Uwch-swyddog, Trwyddedu Ansawdd Dŵr

Dyddiad Cau: 16 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Gradd 6) | Lleoliad: Hyblyg

Math o Gontract: Cyfnod Penodol hyd at 24 Tachwedd 2023. 

Patrwm Gwaith: Llawn Amser, 37 awr yr wythnos, Dydd Llun i Dydd Gwener

Rhif Swydd: 201595

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Darparu arweiniad/cymorth arbenigol ar asesu a phennu ceisiadau cymhleth am drwydded ansawdd dŵr yn unol â pholisïau, prosesau, canllawiau a gweithdrefnau CNC.

Darparu arbenigedd ym maes deddfwriaeth sy’n berthnasol i drefniadau Trwyddedu Ansawdd Dŵr.

Bod yn atebol am waith trwyddedu strategol y tu hwnt i’r arfer yn ôl yr angen i sicrhau bod CNC yn rhoi trwyddedau effeithiol yn unol â gofynion deddfwriaeth a rheoleiddio sy’n newid.

Gweithio’n agos gydag aelodau tîm Ansawdd Dŵr ac ar draws y Gwasanaeth Trwyddedu i rannu gwaith arferol a thu hwnt i’r arfer i sicrhau effeithlonrwydd a defnyddio cryfderau unigol.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Arwain ar y gwaith o bennu trwyddedau cymhleth dan ddeddfwriaeth trwyddedu ansawdd dŵr trwy gynnal asesiadau technegol priodol yn unol â pholisïau a gweithdrefnau CNC lle bo’r rhain ar gael, a rhoi, gwrthod neu amrywio trwyddedau o fewn amserlenni.
  • Arwain ar ddylanwadu a chyflwyno fframweithiau hyfforddi a mentora i gynorthwyo gyda datblygiad technegol swyddogion trwyddedu eraill ym maes trwyddedu ansawdd dŵr lle bo’n briodol, gan sicrhau dull gweithredu cyson.
  • Profiad helaeth o wneud penderfyniadau ym maes trwyddedu gan ddefnyddio ystod o ganllawiau, meddalwedd a rhaglenni modelu technegol fel sy’n ofynnol ym maes ansawdd dŵr.
  • Arwain ar gefnogi timau gweithredol trwy ddarparu arbenigedd mewn trafodaethau cyn ymgeisio ac ar ôl rhoi trwydded ar gyfer gwahanol fathau o geisiadau ansawdd dŵr.
  • Adnabod a darparu cyfleoedd ar gyfer newid prosesau a gweithdrefnau.
  • Darparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon trwy gydlynu newid sy’n arwain at wella profiad rhanddeiliaid mewnol ac allanol o’r Gwasanaeth Trwyddedu.
  • Cydlynu ac arwain wrth baratoi amddiffyniad mewn perthynas â heriau cyfreithiol yn erbyn penderfyniadau trwyddedu yn eich maes gwaith.
  • Cynrychioli’r Gwasanaeth Trwyddedu ar grwpiau technegol mewnol perthnasol ac mewn digwyddiadau rhanddeiliaid allanol perthnasol.

Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Addysg hyd at lefel gradd neu gyfwerth mewn pwnc gwyddonol.
  2. Dealltwriaeth fanwl o’r ddeddfwriaeth berthnasol a sut mae’n ymwneud â’r broses o drwyddedu ansawdd dŵr.
  3. Profiad helaeth o asesu ceisiadau cymhleth yn ymwneud â thrwyddedau ansawdd dŵr.
  4. Sgiliau hyfforddi a mentora.
  5. Dull cyflawni sy’n canolbwyntio’n gryf ar y cwsmer.
  6. Hanes o lwyddo wrth gyflawni datrysiadau amserol trwy ddadansoddi gwybodaeth yn effeithiol a gwneud penderfyniadau’n seiliedig ar risg.
  7. Sgiliau cynllunio a threfnu effeithiol.

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Y gallu i gyflawni tasgau neu waith ymarferol neu dechnegol sy'n gofyn am wybodaeth/arbenigedd arbenigol.
  • Arbenigwr mewn ystod o bynciau sy'n ymwneud â'i arbenigedd a’r gallu i weithredu fel yr arbenigwr lleol neu'r arweinydd arbenigol ar gyfer ardal fach mewn rôl gynghorol.
  • Yn dangos profiad sylweddol a gwybodaeth arbenigol yn ei faes, gyda'r gallu i reoli prosiectau, gan gynnwys cyllideb y prosiect a'r tîm.
  • Yn meddu ar sgiliau dadansoddi, dylanwadu, perswadio, goruchwylio a mentora, ynghyd â sgiliau rheoli prosiect. 

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddehongli cynlluniau cyflenwi gweithredol y swyddogaeth a deall eu cyd-destun o fewn strategaeth ehangach Cyfoeth Naturiol Cymru. 
  • Y gallu i ddehongli datblygiadau yn ei faes arbenigedd, gan gyfrannu at gynllunio busnes a dylunio a darparu rhaglenni gwaith tîm.
  • Yn dangos y gallu i ddadansoddi a dehongli ystod eang o wybodaeth gymhleth, gan ddidynnu pwyntiau allweddol ac â’r gallu i’w cyfleu i unigolion ar bob lefel a chyfrannu at ddatblygiad polisi.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i arwain a rheoli prosiectau mewn meysydd gwaith penodol, gan gymryd cyfrifoldeb dros reoli cyllidebau a thimau prosiectau, ac am lwyddiant y prosiect a'r gwaith o'i gyflawni.
  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, gydag arweiniad gan gymheiriaid, sy'n gofyn am yr angen am rywfaint o farn a chreadigrwydd a allai arwain at newidiadau mewn gweithdrefnau/arferion sefydledig yn y maes gwaith.
  • Bydd deiliad y swydd yn cyflwyno rhaglenni gwaith sy'n aml yn sylweddol, a allai olygu bod angen newid blaenoriaethau oherwydd galwadau sy'n gwrthdaro.
  • Yn gyfrifol am wneud penderfyniadau annibynnol ar lefel weithredol, gyda mewnbwn gan reolwyr llinell a chymheiriaid, ynghyd â dealltwriaeth o bolisi Cyfoeth Naturiol Cymru a'r ystod o opsiynau sydd ar gael a'u goblygiadau posibl i'r busnes.
  • Yn deall canlyniadau gwneud penderfyniadau anghywir, a fyddai’n cael effaith andwyol mewn perthynas â rhanddeiliaid allanol, fel sefydliadau partner, rhoddwyr benthyciadau, defnyddwyr gwasanaethau ac ati. 
  • Gall penderfyniadau a wneir ymwneud ag ystod eang o faterion, efallai na fydd eu canlyniad bob amser yn glir neu'n amlwg ar unwaith, ac maent yn debygol o fod yn ehangach na'r swyddogaeth neu adran uniongyrchol.
  • Efallai y bydd problemau sy'n dod i'r golwg hefyd yn ymwneud â'r gwaith mewn rhannau eraill o'r sefydliad a gallai’r rhain fod yn amrywiol.

Effaith

  • Gan weithio fel arbenigwr/arweinydd sector lleol, bydd cyfraniad a dylanwad deiliad y swydd ar lefel weithredol ac yn cael effaith yn fewnol ac yn allanol.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan feithrin a chynnal cydberthnasau a rhwydweithiau da a chynnwys y sefydliad wrth gyflawni polisïau a chynlluniau gwaith yn y ffordd fwyaf effeithlon. 
  • Bydd cyfathrebu ag eraill ar lefel weithredol yn fewnol ac yn allanol, ac fel rheol bydd yn arbenigol ei natur. 
  • Y gallu i weithredu fel arbenigwr cynghorol neu swyddogaethol, gan ddarparu cyngor, a all fod yn dechnegol, yn arbenigol neu'n fanwl, a chan deilwra'r dull, yr arddull a lefel y cyfathrebu yn briodol i’r gynulleidfa. 
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu a pherswadiol effeithiol gyda'r gallu i arwain prosiectau, a all gynnwys hwyluso a chyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor a chyfrannu yn ôl yr angen. 
  • Y gallu i gynhyrchu dogfennau, adroddiadau, rhaglenni a chontractau gyda pheth cymhlethdod ac sy’n cynnwys cyngor, arweiniad neu farn a fyddai’n cael canlyniadau niweidiol pe baent yn anghywir neu'n cael eu drafftio'n wael.
  • Y gallu i gynnal gwaith ymchwil a chasglu gwybodaeth a data o sawl lleoliad neu ffynhonnell a defnyddio barn broffesiynol wrth benderfynu sut y dylid dehongli'r wybodaeth.

Cyfrifoldeb dros Bobl

  • Ni fydd gan ddeiliad y swydd gyfrifoldeb rheoli llinell, ond bydd ganddo gyfrifoldeb gweithredol am arwain staff arbenigol/technegol trwy raglenni technegol/arbenigol nad ydynt yn gymhleth a hynny trwy strwythur ‘rheoli matrics’.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 16 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 2 & 3 Mawrth Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Terry Gulliford ar terry.gulliford@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf