Mynediad i Wybodaeth

Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a'r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol yn rhoi'r hawl i chi wneud cais am fynediad at wybodaeth heb ei chyhoeddi sydd gennym ni, oni bai fod eithriad penodol yn berthnasol.

Gallwch edrych ar ein cynllun cyhoeddi i weld os yw'r wybodaeth rydych yn chwilio amdani wedi cael ei chyhoeddi gennym ni eisoes.

Gallwch weld rhestr o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth blaenorol yr ydym wedi ymateb iddynt ar ein cofnod datgeliadau.

Data Agored

Mae data agored yn ddata sydd ar gael i bawb i'w defnyddio a'u hailgyhoeddi fel y dymunant, heb gyfyngiadau hawlfraint, breintiau neu unrhyw systemau rheoli eraill.

Rydym yn cyhoeddi swm sylweddol o'n data yn Agored, a gellir eu gweld a'u defnyddio fel y mynnoch.

Ar hyn o bryd, ar gyfer data Agored yn unig y defnyddir y safle, ond yn y dyfodol, caiff ein data cyfyngedig eu cyhoeddi ar Lle.

Gwneud cais am wybodaeth

Gallwch wneud cais am wybodaeth trwy anfon e-bost atom, trwy ein ffacsio neu drwy ysgrifennu atom.

Rhowch cymaint o fanylion ag y bo modd, gan gynnwys y manylion canlynol i ni:

  • Eich enw llawn a'ch manylion cyswllt (cyfeiriad a/neu gyfeiriad e-bost)
  • Manylion am yr wybodaeth neu'r dogfennau yr hoffech gael mynediad atynt
  • Eich dull dewisol wrth ohebu â ni (e.e. llythyr neu e-bost)

Os ydych chi am weld gwybodaeth y gallwn fod yn ei chadw amdanoch chi, ewch i'n tudalen ar sut i wneud cais am wybodaeth rydym yn gadw am danoch chi.

Cyngor ynghylch sut i wneud cais llwyddiannus

Er mwyn ein helpu ni i ymateb yn brydlon i'ch cais, rydyn ni'n eich cynghori i edrych ar y canllawiau ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth a gwefan Gov.uk ynghylch sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth llwyddiannus.

Gall hefyd fod yn ddefnyddiol cynnwys rhif ffôn cyswllt rhag ofn y bydd angen eglurhad arnom ynglŷn â'ch anghenion o ran yr wybodaeth, ac ynghylch unrhyw ofynion o ran hygyrchedd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Pan fyddwch wedi cyflwyno cais, rhaid inni ymateb cyn gynted â phosibl ac ymhen 20 diwrnod gwaith.

Mewn rhai achosion cyfyngedig, mae'n bosibl y gallwn estyn y cyfnod hwn ar gyfer achosion cymhleth. Os felly y bydd hi, byddwn yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl, ynghyd â phryd y byddwn yn gallu ymateb.

A fyddaf yn cael yr holl wybodaeth y gofynnaf amdani?

Mae'n bosibl na fydd yr holl wybodaeth yn cael ei rhoi i chi oherwydd ei bod yn dod o dan esemptiad (o dan Ryddid Gwybodaeth) neu eithriad (o dan Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol) rhag datgelu ‒ er enghraifft, oherwydd y byddai’n datgelu manylion personol rhywun arall yn annheg.

Ffioedd am wybodaeth

Mae ein hatodlen ffioedd yn nodi ein ffioedd ar gyfer darparu gwybodaeth i chi o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a Deddf Diogelu Data 1998.

Diweddarwyd ddiwethaf