Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.
Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.
Mae'n rhaid i chi wneud cais am drwydded os ydych yn gwneud unrhyw weithgaredd sy'n effeithio ar rywogaeth a warchodir.
Mae hyn yn cynnwys:
- dosbarthu, maglu neu drin rhywogaethau a warchodir
- difrodi eu cynefinoedd, er enghraifft drwy adfer pwll neu adeiladu datblygiad tai
Efallai y bydd angen i chi ddangos bod y gwaith yn angenrheidiol ac nad oes ffordd arall i wneud y gwaith heb effeithio ar y rhywogaethau a warchodir.
Efallai y byddwn yn gwrthod cais am drwydded os nad yw'r gwaith yn angenrheidiol neu os nad yw'n cyfiawnhau'r niwed y gall ei achosi i'r rhywogaeth.
Gwneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir
Gwneud cais am drwydded ar gyfer y rhywogaethau a warchodir canlynol:
- Gwiberod, Nadroedd y gwair, Nadroedd defaid a Madfallod cyffredin
- Moch daear
- Ystlumod
- Trwyddedau ar gyfer rhyddhau afancod
- Ceirw
- Pathewod
- Planhigion a warchodir gan Ewrop
- Pysgod
- Brogaod, Llyffantod a Madfallod Dŵr
- Madfallod dŵr cribog
- Llyffantod cefnfelyn
- Trwyddedu Infertebratau
- Trwyddedu Rhywogaethau morol a warchodir gan Ewrop
- Dyfrgwn
- Belaod, Ffwlbartiaid, Chwistlod a Charlymod
- Gwiwerod coch a Llwyd
- Madfallod tywod
- Morloi
- Trwyddedau Mamaliaid Bach
- Planhigion a warchodir gan y DU
- Llygod y dŵr
- Morfilod, Dolffiniaid, Môr-grwbanod a Llamhidyddion
Sefyllfaoedd lle mae angen trwydded arnoch
Bydd angen trwydded arnoch er mwyn:
- atal difrod i amaethyddiaeth, da byw, pysgodfeydd, eiddo neu archaeoleg gan rywogaethau gwarchodedig
- diogelu iechyd a diogelwch y cyhoedd, megis dymchwel adeilad gwag anniogel sy'n gartref i glwydfan ystlumod
- cynnal neu ddatblygu tir, er enghraifft troi ffermdir neu safle tir llwyd yn dai
- atal clefydau ymhlith rhywogaethau
- bod yn berchen ar rywogaethau a warchodir, eu gwerthu, eu harddangos neu eu cludo
- cynnal arolwg am bresenoldeb bywyd gwyllt ar eich tir at ddibenion ymchwil wyddonol neu addysgol neu ar gyfer gwaith cadwraeth
- addasu atig, ail-doi, addasu ysgubor (os oes clwydfan ystlumod yn yr adeilad)
- cwympo neu deneuo coetir lle ceir coed sy’n cynnwys clwydfannau ystlumod neu sy’n cynnwys nythod gwiwerod coch
- cwympo coed ar neu gerllaw daear mochyn daear
- gwaith tir a fyddai’n effeithio ar bwll a chynefin amgylchynol a ddefnyddir gan fadfallod dŵr cribog
- datblygiad tai newydd ar dir sy’n cynnwys daear mochyn daear
- gwaith rheoli coetir neu waith arall ger safle bridio dyfrgwn neu glwydfan ystlumod, megis hen adeiladau, gwaith mwyngloddio
- gwaith ar lannau afonydd a allai ddifrodi neu rwystro mynediad i wâl dyfrgwn neu aflonyddu ar ddyfrgwn tra byddant yn defnyddio’r wâl.
- gwaith rheoli neu waith arall a allai gynnwys clwydfannau ystlumod, megis gwaith ar bontydd
- ailbroffilio cyrsiau dŵr, cael gwared ar lystyfiant, neu waith arall a allai ddifrodi neu ddinistrio cynefin a ddefnyddir gan lygod pengrwn y dŵr
- cael gwared ar goed, gwrychoedd, neu waith coedlannu mewn ardaloedd a ddefnyddir gan bathewod
Pan nad oes angen trwydded arnoch chi
Gallwch wneud gwaith heb drwydded os oes modd i chi drefnu eich gwaith mewn ffordd na fydd yn aflonyddu ar y rhywogaeth na'i chynefin na'i niweidio.
Nid oes angen trwydded dan yr amgylchiadau canlynol:
- os ydych yn rheoli plâu megis llygod mawr a chwilod duon
- os nad ydych yn bwriadu difrodi na dinistrio safle bridio na man gorffwys rhywogaethau a warchodir
- os nad ydych yn bwriadu dal, lladd, niweidio nac aflonyddu ar rywogaethau a warchodir
Pwy all wneud cais am drwydded
Gallwch gyflwyno cais am drwydded os ydych chi'n 18+ oed Gallwch hefyd gyflwyno cais os ydych yn 16+ oed ac yn meddu ar gymwysterau neu wobrau trwyddedu bywyd gwyllt, neu os yw'r cais yn ymwneud â meddu ar rywogaethau a warchodir, eu cludo, eu gwerthu neu eu cyfnewid.
Mae'n rhaid i chi fod yn 16+ oed i weithredu fel asiant achrededig i drwyddedai.
Asiant achrededig yw unigolyn a enwir ar y drwydded sy'n gallu gweithredu ar ran y trwyddedai yn ei absenoldeb.
Mae’r ecolegydd enwebedig yn defnyddio’r ecolegydd cynorthwyol i weithio o dan ei oruchwyliaeth uniongyrchol.
Nid oes angen ichi enwebu ecolegydd cynorthwyol ar y ffurflen gais neu’r drwydded. Fodd bynnag, dylai'r ecolegydd enwebedig neu asiant achrededig gadw cofnod o'r holl gynorthwywyr sydd wedi gweithio o dan drwydded benodol, oherwydd gall y bydd angen iddynt ddarparu’r wybodaeth hon yn ddiweddarach.
Cysylltu â ni
Gallwch gysylltu â ni am gymorth ar unrhyw adeg yn ystod eich cais am drwydded.