Yn gwneud cais am Drwydded Forol?

Diweddariad Coronafirws (gyda BACS)

 

Mae ein staff bellach yn gweithio gartref cyn belled ag y bo modd. Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn ffurflenni cais papur ar hyn o bryd. Byddwch yn gallu anfon ffurflenni drwy e-bost ac os bydd angen, gallwch wneud taliadau trwy BACS.

 

Bydd arnoch angen Microsoft Word 2010 neu gyfwerth i allu defnyddio'r ffurflenni electronig.

 

Er ein bod yn gobeithio sicrhau fod hyn yn amharu gyn lleied ag sydd bosibl arnoch, cofiwch y gallai’r amser prosesu fod yn hwy yn ystod y cyfnod hwn o drawsnewid.

 

Darganfyddwch fwy am ein hymateb i’r Coronafeirws.

Sut ydw i’n gwneud cais am Drwydded Forol?

Dylid llenwi a chyflwyno ffurflenni cais gydag unrhyw wybodaeth ategol i’w hystyried gyda’r ffi ymgeisio briodol.

Lle bo’n briodol, dylid cyflwyno’r cais gyda dogfennau ategol fel lluniau, asesiadau amgylcheddol a chynlluniau lleoliad. Rhaid cynnwys asesiad WFD, samplu gwaddodion a chanlyniadau dadansoddi ac asesiad risg bioddiogelwch gyda cheisiadau carthu a gwaredu. Gellir gwneud cais am y ffurflen asesu risg bioddiogelwch drwy gysylltu â marinelicensing@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Darllenwch o hyd i ffurflenni cais am drwydded forol.

Faint mae ceisiadau Trwydded Forol yn eu costio?

Mae ceisiadau Trwydded Forol yn dod o dan 3 band talu gwahanol

Band 1 - gweithgareddau risg isel sy’n destun proses drwyddedu symlach. Mae mathau o weithgareddau a ystyrir yn Fand 1 i'w gweld ar dudalen ganllaw Band 1

Band 2 – mae mathau o weithgareddau Band 2 yn cynnwys:

  • Gwaith adeiladu, addasu neu welliannau bach i ganolig, e.e. gwaith amddiffyn yr arfordir, atgyweirio pontydd
  • Rhai gweithgareddau symud sy'n defnyddio cerbyd neu long, e.e. symud oddi ar wely'r môr, dymchwel pier
  • Gweithgareddau carthu cynnal a chadw (oni bai ei fod yn rhan o gynllun adeiladu ehangach), e.e. carthu mordwyo cynnal a chadw

Mae gwaith carthu arferol yn cynnwys deunydd sydd wedi’i ollwng yn ddiweddar gan brosesau gwaddodi mewn harbwr, aber neu ardal forol.

Band 3 – yn cael eu diffinio fel ceisiadau cymhleth sy’n:

  • Cynnwys amcangyfrif o gostau prosiect ar gyfer gwaith morol o dros £1 miliwn; a/neu:
  • Angen cael Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA);
  • Gweithgareddau sy’n cynnwys elfennau adeiladu a charthu, gan gynnwys carthu cynnal a chadw

Gall mathau o brosiectau Band 3 gynnwys:

  • Cynlluniau adeiladu mawr
  • Datblygiadau adnewyddadwy morol
  • Cloddio am agregau morol
  • Ymgyrchoedd carthu cyfalaf
  • Ceisiadau am weithgareddau lluosog, fel adeiladu gydag elfennau carthu

Carthu cyfalaf yn cynnwys deunydd daearegol a garthwyd o haenau a oedd heb eu datgelu o'r blaen o dan wely'r môr a
deunydd arwynebol o ardaloedd na chawsant eu carthu yn ddiweddar i.e o fewn 10 mlynedd.

Gweler y ffioedd trwyddedu morol a'r dudalen ganllaw i gael gwybodaeth am ein ffioedd a'n taliadau.

Sut y penderfynir ar geisiadau?

Penderfynir ar Drwyddedau Morol yn unol â Deddf Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a deddfwriaeth berthnasol arall. Wrth asesu ceisiadau Trwydded Forol, rhaid i ni ystyried yr angen i:

  • Ddiogelu'r amgylchedd
  • Diogelu iechyd pobl
  • Atal ymyrraeth â defnyddiau dilys o’r môr
  • Materion perthnasol eraill

Rhaid i ni hefyd ystyried unrhyw ofynion ar yr ymgeisydd neu'r Tîm Trwyddedu Morol yn llawn, o dan ddeddfwriaeth ychwanegol fel:

  • Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd)
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD)
  • Asesiad Effaith Amgylcheddol o dan Reoliadau Gwaith Morol (Asesiad Effaith Amgylcheddol) 2007 (fel y'i diwygiwyd)
  • Y Gyfarwyddeb Fframwaith Strategaeth Forol

Bydd ceisiadau hefyd yn cael eu pennu yn unol â Datganiad Polisi Morol y DU a pholisïau perthnasol eraill fel Cynlluniau Rheoli Traethlin a Pholisi Carthu Agregau Morol Dros Dro.

Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Cynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru, a fabwysiadwyd ar 12 Tachwedd 2019. Mae’r cynllun yn nodi polisi Llywodraeth Cymru ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf o ran defnyddio ein moroedd yn gynaliadwy. Rhaid inni wneud penderfyniadau yn unol â’r cynllun morol, oni bai bod ystyriaethau perthnasol yn awgrymu fel arall, a dylai ymgeiswyr ystyried y cynllun wrth lunio’u ceisiadau. Dylai ymgeiswyr am drwydded band 2 neu 3 ddangos bod eu gweithgareddau yn cyd-fynd â’r cynllun morol hwn. Gallwch gael templed i’ch helpu i wneud hyn drwy anfon e-bost at: trwyddedumorol@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Ar gyfer rhai ceisiadau sy’n ymwneud ag adeiladu, addasu neu wella gwaith, rhaid i ni ystyried effeithiau'r defnydd bwriedig o'r gwaith unwaith y caiff ei gwblhau. Er enghraifft, wrth ystyried cais am estyniad i lanfa a fydd yn galluogi mynediad i longau mwy, rhaid i ni ystyried yr effeithiau y bydd y llongau mwy yn eu cael ar yr amgylchedd.

Pan wneir cais am drwydded forol, byddwn yn ymgynghori ag amrywiaeth o sefydliadau i ofyn am gyngor ar effeithiau’r prosiect ac unrhyw fesurau neu amodau lliniaru y dylid eu cynnwys mewn trwydded i leihau effeithiau posibl. Mae’r ymgyngoreion yn amrywio yn dibynnu ar y math o gais.

Mae'r broses ymgeisio'n amrywio yn dibynnu ar y math o gais. Dyma grynodeb o broses Band 1, proses Band 2 a phroses Band 3.

Pa sefydliadau ydym ni’n ymgynghori â nhw?

Pan wneir cais am Drwydded Forol, byddwn yn ymgynghori ag amrywiaeth o sefydliadau i ofyn am gyngor ar effeithiau’r prosiect ac unrhyw fesurau neu amodau lliniaru y dylid eu cynnwys mewn trwydded i leihau effeithiau posibl.

Mae’r ymgyngoreion yn amrywio yn dibynnu ar y math o gais, ond gallant gynnwys:

Amgylcheddol

  • Adrannau mewnol Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Ymgynghorwyr technegol allanol fel; Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas)
  • Cymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB)
  • Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC).  Ymgynghorir â’r JNCC ynghylch ceisiadau ar gyfer gweithgareddau sy’n fwy na 12 môr filltir oddi ar yr arfordir

Mordwyaeth / arall

  • Trinity House
  • Asiantaeth Forol a Gwylwyr y Glannau
  • Cymdeithas Hwylio Brenhinol
  • Y Weinyddiaeth Amddiffyn
  • Yr Awdurdod Harbwr Lleol perthnasol
  • Yr Adran Drafnidiaeth
  • Ystâd y Goron / Ystâd Swangrove. Ystâd y Goron / Ystâd Swangrove yw perchnogion y blaendraeth / gwely môr yn y rhan fwyaf o achosion
  • Yr Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol

Archeolegol

  • Ymddiriedolaethau Archeolegol Lleol
  • Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Ymgyngoreion Llywodraeth Cymru

  • Swyddogion Gorfodi Morol
  • Is-adran Môr a Physgodfeydd
  • Polisi, Cynllunio a Phartneriaethau Cludiant
  • Cangen Rheoli Risg Arfordirol a Llifogydd

A oes ymgynghoriad cyhoeddus?

Yn y rhan fwyaf o achosion mae’n ofynnol i ymgeiswyr roi rhybudd cyhoeddus o’u cynigion mewn papur newydd lleol. Bydd yr hysbysiad hwn yn cyfeirio aelodau o’r cyhoedd â diddordeb at adeilad cyhoeddus lle mae’n rhaid i'r ymgeisydd drefnu bod copïau o’r cais a dogfennau ategol ar gael. Bydd yr hysbysiad hefyd yn rhoi manylion cyswllt i'r cyhoedd fel y gallant wneud unrhyw sylwadau ynglŷn â'r cais i ni.

Byddwn yn rhoi’r testun y mae'n rhaid i’r ymgeisydd ei ddefnyddio yn yr hysbysiad, ar ôl derbyn cais.

Ceisio cyngor cyn ymgeisio

Bydd faint o amser mae’n ei gymryd i ni wneud penderfyniad ynghylch trwydded forol yn dibynnu ar ansawdd y wybodaeth a ddarperir yn eich cais. Dylai cais o ansawdd uchel ddarparu digon o wybodaeth i ni allu asesu effeithiau tebygol y gweithgareddau sydd ar y gweill.

Dylai eich cais ddangos yn glir eich bod wedi ystyried effeithiau posibl eich gwaith ar yr amgylchedd gan gynnwys safleoedd dynodedig ac asedau hanesyddol. Dylai hefyd ystyried y risg posibl i fodrwyo a defnyddwyr morol eraill.

Dylai eich cais hefyd amlygu unrhyw gamau y byddwch yn eu cymryd i leihau neu osgoi effeithiau posibl. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth bellach ynglŷn â’r hyn y dylid ei gyflwyno fel gwybodaeth ategol ar dudalen ffurflenni cais trwydded forol ar ein gwefan.

Rydym ni’n eich annog yn gryf i ymgysylltu gyda gwasanaeth cynghori morol CNC: marine.area.advice@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk ac ymgyngoreion eraill

Bydd datrys problemau gydag ymgyngoreion cyn cyflwyno eich cais yn lleihau’r perygl o oedi.

Amserlenni ar gyfer penderfynu ar gais am drwydded forol

Nid oes unrhyw amserlenni statudol ar gyfer penderfynu ar geisiadau trwydded forol. Fodd bynnag, mae gennym gytundebau yn eu lle ynghylch amserlenni a elwir yn gytundebau lefel gwasanaeth.

Rydym yn argymell y dylech ystyried yr amserlenni hyn wrth wneud eich cais, ac ychwanegu amser wrth gefn i sicrhau na fydd eich gwaith yn cael ei oedi os bydd eich trwydded yn cael ei chadarnhau.

Ein hamserlenni cytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer penderfynu ar drwydded yw:

  • Ceisiadau Band 1 – 6 wythnos, ond os byddwn yn penderfynu nad oes angen datganiad dull yn ystod y cyfnod cyn ymgeisio, fel arfer gallwn benderfynu ar gais o fewn 4 wythnos.
  • Cais Band 2 – 4 mis.
  • Cais Band 3 – nid oes gennym gytundeb lefel gwasanaeth ar gyfer ceisiadau Band 3. Mae prosiectau Band 3 yn aml yn gymhleth iawn felly gall yr amser sydd ei angen i wneud penderfyniad amrywio’n sylweddol.

Mae’r amserlen lefel gwasanaeth yn dechrau unwaith y byddwn wedi derbyn cais wedi’i gwblhau. Os byddwn yn cysylltu gyda chi i ofyn am ragor o wybodaeth er mwyn gallu cwblhau eich cais, ni fydd yr amserlen lefel gwasanaeth yn dechrau nes y byddwn wedi derbyn y wybodaeth honno.

Os byddwn yn gofyn am ragor o wybodaeth, bydd gennych chi 10 diwrnod i ddarparu’r wybodaeth honno. Os na fyddwch yn gwneud hynny ar amser byddwn yn dychwelyd eich cais ac yn rhoi ad-daliad i chi.

Nid oes gennym gytundeb lefel gwasanaeth o ran amserlenni ar gyfer ceisiadau Band 3 gan fod y prosiectau hyn yn amrywiol ac yn gymhleth. Mae amserlenni yn ddibynnol iawn ar natur a lleoliad y prosiect, ac ansawdd y cais. Fodd bynnag, i helpu gyda’r gwaith o gynllunio eich prosiect, rydym ni wedi rhestru amserlenni cyfartalog ac uchafswm yr amser a gymerwyd i benderfynu ar wahanol drwyddedau morol Band 3 rhwng 2014 hyd at ddiwedd 2021 isod. Nid yw’r amseroedd hyn yn gytundeb lefel gwasanaeth ac mae’n bosibl y byddwn yn cymryd mwy o amser gan ddibynnu ar y wybodaeth a gyflwynir.

Math o waith Band 3 Amser Cyfartalog (Misoedd) Uchafswm yr amser (Misoedd)
Cynlluniau Amddiffyn Arfordirol 5 5
Agregau 12 25
Ynni Adnewyddadwy alltraeth 14 25
Pob cais Band 3 arall sy’n gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol 15 24
Pob cais Band 3 arall nad ydynt yn gofyn am Asesiad Effaith Amgylcheddol 5 11

A oes angen caniatâd arall os yw Trwydded Forol wedi’i rhoi?

Nid yw Trwydded Forol yn eich rhyddhau rhag gwneud cais am unrhyw gydsyniad neu ganiatâd angenrheidiol arall a all fod eu hangen cyn i’r gwaith gael ei wneud.

Nid yw’r rhestr ganlynol yn gynhwysfawr a dylid gofyn am gyngor pellach gan gyrff perthnasol, gan gynnwys yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Mae'n bosibl y bydd angen caniatâd gan Ystâd y Goron ar gyfer bob gwaith ymwthiol ar wely’r môr o fewn 12 milltir fôr o'r arfordir. E-bostiwch consents@thecrownestate.co.uk am ragor o wybodaeth neu eglurhad ynghylch a oes angen caniatâd gwaith bach. Os oes angen caniatâd, bydd angen llenwi ffurflen gais fer a bydd y cais yn cymryd hyd at bedair wythnos i’w brosesu.

Os yw lleoliad y gweithgaredd o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu'n gofyn am fynediad trwy SoDdGA, yna dylid ceisio caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae mwy o wybodaeth ar tudalen Cyfarwyddyd i berchnogion a deiliaid (SoDdGA). 

Os ydych chi eisiau gwneud gwaith mewn, dros, o dan neu wrth ymyl prif afon, neu mewn gorlifdir neu amddiffyniad rhag llifogydd (gan gynnwys amddiffyniad môr), efallai y bydd angen i chi wneud cais am Drwydded Gweithgaredd Risg o Lifogydd.

Mae rhywogaethau penodol yn Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd (EPS). Yn nyfroedd morol Cymru, mae'r rhain yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu, i forfilod, dolffiniaid, llamhidyddion a chrwbanod. Mae yn erbyn y gyfraith i niweidio eu safleoedd bridio/mannau gorffwys, neu i gipio, lladd, anafu neu aflonyddu ar EPS yn fwriadol heb drwydded. Mae Rhywogaethau Gwarchodedig Ewropeaidd Daearol y gall gweithgareddau trwyddedadwy morol eu heffeithio (e.e., atgyweiriadau pier a phont) yn cynnwys ystlumod a dyfrgwn. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma

Gwneud cais i dyfu neu gynaeafu anifeiliaid a phlanhigion dyfrol (gwymon a physgod cregyn)

Rydych angen trwydded i dyfu neu gynaeafu gwymon yn fasnachol.

Mae rhai gweithgareddau i gynaeafu neu dyfu pysgod cregyn yn fasnachol yn esempt ac efallai na fydd angen trwydded forol ar eu cyfer. Edrychwch i weld pa weithgareddau allai fod yn esempt rhag gorfod cael trwydded forol

Beth i’w gynnwys yn y cais am drwydded:

  • Asesiad Risg Mordwyo (NRA) – cysylltwch ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau a Trinity House i helpu gyda hyn.  
  • Cynllun bioddiogelwch
  • Protocol Dal Mamaliaid Morol yn Anfwriadol – cysylltwch â’n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio i helpu gyda hyn.
  • Manylion unrhyw nodweddion safle gwarchodedig – cysylltwch â’n gwasanaeth cynghori cyn ymgeisio i helpu gyda hyn.
  • Tystiolaeth eich bod wedi ymgynghori â’r sefydliadau perthnasol i baratoi eich cais.

Rhaid bod asesiad y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn cyd-fynd â phob cais (ac eithrio ceisiadau Band 1 gweithgaredd risg isel).

Ni allwn brosesu’r cais nes ein bod wedi derbyn yr holl wybodaeth ategol angenrheidiol.

Os byddwn o’r farn nad yw’r wybodaeth ategol yn ddigonol, byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol neu’n dychwelyd y cais ac aros hyd nes y darperir yr holl wybodaeth sydd ei hangen.

Ar ôl i chi gyflwyno eich cais

Efallai y bydd angen i ni ofyn am fwy o wybodaeth neu asesiadau ychwanegol fel y gallwn ddeall effeithiau tebygol y gweithgareddau arfaethedig.

Os oes posibilrwydd y bydd y gweithgaredd arfaethedig yn cael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, efallai y byddwn yn gofyn i Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (AEA) gael ei gynnal cyn penderfynu ynghylch y drwydded.

Edrychwch ar y Blwch Offer Rheoleiddio Dyframaeth ar gyfer Cymru i gael rhagor o wybodaeth a allai helpu eich cais.

Diweddarwyd ddiwethaf