Rhestr Taliadau am Wybodaeth

Mae’r rhestr wedi’i rhannu’n 4 rhan sy’n rhoi sylw i’r gofynion deddfwriaethol a’r canllawiau a nodir yng Nghod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Fynediad at Wybodaeth

  • Ceisiadau am ‘fynediad’ at wybodaeth a gedwir gan Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ceisiadau am ‘fynediad’ at wybodaeth bersonol o dan y Ddeddf Diogelu Data
  • Ceisiadau i ‘ailddefnyddio’ gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Treuliau

Rydym wedi mabwysiadu Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Fynediad at Wybodaeth wrth ymateb i geisiadau am fynediad at wybodaeth a rhestr dros dro o’r taliadau ar gyfer ymateb i geisiadau i gael ailddefnyddio ein gwybodaeth, gan gyfuno polisïau cyfredol Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth. Dyma fydd y drefn yn ystod blwyddyn gyntaf y corff newydd.

Penderfynwyd gwneud hyn er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau cwsmeriaid yn cael eu cynnal ar y lefel bresennol, wrth i ni ddod â swyddogaethau a chytundebau cyflenwi data cyfredol y cyrff gwreiddiol i Cyfoeth Naturiol Cymru.

Ceisiadau am fynediad at wybodaeth a gedwir gan Cyfoeth Naturiol Cymru

Does dim tâl i gael gweld y wybodaeth ar ein gwefan neu ar ein safleoedd.

Does dim tâl am unrhyw gais sy’n cymryd hyd at 2½ diwrnod i’w asesu ac ymateb iddo

Os bydd cais yn cymryd dros 2½ diwrnod i’w brosesu (mae hyn yn gyfwerth â’r terfyn o £450 a bennwyd yn y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth) gallwn ei wrthod neu godi tâl o £25 yr awr a gall y taliadau fod am gost llawn y cais.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi’n syth os bydd taliadau’n gysylltiedig â’ch cais.

Fel arfer, fyddwn ni ddim yn darparu gwybodaeth pan fo’r amser asesu, coladu ac ymateb yn fwy na 10 diwrnod.

Ceisiadau i gael ailddefnyddio gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru:

Mae'r mwyafrif o setiau data ac asedau gwybodaeth eraill CNC, pan gânt eu hasesu fel sy'n briodol i'w hailddefnyddio, ar gael am ddim o dan y Drwydded Llywodraeth Agored  neu drwydded data amodol CNC.

Pan godir tâl am ased gwybodaeth, byddwn yn eich hysbysu o'r tâl a'r dewisiadau eraill am ddim cyn ichi symud ymlaen.

Treuliau fel llungopïo, postio a CDs

Fel arfer, ni fydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n codi tâl am gopïau papur neu CD o ddeunydd Cyfoeth Naturiol Cymru, ond pan ofynnir am lawer o gopïau yn y fformatau hyn efallai y byddwn yn codi tâl yn unol â’r cyfraddau canlynol:

  • Argraffu neu lungopïo: A3 neu lai 10c y ddalen
  • Argraffu Plotydd ar gyfer Maint mwy na A3: A1 £1 y copi; A0 £2 y copi
  • Postio: Cyfradd Swyddfa’r Post
  • Cyhoeddiadau: Am gost perthnasol fel y nodir yn y rhestr cyhoeddiadau (link)

Ni chodir tâl am dreuliau sydd â chyfanswm o lai na £25.

Efallai y codir tâl am gyfanswm dros £25. Byddwn yn eich hysbysu’n syth os oes taliadau’n gysylltiedig â’ch cais.

Diweddarwyd ddiwethaf