Cymorth Technegol, Trwyddedu Rhywogaethau
Dyddiad Cau: 26 Chwefror 2023 | Cyflog: £25,326 – £28,077 (Gradd 3) | Lleoliad: Hyblyg
Math o Gontract: Parhaol
Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 awr y wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener
Rhif Swydd: 202647
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r Swydd
Dyma gyfle i ymuno â thîm prysur sy'n delio a trwyddedau bywyd gwyllt sy'n gysylltiedig â rhywogaethau a warchodir yn Ewrop a'r DU yn ogystal â rhywogaethau anfrodorol ymledol. Mae hon yn rôl sy'n wynebu cwsmeriaid sy'n delio â'r cyhoedd, diwydiant ac ymgynghorwyr ecolegol. Mae hon yn rôl gweithio wrth ddesg ac yn gofyn am sylw i fanylion, sgiliau cyfrifiadurol da a'r gallu i reoli llawer iawn o waith i derfynau amser gosodedig, byddai profiad o anfonebu hefyd o fantais. Os oes gennych ddiddordeb mewn bywyd gwyllt, bod gennych brofiad cysylltiadau cwsmeriaid, sgiliau Technoleg Gwybodaeth da ac yn mwynhau gweithio fel rhan o dîm sy'n delio â cheisiadau cymhleth, byddem yn croesawu eich diddordeb.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cynllunio llwyth gwaith i sicrhau bod trwyddedau rhywogaethau yn cael eu cofnodi a phrosesu yn cael eu cwblhau o fewn terfynau amser deddfwriaethol.
- Cefnogi ymgeiswyr gyda chyngor cyn ymgeisio ar gyfer gwahanol safleoedd a rhywogaethau.
- Nodi cyfleoedd ar gyfer newidiadau i'r broses a'r canllawiau sydd eu hangen i ddarparu gwasanaeth trwyddedu effeithlon ac effeithiol, a chynorthwyo i gydlynu'r newid yn ôl yr angen.
- Ymgymryd â gweithgareddau trwyddedu syml gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, brosesu ceisiadau newid gweinyddol, trosglwyddo a thynnu ceisiadau yn ôl.
- Datblygu a chynnal perthynas effeithiol â chwsmeriaid er mwyn sicrhau dealltwriaeth dda a chyflawni'r broses drwyddedu yn effeithlon.
- Sicrhau bod yr holl ddogfennaeth berthnasol yn cael ei storio'n briodol o fewn systemau rheoli dogfennau'r sefydliad.
Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Y gallu i weithio mewn tîm, y gallu i sefydlu a chynnal rhwydweithiau, a'r gallu i gyfathrebu'n glir, yn hyderus ac yn ddarbwyllol, ar lafar ac yn ysgrifenedig.
- Sgiliau trefnu a gweinyddu rhagorol a'r gallu i gyrraedd targedau a gweithio i derfynau amser.
- Y gallu i ddefnyddio prosesu geiriau, taenlenni, cronfeydd data, e-bost, mewnrwyd CNC a rhyngrwyd mewn amgylchedd Windows.
- Dull cyflwyno cryf sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.
- Gwybodaeth sylfaenol o ddeddfwriaeth y DU ac Ewrop sy'n ymwneud â rhywogaethau gwarchodedig ac ecoleg rhywogaethau (dymunol).
Gofynion y Gymraeg:
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthnasau ag eraill |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Iwan G Hughes ar iwan.g.hughes@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 03000654814
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.