Dyddiad Cau: 01 Mawrth 2023 | Cyflog: £28,403 - £32,088 (Gradd 4) | Lleoliad: Prifysgol Abertawe

Math o Gontract: Parhaol

Patrwm Gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos, Dydd Llun – Dydd Gwener (Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o rota penwythnos ymateb i ddigwyddiadau)

Rhif Swydd: 200654, 200655

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r Swydd

Swyddi gwyddonwyr lefel mynediad llawn amser a pharhaol yw'r rhain yn y tîm Anorganig. Mae'r rolau wedi'u lleoli yn y labordy a byddant yn cynnwys dadansoddi samplau dŵr arferol ar gyfer adroddiadau Cyfarwyddeb yr UE, digwyddiadau llygredd a chwsmeriaid masnachol. Bydd y rolau hefyd yn rhoi cymorth i ddatblygu dulliau.

Mae profiad dadansoddol blaenorol mewn labordy ISO 17025 yn ddymunol, er y rhoddir hyfforddiant llawn.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Gweithio o fewn adran ddadansoddi fel rhan o dîm i sicrhau bod yr holl samplau'n cael eu dadansoddi mewn pryd ac i'r safonau rhagnodedig.
  • Dadansoddi a pharatoi samplau fel mater o drefn. Bydd hyn yn cynnwys prosesau a thechnegau amrywiol, gan gynnwys dadansoddwyr awtomataidd a chymryd darlleniadau mesuryddion â llaw. Rheoli a chynnal dogfennau.
  • Bod yn ymwybodol o'r nodweddion sy'n ofynnol i fod yn rhan o dîm llwyddiannus mewn amgylchedd pwysau uchel. Mae'r rhain yn cynnwys hunan-gymhelliant, disgyblaeth, a pharodrwydd i helpu eich cydweithwyr.
  • Meddu ar ddealltwriaeth drylwyr o system rheoli ansawdd y labordy, a sut mae hon yn effeithio ar bob agwedd ar y broses ddadansoddi.
  • Dangos dealltwriaeth o'ch iechyd a diogelwch eich hun ac eraill. Bod yn ymwybodol o bolisïau iechyd a diogelwch y labordy.
  • Sicrhau dealltwriaeth dda o system ansawdd y labordy a sut mae hynny'n effeithio ar bob agwedd ar y broses ddadansoddi.
  • Bod yn ymwybodol o bolisïau iechyd a diogelwch y labordy a chydymffurfio â nhw.
  • Cymryd rhan mewn rotâu dyletswydd ac ymateb i gael eich galw allan i sicrhau bod gwasanaeth ymateb i lygredd y labordy'n cael ei gynnal.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, Profiad & Gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Mae profiad blaenorol mewn labordy dadansoddi ISO:17025 achrededig yn ddelfrydol, ond nid yw'n hanfodol oherwydd rhoddir hyfforddiant llawn.
  2. Mae profiad a gwybodaeth yn bwysicach na chymwysterau ar gyfer y swydd hon, felly ystyrir derbyn ymgeiswyr ar lefel mynediad os ydynt yn meddu ar gymwysterau TGAU gwyddoniaeth, ond fel arfer derbynnir ymgeiswyr ar lefel raddedig.
  3. Gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar y cwsmer. Mae sgiliau cyfathrebu da yn hanfodol wrth ymdrin â chydweithwyr yn y labordy neu gleientiaid allanol.
  4. Y gallu i weithio fel rhan o dîm i gwrdd â therfynau amser llym, gan sicrhau bod yr holl ganlyniadau'n cael eu hadrodd yn ôl yn gywir ac yn effeithlon yn ddyddiol

Gofynion y Gymraeg:

Hanfodol Lefel 1 – Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml

Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Profiad ymarferol blaenorol amlwg a gafwyd mewn disgyblaeth dechnegol neu amgylchedd gwyddonol, ar lefel sy'n ei alluogi i weithredu rhaglenni gwaith o faint a chymhlethdod cymedrol a darparu arweiniad a goruchwyliaeth i eraill.
  • Y gallu i ddangos arbenigedd pwnc mewn maes arwahanol o'i waith.
  • Y gallu i brosesu a dadansoddi gwybodaeth arferol a chynhyrchu adroddiadau a gwybodaeth gywir yn seiliedig ar brosesau dadansoddol cadarn.
  • Yn meddu ar sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu da ynghyd â gwybodaeth TGCh a systemau.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau, codau statudol a deddfwriaeth a ddefnyddir wrth gyflawni'r rôl.
  • Gall arwain a gweithredu rhaglen waith sy'n gofyn am gasglu data a gwybodaeth o wahanol ffynonellau a systemau, i gynhyrchu dogfennau safonol.
  • Y gallu i gynnal dadansoddiad arferol o samplau a data syml gan ddilyn gweithdrefnau ffurfiol, sy'n arwain at gynhyrchu adroddiadau dadansoddol a dogfennaeth a fydd yn cael eu defnyddio gan eraill.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i gymhwyso rhywfaint o farn technegol i ddelio â materion neu'n gwybod pryd i'w cyfeirio at eraill.
  • Y gallu i ystyried opsiynau o ystod fach o atebion i wneud penderfyniadau, gan orfod teilwra rhai dulliau gwaith o bosib i gyflawni'r canlyniadau gofynnol heb wneud newidiadau sylfaenol i weithdrefnau neu brosesau.
  • Er y bydd y gwaith yn cynnwys amrywiaeth o dasgau tebyg ac eglur yn bennaf, bydd angen y flaengaredd i ddatrys problemau a chymhwyso gwahanol dechnegau neu ddulliau.
  • Bydd deiliad y swydd yn rheoli rhaglenni gwaith ar wahân ac mae angen iddo ddatrys problemau a gwneud penderfyniadau sydd â rhywfaint o gymhlethdod, ynghylch y ffordd orau o sicrhau canlyniadau.
  • Gall gwaith deiliad y swydd fod yn rhan o brosiect mwy, fel y bydd graddfa'r ymreolaeth yn gyfyngedig.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Bydd y rôl yn gofyn am ryngweithio uchel gyda phobl sydd â'r gallu i feithrin cydberthnasau gwaith da, gyda chysylltiadau mewnol ac allanol.
  • Yn dangos sgiliau cyfathrebu da gyda'r gallu i addasu arddull a chynnwys yn dibynnu ar yr unigolyn a natur y berthynas.
  • Yn gallu cynghori a briffio eraill, gan ofyn am y gallu i egluro a rhannu gwybodaeth yn glir gydag amrywiaeth o bobl, gan addasu ei arddull a'i ddull yn ôl yr angen.
  • Mae cyfathrebu'n cynnwys delio â chwsmeriaid anodd neu heriol, yn aml mewn sefyllfaoedd sensitif neu gymhleth, sy'n golygu bod angen pwyll, amynedd, a'r gallu i aros yn ddigynnwrf.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddefnyddio a chadw offer a chyfarpar a ddefnyddir i gyflawni ei waith yn ddiogel ac yn gyfreithiol, a allai gynnwys cerbydau neu offer technegol.

Manteision Gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 01 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch ag Michelle Cheshire ar michelle.cheshire@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf