Mae ein gwerthoedd yn dweud wrthym am yr hyn sy'n ein nodweddu ni fel staff, yr hyn y gall pobl ei ddisgwyl pan fyddant yn gweithio gyda ni, a'r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl oddi wrth ein gilydd. Maent wrth galon diwylliant Cyfoeth Naturiol Cymru ac maent yn adlewyrchu'r math o bobl ydym ni – a sut beth yw bod yn rhan o #TîmCyfoeth. 

Ein g​​werthoedd yn #TîmCyfoeth... 

  • Rydym yn angerddol ynghylch amgylchedd naturiol Cymru
  • Rydym yn gofalu am ein gilydd a'r bobl rydym yn gweithio gyda nhw
  • Rydym yn gweithredu gyda gonestrwydd
  • Rydym yn gwneud gwahaniaeth nawr ac ar gyfer y dyfodol
  • Rydym yn falch o wasanaethu pobl Cymru 

Cafwyd eu creu gan edrych ar beth oedd staff yn dweud oedd yn bwysig, beth rydym yn ei werthfawrogi o’r pobol o’n cwmpas a’r gwerthoedd sydd yn rhan o pwy ydym ni.

Diweddarwyd ddiwethaf