Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw
Dyddiad cau: 5 Mawrth 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Bangor
Math o gontract: Cyfnod Penodol hyd at 30 Mehefin 2024.
Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr. Dydd Llun i ddydd Gwener ac ar y penwythnos yn achlysurol
Rhif swydd: 200446
Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.
Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.
Disgrifiad o’r swydd
Mae hwn yn gyfle cyffrous i ymuno â phrosiect adfer bioamrywiaeth sefydledig, gwerth miliynau o bunnoedd. Fel aelod o dîm prosiect Twyni Byw, byddwch yn helpu i gyflawni’r rhaglen uchelgeisiol o waith adfer ymarferol, monitro ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar draws pedair Ardal Cadwraeth Arbennig yng Nghymru.
Fel Swyddog Prosiect a Monitro Twyni Byw yn y Gogledd, byddwch yn gyfrifol am arwain y gwaith o gyflawni gwaith arloesol ar raddfa fawr ar safleoedd yn Niwbwrch, Tywyn Aberffraw, Morfa Harlech a Morfa Dyffryn. Bydd hyn yn cynnwys gosod a goruchwylio contractau â gwerth uchel ac yna eu monitro. Byddwch hefyd yn coladu ac yn rhannu canlyniadau'r prosiect gyda gweithwyr eraill proffesiynol ym maes twyni tywod (o'r DU a thramor), cymunedau lleol ac ymwelwyr, gan gynnwys yng nghynhadledd olaf y prosiect.
Byddai'r swydd hon yn addas ar gyfer unigolyn sydd am ddatblygu ei yrfa ym maes gwarchod bioamrywiaeth gydag un o asiantaethau'r llywodraeth. Bydd gofyn i chi ymweld yn rheolaidd â'r pedwar safle twyni tywod a enwir uchod, a bydd angen i chi fod yn gyfforddus yn yr amgylcheddau anghysbell hyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn hyblyg, yn dysgu'n gyflym, yn dangos menter ac yn gallu gweithio'n effeithiol gyda chontractwyr, aelodau’r tîm a phartneriaid eraill. Bydd y ffocws ar gyflawni allbynnau terfynol o dan bwysau amser.
Mae prosiect Twyni Byw (LIFE 17 NAT/UK/000023) wedi derbyn cyllid gan Raglen LIFE yr Undeb Ewropeaidd ac yn cael ei ariannu’n rhannol gan Lywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau
- Ar y cyd ag aelodau eraill o dîm y prosiect, byddwch yn cefnogi arweinydd y tîm i sicrhau bod amcanion a thargedau’r prosiect yn cael eu cyflawni ac i adrodd ar gynnydd yn unol â cherrig milltir y cytunwyd arnynt. Byddwch yn sicrhau bod y prosiect yn cael ei lywodraethu'n dda, gan gynnwys glynu'n gaeth wrth arferion caffael, llesiant, ac iechyd a diogelwch CNC. Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:
- Gweithio gydag aelodau eraill o dîm y prosiect ac aelodau eraill o staff CNC, i gynllunio a datblygu'r rhaglen waith fanwl o adfer safleoedd, monitro ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar gyfer y deg safle twyni tywod (a leolir mewn pedair ACA) ar gyfer cyfnod y prosiect.
- Cyflawni'r holl waith ymarferol o reoli, adfer a monitro ar y safle i safonau rhagorol drwy gyfuniad o waith uniongyrchol ar y safle a goruchwyliaeth agos o dîm o gontractwyr arbenigol.
- Datblygu a rheoli contractau lluosog sy'n gorgyffwrdd ac sy'n cwmpasu’r holl agweddau ar y rhaglen.
- Cynnal cofnodion manwl (gan gynnwys data Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol) o gynnydd o ran gweithredu’r prosiect er mwyn cefnogi’r gwaith o adrodd ar gamau milltir allweddol. Casglu a dadansoddi data monitro’r prosiect er mwyn mesur effeithiolrwydd camau gweithredu’r prosiect. Cyflwyno a rhannu canlyniadau a phwyntiau dysgu trwy adroddiadau ysgrifenedig a dulliau eraill.
- Mynychu cyfarfodydd rheolaidd tîm prosiect LIFE a chyfrannu atynt yn weithredol, yn ogystal â chefnogi arweinydd y tîm yng nghyfarfodydd y Bwrdd Prosiect a Grŵp Llywio.
- Rheoli'r gyllideb a ddyrennir i elfennau prosiect yr ydych yn gyfrifol amdanynt a chynnal cydberthnasau â chyflenwyr trydydd parti er mwyn cyflawni gofynion gwerth am arian a phroffiliau gwariant.
- Byddwch yn gyfrifol am oruchwylio, mentora a hyfforddi deiliad swydd dan hyfforddiant.
- Gweithio gydag amrediad eang o randdeiliaid gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau ymgysylltu er mwyn gwella dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r gofynion ar gyfer adfer twyni tywod, a'r buddion sy'n deillio ohono ar gyfer y gymdeithas, yn ogystal â LIFE â'r gyfres o safleoedd Natura 2000.
Cymwysterau, profiad a gwybodaeth
Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol:
- Gwybodaeth am gadwraeth a rheoli safleoedd twyni tywod, gan gynnwys profiad o gymhwyso technegau rheoli a gwaith rheoli contractwyr.
- Casglu data ynghylch cynefinoedd daearol, dadansoddi a chyflwyno canlyniadau (gan gynnwys y gallu i ysgrifennu adroddiadau clir a chryno), a defnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol i ddadansoddi a chasglu data.
- Sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu rhagorol a'r gallu i gyflwyno'r prosiect LIFE i amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan gynnwys rheolwyr tir.
- Y gallu i ymgymryd â gwaith maes sy'n gofyn llawer yn gorfforol, a hynny mewn mathau gwahanol o dywydd a thiroedd. Lle bo'n angenrheidiol / yn briodol, mae hyn yn cynnwys gweithio ar eich pen eich hun.
- Y gallu i yrru car yn y DU yn gyfreithlon ar hyn o bryd.
Gofynion y Gymraeg
Hanfodol Lefel 1 - Y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml
Dymunol Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith
Noder: Os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.
Cymwyseddau
Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.
Gwybodaeth a sgiliau hanfodol |
|
Gwerthuso gwybodaeth |
|
Gofynion gwneud penderfyniadau ac ymreolaeth |
|
Effaith |
|
Cyfathrebu a chydberthasau ag eraill |
|
Cyfrifoldeb dros adnoddau |
|
Manteision gweithio i ni
Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:
- Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
- Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
- 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
- Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
- Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
- Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio
Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.
Sut i wneud Cais
Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost
Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd
Dyddiad cau ar gyfer y cais 5 Mawrth 2023
Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â Kathryn Hewitt ar Kathryn.hewitt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07970 254369
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.
Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.
Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.