Peiriannydd Cynorthwyol (Rheoli Perygl Llifogydd)
Dyddiad cau: 19 Chwefror 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Hyblyg o fewn y De-ddwyrain
Math o gontract: Parhaol
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos.
Rhif swydd: 201080
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Yn cwmpasu De-ddwyrain Cymru, mae'r tîm Peirianneg Integredig yn darparu gwasanaethau technegol proffesiynol i sicrhau y cyflenwir y rhaglen cynnal a chadw asedau perygl llifogydd blynyddol a phrosiectau cyfalaf gwerth isel i ganolig.
Fel rhan allweddol o'r tîm hwn, bydd deiliad y swydd yn cefnogi'r gwaith o baratoi'r wybodaeth sydd ei hangen i ganiatáu i'r gwaith a nodir yn ein rhaglenni mynd rhagddo mewn modd diogel ac effeithlon i gefnogi uwch-staff.
Yn ddelfrydol â chefndir peirianneg neu adeiladu, bydd eich dyletswyddau allweddol yn cynnwys cynnal a chadw cronfa ddata systemau gwybodaeth ddaearyddol ein hasedau, arolygu a monitro asedau yn y maes, llunio adroddiadau archwilio asedau i helpu i gynllunio a chyflwyno rhaglen waith.
Byddwch yn gweithio mewn tîm o staff technegol â phrofiad tebyg, yn darparu gwasanaeth seiliedig ar risg ar draws De-ddwyrain Cymru ac efallai y byddwch yn rhan o ymateb brys CNC i lifogydd fel ymatebwr Categori 1 o dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl (2004).
Mae'r rôl hon yn addas ar gyfer unigolyn technegol a chanddo rywfaint o brofiad ôl-gymhwysol ac sydd ag angerdd am weithio gyda'r amgylchedd i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl yn Ne-ddwyrain Cymru.
Cyfrifoldebau
Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Cyfrannu at y gwaith o gyflawni a chynllunio'r rhaglen cynnal a chadw i amddiffyn rhag llifogydd, gan gynnwys prosiectau unigol, a monitro’r gwaith hwnnw.
- Ymgymryd â chwiliadau cyfleustodau a chasglu gwybodaeth dechnegol, amgylcheddol ac iechyd a diogelwch arall ar gyfer gwaith unigol a rhoi mewnbwn i'r gwaith o gynllunio elfen rheoli risg y gwaith.
- Darparu data ariannol a thechnegol, gan gynnwys amcanbrisio, er mwyn galluogi costio cywir i sicrhau bod y gwaith yn cael ei gyflawni'n effeithlon ac effeithiol o ran cost, safon a therfynau amser.
- Cynorthwyo â'r gwaith o reoli contractau ac ymgymryd â gwaith monitro gweithredol er mwyn cyflenwi'r rhaglen cynnal a chadw perygl llifogydd.
- Defnyddio systemau gwybodaeth ddaearyddol yn effeithiol er mwyn llunio dogfennau allweddol, a ddefnyddir wrth gyflenwi gwaith cynnal a chadw a phrosiectau rheoli perygl llifogydd.
- Caffael nwyddau a gwasanaethau, gan lynu at gytundebau fframwaith a dilyn prosesau a gweithdrefnau.
- Cysylltu â rhanddeiliaid, gan gynnwys awdurdodau lleol, tirfeddianwyr, grwpiau amgylcheddol ac ati.
- Cynorthwyo â'r gwaith o ddatblygu cynlluniau i ymateb i ddigwyddiadau o lifogydd.
- Cynnal arolygon safle yn annibynnol i asesu prosiectau cynnal a chadw asedau a gwella cynlluniau llifogydd.
- Cymryd rhan mewn rota ymateb mewn argyfwng
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Wedi addysgu hyd at Ddiploma Cenedlaethol Uwch/Tystysgrif Genedlaethol Uwch mewn Peirianneg Sifil neu gymhwyster cyfwerth gydag o leiaf cymhwyster lefel uwch (Safon Uwch neu gyfwerth) a phrofiad perthnasol. Rhoddir ystyriaeth i ymgeiswyr sy'n gallu dangos profiad perthnasol sylweddol cyfatebol.
- Gwybodaeth am weithgareddau rheoli perygl llifogydd a dealltwriaeth o ddulliau ehangach o reoli asedau afonydd a'r arfordir.
- Gwybodaeth dda o TGCh. Gwybodaeth dda am systemau gwybodaeth ddaearyddol a chynllunio gyda chymorth cyfrifiadur (e.e. ARCGIS, AutoCAD).
- Byddai rhywfaint o wybodaeth am iechyd a diogelwch a rheoliadau perthnasol e.e. Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015 (CDM) yn fanteisiol.
- Trwydded yrru lawn y DU.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol - Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol |
|
Gwerthuso Gwybodaeth |
|
Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio ystwyth a hyblyg
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
- Awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 19 Chwefror 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag James Galsworthy ar james.galsworthy@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.