau (IWFM) neu fod yn gweithio tuag at hynny.
- Cymhwyster NEBOSH neu IOSH neu debyg.
- Cymhwyster Rheoli Dylunio Adeiladu.
- Profiad a gwybodaeth am gynnal a chadw a defnyddio meddalwedd cipio data Rheoli Cyfleusterau (CAFM).
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 4 - siarad Cymraeg yn rhugl
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau i wneud cais: 1 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal drwy Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Sian E Hughes ar sian.e.hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.