Datganiad tasg gyhoeddus

O dan Reoliadau Ailddefnyddio Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus 2015
(y Rheoliadau Ailddefnyddio). Caiff y datganiad hwn ei adolygu'n rheolaidd.

Tasg gyhoeddus

Rydym yn Gorff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, sy'n cyflogi dros 2,000 o aelodau staff ledled Cymru.

Fe'n ffurfiwyd ym mis Ebrill 2013, ac mae ein diben cyffredinol wedi'i nodi yng Ngorchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 a'n dull o reoli adnoddau naturiol Cymru'n gynaliadwy yw adeiladu amgylchedd iach a gwydn a all gefnogi ffyniant economaidd a chymdeithasol am genedlaethau i ddod yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Rydym yn derbyn llythyr cylch gwaith ar ddechrau pob blwyddyn ariannol, gan nodi pa amcanion y mae Llywodraeth Cymru am i ni eu cyflawni yn y flwyddyn honno.

Mae ein cylch gwaith yn cynnwys ystod eang o rolau a chyfrifoldebau. Rydym: 

  • yn gynghorydd amgylcheddol allweddol i'r Llywodraeth ac eraill sy'n gwneud penderfyniadau cyhoeddus megis Awdurdodau Cynllunio Lleol.
  • yn datblygu a chynnal amddiffynfeydd rhag llifogydd ac yn ymateb i lifogydd a digwyddiadau amgylcheddol gan gynnwys cyhoeddi rhybuddion llifogydd i gymunedau sydd mewn perygl.
  • yn rheoli'r ystad o goedwigoedd cyhoeddus, ac yn diogelu safleoedd dynodedig gan gynnwys Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, safleoedd a ddynodwyd yn rhyngwladol a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol.
  • yn brif reoleiddiwr amgylcheddol Cymru, sy'n cwmpasu ystod eang o sectorau a gweithgareddau. 
  • yn casglu tystiolaeth a chynnal ymchwil i ehangu ein gwybodaeth am amgylchedd Cymru, gan weithio'n aml mewn partneriaeth â'r sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i ddiogelu adnoddau naturiol Cymru ac addysgu'r rhai sy'n rhyngweithio â'n hamgylchedd. Mae ein sefydliad hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth ymateb i argyfwng byd natur ac argyfwng yr hinsawdd.

I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar Ein Swyddogaethau a’n Cyfrifoldebau.

Pa wybodaeth sydd ar gael i'w hailddefnyddio

Mae gwybodaeth ar gael i'w hailddefnyddio pan fydd yn rhan o rolau ein tasg gyhoeddus fel yr amlinellir uchod. Mae gweithgareddau masnachol CNC megis prydlesau tir, gwerthiannau pren a gwasanaethau labordy yn eithriadau i rolau ein tasg gyhoeddus, ac felly maent wedi'u heithrio o'r Rheoliadau Ailddefnyddio.

Mae data personol hefyd wedi'i eithrio o dan y Rheoliadau Ailddefnyddio, yn ogystal â gwybodaeth sy'n eiddo i drydydd parti a gwybodaeth sydd wedi'i hesemptio neu ei heithrio o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (2000) neu'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (2004).

Trwyddedu ar gyfer ailddefnyddio  

Rydym yn cyhoeddi llawer o'n gwybodaeth sy’n ymwneud â’n tasg gyhoeddus o dan delerau'r Drwydded Llywodraeth Agored. Pan fydd gwybodaeth sy’n ymwneud â’n tasg gyhoeddus yn cynnwys data sensitif, defnyddir trwydded amodol fwy cyfyngol gan CNC.

Sut i gael gafael ar wybodaeth i'w hailddefnyddio

Gellir dod o hyd i fanylion yn Cael mynediad i'n data, mapiau ac adroddiadau. Mae rhagor o wybodaeth, y gallai rhywfaint ohoni fod y tu allan i gwmpas y Rheoliadau Ailddefnyddio, ar gael yn Rhyddid Gwybodaeth a’r Cynllun Cyhoeddiadau Trwyddedu.

Taliadau

Darperir gwybodaeth yn rhad ac am ddim gydag ychydig iawn o eithriadau. Cyfeiriwch at ein Rhestr taliadau am wybodaeth.

Cwynion

Os oes gennych gŵyn amdanom o dan y Rheoliadau Ailddefnyddio, defnyddiwch ein proses ymdrin â chwynion. Os na all y gŵyn gael ei datrys gennym ni, gallwch ei chyfeirio at Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rhagor o wybodaeth

Adolygir y datganiad tasg gyhoeddus hwn yn rheolaidd. Cysylltwch ag opendata@naturalresourceswales.gov.uk os oes gennych ymholiadau am y datganiad.

Cysylltiadau rhwng mynediad ac ailddefnyddio (nationalarchives.gov.uk)

Llofnodwyd y datganiad hwn gan Prys Davies, Uwch Swyddog Risg Gwybodaeth, ar 6 Awst 2021.

Mae’r datganiad hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol a chafodd ei adolygu ddiwethaf ar 5 Awst 2022.

Diweddarwyd ddiwethaf