Microbiolegydd Tymhorol x 2

Dyddiad Cau: 26 Chwefror 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Prifysgol Abertawe

Math o Gontract: 6 mis o ddyddiad cychwyn 1 Ebrill 2023

Patrwm Gwaith: 37 awr. Ar ddiwedd yr hyfforddiant, fel arfer bydd y patrwm gwaith arferol fel a ganlyn: 8.30yb - 3.30yh dydd Mawrth i ddydd Gwener, a 8.30yb – 12.30yh ar ddydd Sadwrn

Rhifau y Swyddi: 202020, 202028

Disgrifiad o’r swydd

Dyma rôl ar lefel mynediad mewn labordy dadansoddi amgylcheddol prysur sydd wedi’i achredu gan Wasanaeth Achredu’r Deyrnas Unedig (UKAS).Byddwch yn gweithio ochr yn ochr â thri microbiolegydd arall mewn tîm bach sy’n gweithio’n gyflym, gan sicrhau bod oddeutu 2,000 o samplau dŵr ymdrochi yn cael eu dadansoddi a'u hadrodd yn unol â safonau Cyfarwyddeb Dŵr Ymdrochi Ewrop.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithio yn yr Adran Microbioleg fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl samplau'n cael eu dadansoddi mewn pryd ac i'r safonau rhagnodedig.
  • Ymgymryd â’r gwaith rheolaidd o ddadansoddi samplau ansawdd dŵr o draethau ymdrochi. Bydd hyn yn cynnwys gwahanol brosesau microbiolegol, gan gynnwys paratoi a rheoli ansawdd cyfryngau, hidlo samplau, adnabod cytrefi bacteria, a gwaith adrodd. Mae rheoli a chynnal dogfennau’n fanwl gywir hefyd yn hollbwysig i'r swydd hon.
  • Bod yn ymwybodol o'r nodweddion sy'n ofynnol i fod yn rhan o dîm llwyddiannus mewn amgylchedd pwysau uchel. Mae'r rhain yn cynnwys hunan-gymhelliant, disgyblaeth, a pharodrwydd i helpu eich cydweithwyr.
  • Meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o system rheoli ansawdd y labordy, a sut mae hon yn effeithio ar bob agwedd ar y broses ddadansoddi.
  • Dangos dealltwriaeth o'ch iechyd a diogelwch eich hun ac eraill. Bod yn ymwybodol o bolisïau iechyd a diogelwch y labordy.
  • Cymryd rhan mewn amserlenni dyletswydd ac ymateb os cewch eich galw allan i sicrhau bod gwasanaeth ymateb i lygredd y labordy'n cael ei gynnal.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Mae profiad blaenorol mewn labordy dadansoddi ISO:17025 achrededig yn ddelfrydol, ond nid yw'n hanfodol oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn.
  2. Mae profiad a gwybodaeth yn bwysicach na chymwysterau ar gyfer y swydd hon, felly ystyrir derbyn ymgeiswyr ar lefel mynediad os ydynt yn meddu ar gymwysterau TGAU gwyddoniaeth, ond fel arfer derbynnir ymgeiswyr ar lefel raddedig.
  3. Gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol wrth ymdrin â chydweithwyr yn y labordy neu gleientiaid allanol.
  4. Y gallu i weithio fel rhan o dîm i gwrdd â therfynau amser llym, gan sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu hadrodd yn ôl yn gywir ac yn effeithlon yn ddyddiol.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – yn gallu ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, hynny yw, y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu ar sail y cymwyseddau canlynol, ar y rhestr fer a'r cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi'ch ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Profiad ymarferol blaenorol amlwg a gafwyd mewn disgyblaeth dechnegol neu amgylchedd gwyddonol, ar lefel sy'n ei alluogi i weithredu rhaglenni gwaith o faint a chymhlethdod cymedrol a darparu arweiniad a goruchwyliaeth i eraill.
  • Y gallu i ddangos arbenigedd pwnc mewn maes arwahanol o'i waith.
  • Y gallu i brosesu a dadansoddi gwybodaeth arferol a chynhyrchu adroddiadau a gwybodaeth gywir yn seiliedig ar brosesau dadansoddol cadarn.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu da ynghyd â gwybodaeth TGCh a systemau.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a ddefnyddir wrth gyflawni'r rôl.
  • Gall arwain a gweithredu rhaglen waith sy'n gofyn am gasglu data a gwybodaeth o wahanol ffynonellau a systemau, i gynhyrchu dogfennau safonol.
  • Y gallu i gynnal dadansoddiad arferol o samplau a data syml gan ddilyn gweithdrefnau ffurfiol, sy'n arwain at gynhyrchu adroddiadau dadansoddol a dogfennaeth a fydd yn cael eu defnyddio gan eraill.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Bydd y rôl yn gofyn am ryngweithio uchel gyda phobl sydd â'r gallu i feithrin cydberthnasau gwaith da, gyda chysylltiadau mewnol ac allanol.
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i addasu arddull a chynnwys yn dibynnu ar yr unigolyn a natur y berthynas.
  • Yn gallu cynghori a briffio eraill, gan ofyn am y gallu i egluro a rhannu gwybodaeth yn glir gydag amrywiaeth o bobl, gan addasu ei arddull a'i ddull yn ôl yr angen.
  • Mae cyfathrebu'n cynnwys delio â chwsmeriaid anodd neu heriol, yn aml mewn sefyllfaoedd sensitif neu gymhleth, sy'n golygu bod angen pwyll, amynedd, a'r gallu i aros yn ddigynnwrf.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddefnyddio a chadw offer a chyfarpar a ddefnyddir i gyflawni ei waith yn ddiogel ac yn gyfreithiol, a allai gynnwys cerbydau neu offer technegol.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Dai G Hughes ar Dai.G.Hughes@naturalresourceswales.gov.uk neu Neil Scott Neil.Scott@naturalresourceswales.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf