Dyddiad cau: 5 Mawrth 2023 | Cyflog: £32,876 - £36,229 (Gradd 5) | Lleoliad: Hyblyg o fewn lle (Gogledd-Orllewin Cymru)

Math o gontract: Parhaol

Patrwm gwaith: Llawn amser, 37 awr yr wythnos. 

Rhif swydd: 200131

Fel sefydliad, rydym yn cefnogi gweithio hyblyg. Mae'r rôl hon yn caniatáu gweithio hybrid (cyfuniad o weithio gartref ac yn y swyddfa) a gellir trafod patrwm gwaith sy'n addas i chi pan fyddwch yn cael eich penodi, os ydych yn llwyddiannus.

Byddwch yn cael eich contractio i swyddfa CNC o fewn y lle, a bydd gofyn i chi fynd yno ar gyfer cyfarfodydd rheolaidd, hyfforddiant ac ar gyfer cyfarfodydd un i un gyda'ch rheolwr. Bydd y rhain yn cael eu cynllunio ymlaen llaw.

Disgrifiad o’r swydd

Mae adnoddau naturiol Cymru yn rhoi aer glân, dŵr glân, bwyd a chysgod inni. Maen nhw’n rhoi gwell ansawdd bywyd i ni i gyd, cyfleoedd i fwynhau’r awyr agored yn erbyn cefndir o harddwch naturiol Cymru ac yn rhan o ddiwylliant, treftadaeth ac iaith Cymru.

Yn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) rydym yn angerddol am reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn mwynhau gweithio ym mynyddoedd, coetiroedd a thirweddau hardd Cymru.

Bydd deiliad y swydd yn ymuno â’r tîm Peirianneg Integredig sy’n dylunio ac yn adeiladu’r ffyrdd a’r seilwaith yn Ystad Coetir Llywodraeth Cymru i ganiatáu rheolaeth ofalus ar yr adnodd gwerthfawr hwn.

Fel Peiriannydd Sifil byddwch yn datblygu ac yn cyflwyno rhaglen ar gyfer adeiladu a chynnal a chadw seilwaith cymhleth gan gynnwys ffyrdd coedwig, pontydd, cyffyrdd a thraciau mawr yn ein hystâd goedwig.

Cyfrifoldebau

Mae eich cyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Rheoli'r gwaith newydd o adeiladu, uwchraddio a chynnal a chadw ffyrdd rhwydwaith, a chyfleusterau cynaeafu ar gyfer yr ardal o fewn y gyllideb a ddyrannwyd.
  • Cynnal archwiliadau o heolydd a phontydd troed ar gyfnodau penodol, gan sicrhau bod data'n cael ei anfon er mwyn nodi a chynnal cofnodion.
  • Cynnal archwiliadau rheolaidd o'r chwareli a phyllau benthyg yn unol â rheoliadau presennol. Sicrhau bod yr holl safonau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yn cael eu cymhwyso a'u bod yn bodloni'r gofynion cyfredol. Adrodd am unrhyw achosion o dorri amodau. 
  • Cynhyrchu cynlluniau drafft ysgrifenedig cryno ac argyhoeddiadol, gan nodi materion allweddol, archwilio opsiynau a chynnig ffordd ymlaen. 
  • Cynllunio, blaenoriaethu a threfnu adnoddau er mwyn sicrhau bod prosiectau'n cael eu cyflawni yn unol â'r amser, y gost a'r safonau o ran ansawdd y cytunwyd arnynt.
  • Gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth ond gwybod pryd i ofyn i aelodau uwch am gyngor.
  • Monitro cyllideb a hysbysu'r peirianwyr o unrhyw botensial i dan-wario neu gor-wario.
  • Cynnal gwaith mesur pellter electronig (EDM), neu waith arolygu lefel, a gosod yn ôl y gofyn.
  • Creu darluniau contract gweithredol ac eraill fel y bo angen.
  • Cysylltu ag awdurdodau statudol a rhanddeiliaid eraill ynghylch gwaith arfaethedig.
  • Mae gofyn cymryd rhan mewn gweithgareddau ymateb i ddigwyddiadau.

Cymwysterau, profiad a gwybodaeth

Gwybodaeth a phrofiad o’r canlynol: 

  1. Profiad mewn peirianneg sifil, rheoli contractau a chynllunio prosiectau a dealltwriaeth o gontractau NEC3.
  2. Gwybodaeth a dealltwriaeth o CDM2015 a rheoli risgiau iechyd, diogelwch ac amgylcheddol adeiladu.
  3. Gwybodaeth o dechnegau adeiladu heolydd coedwig (macadam rhwymedig gwlyb), a phrofiad o weithio mewn amgylchedd gwledig / ucheldir.
  4. Gwybodaeth am dechnegau adeiladu pontydd concrid a phren.
  5. Gwybodaeth o Ganllawiau Coedwigaeth a Dŵr (V5) a Chyfarwyddeb Fframwaith Dŵr yr UE.
  6. Gwybodaeth am y Rheoliadau Chwareli (1999) a gweithdrefnau rheoli chwareli.
  7. Gwybodaeth o becynnau CAD megis AutoCAD.
  8. Gwybodaeth am MS Office
  9. Gwybodaeth am gyflenwi prosiectau drwy gytundebau fframwaith.
  10. Gwybodaeth a phrofiad o reoli tîm/unigolion.
  11. Profiad o gasglu dogfennau/darluniau tendr.
  12. Aelod o gorff proffesiynol, neu'n gweithio tuag ato e.e. ICE. 

Gofynion y Gymraeg

Hanfodol Lefel 1 - y gallu i ynganu geiriau Cymraeg a defnyddio ymadroddion syml 

Dymunol Lefel 4 – siarad Cymraeg yn rhugl

Noder os nad ydych yn bodloni’r gofynion lefel 1, h.y. y gallu i ddeall brawddegau sylfaenol ac ynganu enwau Cymraeg yn gywir, mae CNC yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau dysgu a chymorth staff i’ch helpu i fodloni’r gofynion sylfaenol hyn yn ystod eich cyflogaeth gyda ni.

Cymwyseddau

Bydd ceisiadau i'r rôl hon yn cael eu hasesu yn seiliedig ar y cymwyseddau canlynol, wrth lunio rhestr fer ac yn ystod y cyfweliad. Rhowch enghreifftiau o sut rydych yn dangos y cymwyseddau hyn wrth lenwi eich ffurflen gais.

Gwybodaeth a Sgiliau Hanfodol

  • Profiad perthnasol amlwg wedi'i ennill mewn nifer o amgylcheddau neu ystod o rolau, gyda gafael a dealltwriaeth dda o bolisi a gweithdrefnau sefydliadol.
  • Meddu ar brofiad blaenorol o reoli prosiectau / rheoli contractau mewn maes technegol a’r gallu i gyflawni'r ystod lawn o dasgau sy'n gysylltiedig â rheoli prosiectau.
  • Y gallu i ddangos lefel dda o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chyfathrebu.
  • Yn nodweddiadol, bydd deiliad y swydd wedi cael profiad o oruchwylio eraill/contractwyr.
  • Y gallu i ddangos lefel uchel o wybodaeth am faes iechyd, diogelwch a llesiant, a phrofiad ohono, ynghyd â diogelwch cyhoeddus ac atebolrwydd cyhoeddus.  

Gwerthuso Gwybodaeth

  • Y gallu i ddeall a dehongli llawlyfrau gweithdrefnau technegol a chodau statudol a ddefnyddir wrth gyflawni'r rôl. 
  • Y gallu i gynhyrchu achosion busnes, adroddiadau, nodiadau briffio a chontractau, a fydd yn cael eu cymeradwyo gan eraill fel rhan o brosesau mewnol y cytunwyd arnynt.

Gofynion Gwneud Penderfyniadau ac Ymreolaeth

  • Y gallu i benderfynu ar y ffordd orau o sicrhau canlyniadau, sy'n gofyn am farn wrthrychol.
  • Y gallu i newid blaenoriaethau lle mae gofynion neu weithgareddau gwaith sy'n gwrthdaro.
  • Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd wneud penderfyniadau o natur dechnegol yn seiliedig ar gwmpas y gwaith, gydag arweiniad gan eraill os oes angen.
  • Bydd amcanion a thargedau yn cael eu cyflawni yn unol â gweithdrefn lywodraethu ac yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.
  • Bydd deiliad y swydd yn atebol i swyddog gweithredol ar y prosiect.
  • Y gallu i ddefnyddio gwybodaeth flaenorol i ddatrys problemau yn seiliedig ar ganlyniadau hysbys, gydag arweiniad gan swyddog gweithredol y prosiect os oes angen.
  • Yn deall y bydd effaith ei benderfyniadau yn ehangach na'r swyddogaeth neu'r adran uniongyrchol ac yn effeithio ar yr amgylchedd a'r dirwedd dros yr hirdymor.

Effaith

  • Yn dangos dealltwriaeth y bydd ei benderfyniadau a'i weithredoedd yn dylanwadu ar eraill ac y gall prosiectau a gyflawnir effeithio ar enw da Cyfoeth Naturiol Cymru yn allanol ac effeithio ar aelodau'r cyhoedd.
  • Yn gwerthfawrogi y bydd penderfyniadau a wneir yn cael dylanwad parhaol ar y dirwedd gydag effaith tymor byr i ganolig.
  • Y gallu i gymryd cyfrifoldeb am gyflawni a chanlyniadau cyffredinol yr ystod o brosiectau, a reolir o fewn strwythur llywodraethu.
  • Bydd ystyriaethau iechyd a diogelwch yn nodwedd o bob prosiect a bydd angen i ddeiliad y swydd nodi a rheoli effaith unrhyw risgiau.

Cyfathrebu a Chydberthnasau ag Eraill

  • Y gallu i ryngweithio a chysylltu â rolau eraill ar draws y busnes, gan feithrin a chynnal cydberthnasau gwaith a rhwydweithiau da i ymgysylltu â'r sefydliad wrth ddarparu polisïau a chynlluniau gwaith yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • Sgiliau cyfathrebu a pherswadiol effeithiol, a all gynnwys hwyluso a chyflwyno mewn cyfarfodydd mewnol neu allanol, gan roi cyngor a chyfrannu yn ôl yr angen. 
  • Y gallu i reoli cydberthnasau ag ystod eang o randdeiliaid a thrydydd partïon sy'n ymwneud â chyflawni prosiectau, a allai gynnwys rhywfaint o ddylanwadu.
  • Y gallu i gynhyrchu dogfennau technegol, adroddiadau, cyfrifon, contractau ac ati yn cynnwys cyngor, arweiniad neu farn a allai arwain at ganlyniadau niweidiol a goblygiadau ariannol os ydynt yn anghywir neu wedi'u drafftio'n wael.
  • Y gallu i ddod o hyd i wybodaeth a data o sawl lleoliad, sy'n gofyn am ymchwil allanol a barn broffesiynol i benderfynu sut y dylid dehongli'r wybodaeth.
  • Hyder i ryngweithio â phobl yn allanol ar bob lefel.
  • Er bod hon yn rôl sy'n wynebu tuag allan, bydd y gwaith a wneir yn effeithio'n allanol ac yn fewnol ar ystod o lefelau, yn dibynnu ar natur y prosiect.

Manteision gweithio i ni

Bydd y rôl hon yn cynnig amrywiaeth o fanteision, gan gynnwys:

  • Gweithio Ystwyth a Hyblyg (yn dibynnu ar y rôl)
  • Cynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil sy’n cynnig cyfraniadau o 26.6% i 30.3% gan y cyflogwr
  • 28 Diwrnod o Wyliau Blynyddol, yn codi i 33 diwrnod
  • Absenoldebau hael ar gyfer eich holl anghenion mewn bywyd
  • Manteision a Chymorth o ran iechyd a lles
  • Awr Les Wythnosol y gallwch ddewis pryd i’w defnyddio

Gweler y manylion llawn ar gyfer yr holl fuddion y byddwch yn eu cael fel gweithiwr.

Sut i wneud Cais

Anfonwch eich Ffurflen gais wedi’i chwblhau at ceisiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk gan ddefnyddio rhif y swydd fel cyfeirnod yr e-bost

Cyn cwblhau eich cais, darllenwch ein Canllawiau ar gyfer cwblhau ffurflen gais ar gyfer swydd

Dyddiad cau ar gyfer y cais 5 Mawrth 2023

Bydd cyfweliadau’n cael eu cynnal ar Microsoft Teams

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y swydd, cysylltwch â James West ar James.West@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn frwdfrydig dros amrywiaeth ac yn hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn recriwtio yn ôl teilyngdod ar sail cystadleuaeth deg ac agored.

Rydym yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd, gan gynnwys menywod, grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a phobl ag anabledd. Mae gennym gynllun gwarantu cyfweliad ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy'n bodloni'r meini prawf dethol gofynnol.

Mae egwyddorion hawliau dynol, cydraddoldeb, tegwch, urddas a pharch wrth wraidd ein gwerthoedd.

 

Diweddarwyd ddiwethaf