Data Ecolegol – Cynghorydd Arbenigol
Dyddiad Cau: 26 Chwefror 2023 | Cyflog: £37,308 - £40,806 (Grade 6) | Lleoliad: Hyblyg
Math o Gontract: Parhaol
Patrwm Gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif Swydd: 201411
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i'r swyddfa CNC agosaf i'ch cartref, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yw'r prif gynghorydd i Lywodraeth Cymru ynglŷn â materion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a'i adnoddau naturiol. Ein nod yw cadarnhau ein holl gyngor a gweithrediadau â thystiolaeth gadarn. Yn ogystal â defnyddio tystiolaeth a gynhyrchir gan eraill, mae Cyfoeth Naturiol Cymru ei hun yn casglu tystiolaeth, yn benodol trwy'r gwaith monitro amgylcheddol yr ydym yn ei gynnal.
Rydym yn chwilio am rywun i arwain ar ddefnyddio a datblygu data ecoleg a storfeydd data CNC. Yn y rôl arbenigol dechnegol hon, byddwch yn rheoli ac yn datblygu dulliau gweinyddu data monitro ac arolygu bioamrywiaeth ddaearol a morol, a data ffisegol a phrosesau busnes cysylltiedig.
Byddwch wedi'ch lleoli yn y Tîm Ecosystemau a Rhywogaethau Daearol, tîm o arbenigwyr cynefinoedd a rhywogaethau yn y Gyfarwyddiaeth Tystiolaeth, Polisi a Thrwyddedu. Ond byddwch yn gweithio ar draws CNC, gan gydweithio â chydweithwyr morol a monitro, yn ogystal â'r rhai sy'n gweithio ar reoli data ecolegol, polisïau a gweithdrefnau rheoli data, a systemau TGCh. Byddwch hefyd yn gweithio gyda phartneriaid allanol ar ddatblygu a rheoli systemau data fel Marine Recorder.
Bydd angen gwybodaeth dechnegol arbenigol arnoch yn ymwneud â datblygu ac asesu safonau ansawdd data priodol a metrigau ar gyfer monitro ecoleg a data bioamrywiaeth. Byddwch yn meddu ar ddealltwriaeth dda o egwyddorion rheoli data ac arferion gorau yn y maes hwn (gan gynnwys safonau cyfnewid data).
Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r unigolyn sydd â’r sgiliau cywir i arwain a chefnogi’r gwaith o reoli data ecoleg ar draws CNC.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Paratoi asesiadau technegol, gan dynnu ar ystod o wybodaeth gymhleth a ffynonellau data.
- Rheoli, datblygu a darparu mewnbwn technegol i gadwrfeydd data ecoleg CNC gan gynnwys y Cofnodwr a’r Cofnodwr Morol. Fel gweinyddwr system arweiniol byddwch yn sicrhau cydymffurfedd â safonau data a TG, ac yn gyfrifol am berchenogaeth fusnes yr asedau data ecoleg a gedwir ynddo.
- Arwain ar ddatblygu, gweithredu a chynnal yr offer a’r prosesau cysylltiedig ar gyfer cadwrfeydd data ecoleg CNC, ynghyd ag ansawdd data, gwiriadau a sicrwydd.
- Arwain datblygiad i fodloni gofynion rheoli data ecolegol CNC yn awr ac yn y dyfodol. Mabwysiadu newidiadau mewn technoleg ac arloesi i wella gwasanaethau a darparu buddion a ffyrdd gwell o gefnogi defnyddwyr.
- Cydgysylltu â rhanddeiliaid allanol i sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu deall, bod ein hanghenion a’n gallu i gyflawni yn cael eu cyfleu, a bod trefniadau ar gyfer cyfnewid data ecoleg a bioamrywiaeth, lle bynnag y cânt eu storio, yn cael eu gweithredu a’u rheoli’n briodol i sicrhau eu bod yn amserol ac yn addas i’r diben.
- Cynghori ar anghenion tystiolaeth a chyfleoedd bioamrywiaeth, a rheoli prosiectau tystiolaeth y cytunwyd arnynt, yn unol â'r rhaglen dystiolaeth y cytunwyd arni.
- Cefnogi ymgysylltiad a meithrin perthnasoedd mewnol ac allanol cryf ag ystod o bartneriaid a bod yn bwynt cyswllt arweiniol ar gyfer ymholiadau cwsmeriaid a cheisio cael cydweithrediad eraill, gan gynrychioli CNC mewn gweithgorau yn ôl yr angen.
- Gweithredu fel arbenigwr technegol ar gyfer systemau cofnodi ecoleg a bioamrywiaeth ar gyfer y busnes. Darparu cyngor technegol, cefnogaeth ac arweiniad fel arbenigwr arweiniol. Darparu hyfforddiant arbenigol uwch ar holl systemau cofnodi ecoleg a bioamrywiaeth CNC, gan gynnwys paratoi dogfennau canllaw
- Cyfrannu at grwpiau gorchwyl a gorffen, a gomisiynwyd drwy'r Byrddau Busnes, er mwyn paratoi cynhyrchion pendant yn ôl y gofyn.
- Cydweithio ag arweinydd y tîm i ddatblygu a chyflenwi cynllun datblygu personol Sgwrs cytunedig.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Specialist technical knowledge related to the development and assessment of appropriate Data Quality standards and metrics for ecology monitoring and biodiversity data.
- Experience of: using ecology data repositories, and in the management of ecology monitoring and biodiversity data. Strong IT skills and experience of the use and management of data, meta-data and reference data in related IT systems. Awareness and ability to evaluate IT and data requirements of business processes that produce and use data.
- Working with/in statutory nature conservation bodies, local authorities, eNGOs, and public bodies and the relevant IT services.
- Working in a programme and project management environment with Project Management experience and/or qualifications.
- Knowledge of: Welsh, UK and EU legislation related to biodiversity and data management: Welsh, UK Government policy drivers in biodiversity and ecosystem resilience: and the issues and opportunities in Wales.
- You will be a member of a relevant professional institution and/or working towards membership.
- Share your knowledge and expertise to help solve problems, supporting all Heads of Business in EPP as required.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Cyfrifoldeb dros Adnoddau |
|
Manteision Gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 26 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 3 Mawrth 2023 ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Liz Halliwell ar liz.halliwell@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07717800692
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.