Cais i drosglwyddo trwydded sylweddau ymbelydrol

Dewch o hyd i fanylion y taliadau arfaethedig ar ein safle ymgynghori ar wefan ‘Citizen Space’.

Mae'r ymgynghoriad yma bellach wedi cau. Bydd CNC yn defnyddio'r adborth i lywio ein cynlluniau codi tâl newydd. Bwriadwn weithredu’r cynlluniau hyn o 1 Ebrill 2023 ymlaen, yn amodol ar gael cymeradwyaeth Gweinidogion.

Cyn i chi wneud cais

Mae trwydded amgylcheddol yn ymwneud â lleoliad penodol (oni bai ei bod ar gyfer ffynhonnell symudol). Os gwerthwch eich safle, ni allwch fynd â’ch trwydded gyda chi a pharhau’r gweithgaredd trwyddedig yn eich lleoliad newydd. Bydd angen i chi drosglwyddo’ch trwydded i’r perchnogion newydd.

Sut i wneud cais

Ar y dudalen hon fe gewch ffurflenni cais ar gyfer trosglwyddo eich trwydded, yn rhannol neu’n gyfan, i rywun arall. Gellir llenwi’r ffurflenni cais yn electronig. Rhaid i chi lenwi rhannau A ac F, a chwblhau adrannau addas rhan D: a rhaid i’r ddau barti lofnodi’r datganiad yn rhan F, hefyd.

Sylwch

Bydd angen Fersiwn 7 neu fersiwn ddiweddarach o Adobe arnoch i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

Ar ôl i chi ddewis y rhannau cywir o'r ffurflen, dim ond yr adrannau sy'n berthnasol i'ch cais y bydd angen i chi eu llenwi. Fodd bynnag, bydd angen i chi fynd i bob adran a thicio'r blychau priodol fel y gallwch chi symud ymlaen i'r adran nesaf.

Help gyda'ch cais

Os ydych chi'n cael trafferth llenwi'ch ffurflen gais, cysylltwch â ni trwy:

e-bost ymholiadau cyffredinol - ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Rhif ymholiadau cyffredinol 0300 065 3000

Canolfan Gwasanaethau Cwsmeriaid
Cyfoeth Naturiol Cymru
29 Heol Casnewydd
Tŷ Cambria
Caerdydd
CF24 0TP.

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Diweddarwyd ddiwethaf