Uwch-swyddog, Cynllunio Coedwigoedd

Dyddiad cau: 8 Mawrth 2023 | Cyflog: £37,308-£40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: 37 awr yr wythnos, dydd Llun i ddydd Gwener

Rhifau y swyddi: 202534

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cymysgedd o weithio gartref a swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi ar ôl i chi gael eich penodi os ydych yn llwyddiannus gyda'r rôl hon.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Os ydych chi'n unigolyn trefnus, cydwybodol a gweithgar sy'n gweithio'n dda fel rhan o dîm ac yn angerddol am wneud gwahaniaeth i'r amgylchedd, mae gennym ni'r swydd i chi! Rydym ni’n chwilio am uwch arbenigwr cynllunio adnoddau coedwig o fewn Tîm Pobl a Lleoedd y Canolbarth i chwarae rôl uniongyrchol yn y broses o amlinellu’r weledigaeth ar gyfer Ystad Goetir Llywodraeth Cymru a reolir gan CNC yng Nghanolbarth Cymru.

Bydd y Cynlluniau Adnoddau Coedwigoedd yn arwain y ffordd o ran sut y bydd CNC yn rheoli ein hadnodd coedwigoedd er mwyn rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a diogelu lles cenedlaethau'r dyfodol, gan hefyd sicrhau ein bod yn parhau i fodloni'r galw am bren o Gymru a gynhyrchir yn gynaliadwy ac yn cynnal ardystiad yn unol â Chynllun Ansawdd Coetiroedd y DU (UKWAS).

Byddwch yn sicrhau bod ein coedwigoedd yn iach, yn wydn ac yn cael eu rheoli'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.

Byddwch yn arwain y gwaith o gyflawni gwahanol agweddau ar waith coedwigaeth technegol, gan gysylltu'n agos â chydweithwyr a rhanddeiliaid yn y sector preifat, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Byddwch yn arwain ar dystiolaeth, ymgysylltu ac ymgynghori ynghylch pob cynllun adnodd coedwig. Felly, mae'r gallu i gyfathrebu'n dda yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol.

Gan ddefnyddio tystiolaeth o ffynonellau eang, byddwch yn gosod amcanion a blaenoriaethau sy'n sail i gynllun cynaliadwy, gan nodi'r weledigaeth hirdymor ar gyfer pob coetir a chynhyrchu cyfres o fapiau strategol sy'n nodi'r systemau rheoli, y rhaglenni cwympo ac ailstocio a'r gweithgarwch rheoli tir ehangach sydd ei angen i gyflawni'r amcanion dros y 30 mlynedd nesaf. Byddwch yn arwain y gwaith o gyflwyno’r cynlluniau hyn i gydweithwyr a rhanddeiliaid ehangach, ac wrth ymateb i ymgynghoriadau cyhoeddus.

Bydd y cynlluniau adnoddau coedwig yn amlinellu'r gwaith o gynhyrchu pren masnachol, cadwraeth natur a bioamrywiaeth, hamdden a mynediad, rheoli llifogydd yn naturiol, safleoedd dynodedig, dal a storio carbon, adfer mawndiroedd ac effaith gymunedol. Byddwch yn rhoi blaenoriaeth i Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy, yr argyfyngau natur a hinsawdd ac Amcanion Llesiant ym mhopeth a wnewch. 

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig a phroffesiynol gyda phrofiad yn y sector coedwigaeth, sy'n gallu gweithio'n gyflym, yn aml i derfynau amser tynn ac sy'n gallu blaenoriaethu eu llwyth gwaith yn effeithiol er mwyn cyflawni dros amgylchedd Cymru. 

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Arwain y lle ar un agwedd neu ragor ar gylch gwaith y tîm: y Datganiad Ardal, llesiant, cydlynu Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, cyllid allanol, Defnydd a Chynllunio Coedwigaeth, cynllunio cadwraeth a safleoedd dynodedig, hamdden a mynediad, pysgodfeydd, dŵr, a darparu arbenigedd technegol a chyngor i'r tîm a'r Pennaeth Lle.
  • Arwain ar ddatblygu a gweithredu cynlluniau adnoddau coedwigoedd, gan sicrhau eu bod yn gadarn o ran coedamaeth ac yn cynnal ardystiadau.
  • Mentora aelodau eraill o'r tîm i ehangu eu dealltwriaeth o'ch arbenigedd, fel bod y tîm yn datblygu dealltwriaeth amlddisgyblaeth o faterion amgylcheddol.
  • Gweithio gyda'r tîm i ddatblygu datrysiadau arloesol i faterion amgylcheddol, gan integreiddio agweddau lluosog ar gynllunio o fewn y lle. Nodi bylchau yn y sail dystiolaeth a gweithio gyda'r gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu i flaenoriaethu a chomisiynu gwaith ymchwil.
  • Hwyluso'r gwaith o uno amcanion Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus â Datganiadau Ardal a'r cynllun lle, gan weithio ar draws ffiniau fel sy’n briodol.
  • Gweithio'n gydgynhyrchiol gyda'r timau yn y lle a chyda rhanddeiliaid allanol, gan ddarparu arbenigedd technegol i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, prosiectau a chynlluniau i'w cyflenwi gan eraill, gan gynnwys drwy gyllid allanol.
  • Datblygu a monitro'r rhaglen o brosiectau a gyllidir yn allanol ar draws pob cyfle cyllido.
  • Gweithio gyda thimau yn y lle i ddatblygu eu sgiliau o ran gweithio mewn partneriaeth.
  • Gweithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid i ddatblygu a dylanwadu ar flaenoriaethau, amcanion, cynlluniau a phrosiectau o fewn y lle a fydd yn cyflawni'r Datganiad Ardal ac amcanion y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, fel cynlluniau cwmnïau dŵr, cynlluniau teithio llesol, cynlluniau rheoli tirweddau dynodedig, a chynlluniau coedwigoedd.
  • Rhwydweithio â thimau Pobl a Lleoedd eraill ledled Cymru, gan ddarparu lefel gwasanaeth gytunedig o wybodaeth a mewnbwn technegol ar gyfer timau eraill.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Sgiliau rhagorol o ran ymgysylltu, dylanwadu a datblygu dulliau arloesol o ymdrin â phroblemau cymhleth. 
  2. Gallu rhagorol i feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid.
  3. Gwybodaeth sylweddol am ofynion deddfwriaeth amgylcheddol sy’n ymwneud â chylch gwaith y lle.
  4. Bydd gennych wybodaeth arbenigol am un neu ragor o feysydd technegol cylch gwaith y tîm:
    • Datblygu Datganiadau Ardal
    • Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a chynlluniau llesiant
    • Cyllid allanol a gweithio mewn partneriaeth
    • Hamdden a mynediad
    • Defnydd neu gynllunio coedwigoedd
    • Cynllunio strategol ym maes pysgodfeydd
    • Rheoli safleoedd a thirweddau gwarchodedig
    • Cynllunio Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
    • Asesu effeithiau ar ansawdd yr aer
    • Rheoli adnoddau dŵr
    • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a chynlluniau dalgylch
    • Rheoli perygl llifogydd
  5. Y gallu i asesu ffynonellau lluosog a chymhleth o wybodaeth ac annog eraill i wneud penderfyniadau da.   
  6. Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid.   
  7. Profiad o drafod ag uwch-reolwyr.
  8. Profiad o ddylanwadu ar lefelau uwch sefydliadau.
  9. Gallu rhagorol i feithrin perthynas waith effeithiol â chydweithwyr a phartneriaid.
  10. Sgiliau trefnu rhagorol.
  11. Aelodaeth broffesiynol o Sefydliad Siartredig y Coedwigwyr neu'r gallu i gyflawni hyn ymhen tair blynedd.
  12. Gwybodaeth sylweddol am reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, Safon Sicr Coetiroedd y Deyrnas Unedig a chynlluniau ardystio coedwigoedd.

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol: Lefel 1 - Yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i gyflawni tasgau neu waith ymarferol neu dechnegol sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol.
  • Arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i arbenigedd a’r gallu i weithredu fel yr arbenigwr lleol neu'r arweinydd arbenigol ar gyfer ardal fach mewn rôl gynghorol.
  • Yn dangos profiad sylweddol a gwybodaeth arbenigol yn ei faes, gyda'r gallu i reoli prosiectau, gan gynnwys cyllideb y prosiect a'r tîm.
  • Yn meddu ar sgiliau dadansoddi, dylanwadu, perswadio, goruchwylio a mentora, ynghyd â sgiliau rheoli prosiect. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi gweithredol y swyddogaeth a deall eu cyd-destun o fewn strategaeth ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  • Y gallu i ddehongli datblygiadau yn ei faes arbenigedd, gan gyfrannu at gynllunio busnes a dylunio a darparu rhaglenni gwaith tîm.
  • Yn dangos y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth gymhleth, gan ddidynnu pwyntiau allweddol ac â’r gallu i’w cyfleu i unigolion ar bob lefel a chyfrannu at ddatblygiad polisi.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i arwain a rheoli prosiectau mewn meysydd gwaith penodol, gan gymryd cyfrifoldeb dros reoli cyllidebau a thimau prosiectau, ac am lwyddiant y prosiect a'r gwaith o'i gyflawni.
  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, gydag arweiniad gan gymheiriaid, sy'n gofyn am yr angen am rywfaint o farn a chreadigrwydd a allai arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig yn y maes gwaith.
  • Bydd deiliad y swydd yn cyflwyno rhaglenni gwaith sy'n aml yn sylweddol, a allai olygu bod angen newid blaenoriaethau oherwydd galwadau sy'n gwrthdaro.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar lefel weithredol, gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid, ynghyd â dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru a'r ystod o opsiynau sydd ar gael a'u goblygiadau posibl i'r busnes.
  • Yn deall canlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir, a fyddai’n cael effaith andwyol mewn perthynas â rhanddeiliaid allanol, fel sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati. 
  • Gall penderfyniadau a wneir ymwneud ag ystod eang o faterion, efallai na fydd eu canlyniad bob amser yn glir neu'n amlwg ar unwaith, ac maent yn debygol o fod yn ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol.
  • Efallai y bydd problemau sy'n dod i'r golwg hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallai’r rhain fod yn amrywiol.

Effaith

  • Gan weithio fel arbenigwr/arweinydd sector lleol, bydd cyfraniad a dylanwad deiliad y swydd ar lefel weithredol ac yn cael effaith yn fewnol ac yn allanol.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da a chynnwys y sefydliad wrth gyflawni polisïau a chynlluniau gwaith yn y ffordd fwyaf effeithlon. 
  • Bydd cyfathrebu ag eraill ar lefel weithredol yn fewnol ac yn allanol, ac fel rheol bydd yn arbenigol ei natur. 
  • Y gallu i weithredu fel arbenigwr cynghorol neu swyddogaethol, gan ddarparu cyngor, a all fod yn dechnegol, yn arbenigol neu'n fanwl, a chan deilwra'r dull, yr arddull a lefel y cyfathrebu yn briodol i’r gynulleidfa. 
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu a pherswadiol effeithiol gyda'r gallu i arwain prosiectau, a all gynnwys hwyluso a chyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor a chyfrannu yn ôl yr angen. 
  • Y gallu i gynhyrchu dogfennau, adroddiadau, rhaglenni a chontractau gyda pheth cymhlethdod ac sy’n cynnwys cyngor, arweiniad neu farn a fyddai’n cael canlyniadau niweidiol pe baent yn anghywir neu'n cael eu drafftio'n wael.
  • Y gallu i gynnal gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth a data o sawl lleoliad neu ffynhonnell a defnyddio barn broffesiynol wrth benderfynu sut y dylid dehongli'r wybodaeth.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr les wythnosol i’w defnyddio pryd bynnag rydych chi eisiau

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau at Ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk using the post number as the email reference

Cyn gwneud cais darllenwch y Canllawiau ar gwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau i wneud cais: 8 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar drwy Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Rachel Jarvis at Rachel.Jarvis@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf