Aelod Tîm Gweithlu Integredig

Dyddiad cau: 15 Chwefror 2023 | Cyflog: £21,655 - £24,408 (Gradd 2) | Lleoliad: Bodffordd Depot, Ynys Môn

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Pythefnos 9 diwrnod

Rhif swydd: 200187

Byddwch yn cael eich contractio i’r lleoliad CNC sydd wedi’i nodi yn yr hysbyseb hon, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae gennym gyfle cyffrous i ymuno â’r Tîm Gweithlu Integredig yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Byddwch chi'n ymuno â thîm sy'n angerddol am yr hyn maen nhw'n ei wneud. Byddwch yn helpu i ddarparu gwaith cynnal a chadw a chyfalaf ar asedau Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r asedau hyn yn cynnwys asedau perygl llifogydd, fel argloddiau llifogydd, a byddwch yn helpu i gadw'r afonydd yng Ngogledd Orllewin Cymru yn rhydd o rwystrau a all gynyddu'r risg o lifogydd. Byddwch hefyd yn gweithio ar asedau eraill a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Fel rhan o'r tîm, byddwch chi'n cyfrannu at rota wrth gefn i ymateb i ddigwyddiadau, ac yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Byddwch yn darparu gwasanaeth llafur â llaw er mwyn cynnal asedau Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n cynnwys asedau perygl llifogydd a thir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
  • Byddwch yn gallu defnyddio offer megis offer â llaw, a allai gynnwys llifiau cadwyn.
  • Byddwch yn gallu gweithredu fel arolygwr a thaflwr/arwyddwr.
  • Byddwch yn gallu deall cynlluniau technegol a chyfleustodau a gweithredu mewn cydymffurfiaeth â'r Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli). 
  • Byddwch yn defnyddio cyfarpar a pheiriannau bach, h.y. Aebi/Reform, peiriannau torri gwair wrth gerdded, peiriannau malu pren ac ati. 
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Trwyddedau gweithredwyr perthnasol ar gyfer offer, peiriannau a chyfarpar neu’n gweithio tuag atynt.
  2. Tystysgrif Gweithio'n Ddiogel IOSH.
  3. Cymhwysedd mewn TGCh (lefel sylfaenol).
  4. Cymorth Cyntaf Brys +F.
  5. Mae profiad blaenorol o weithio ym maes coedwigaeth, adeiladu, amaethyddiaeth neu’r amgylchedd, neu fel gweithredwr cyfarpar, yn ddymunol.
  6. Mae'r rôl yn heriol yn gorfforol felly bydd angen lefel resymol o ffitrwydd.
  7. Hyderus yn gweithio mewn dŵr ac wrth ymyl dŵr.
  8. Mae sgiliau llythrennedd a rhifedd sylfaenol yn ofynnol ar gyfer y rôl. Mae TGAU Gradd C (neu gyfwerth) mewn Saesneg a Mathemateg yn hanfodol
  9. Trwydded yrru lawn y DU, yn ddelfrydol yn cynnwys categori B + E (tynnu trelars). 

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol - Lefel 3 – Gallu defnyddio Cymraeg mewn rhai sefyllfaoedd gwaith.

Cymwyseddau

Noder - Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Dangos y gallu a'r parodrwydd i gyrraedd NVQ Lefel 2 o fewn un i ddwy flynedd o’i benodiad. 
  • Mae profiad ymarferol perthnasol blaenorol yn ddymunol, ond nid yn hanfodol; a enillwyd trwy brentisiaeth neu waith tebyg mewn amgylchedd arall.
  • Sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu rhesymol.

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i gofnodi gweithgareddau gwaith yn gywir.
  • Mae'r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau Iechyd a Diogelwch a deall peryglon yn hanfodol.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i gyfathrebu â chydweithwyr a gyda'r cyhoedd a thrydydd partïon, gan ddarparu gwybodaeth, gofyn cwestiynau neu ateb ymholiadau sylfaenol yn gwrtais.
  • Y gallu i gwblhau dogfennau a chofnodion ysgrifenedig sylfaenol y gallai fod angen i eraill eu hadolygu a'u llofnodi.

Cyfrifoldeb dros Adnoddau

  • Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am yr offer a'r cyfarpar a ddefnyddir yn y maes i gyflawni ei rôl. Gall hyn gynnwys cerbydau a/neu beiriannau mawr, a allai fod o werth uchel.
  • Byddai disgwyl i ddeiliad y swydd gymryd cyfrifoldeb personol am eu cadw a'u defnyddio'n ddiogel ac yn gyfreithiol.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio ystwyth a hyblyg
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 diwrnod o wyliau blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a chymorth o ran iechyd a lles
  • awr les wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 15 Chwefror 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Tan Lan depot, Llanwrst.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â/ag Llion Jones ar Llion.Jones@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk neu 07909936224

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

Diweddarwyd ddiwethaf