Pam defnyddio pren?
Mae pren yn cael ei ddefnyddio am lawer o resymau, ac mae o fudd i economi ac amgylchedd Cymru. Mae ganddo'r potensial i greu amrywiaeth eang o fusnesau a swyddi. Mae defnyddio pren wrth adeiladu, ar gyfer cynhyrchion ac fel ffynhonnell ynni adnewyddadwy yn ein helpu ni i fynd i'r afael â lefelau niweidiol o allyriadau carbon deuocsid.
Mae pren yn gweithredu fel dalfa garbon, gan gloi carbon yn y coed eu hunain, ym mhridd y coetiroedd, a thrwy'r cynhyrchion pren sy'n deillio o reoli'r coetiroedd yn weithredol.
Manteision pren
- Mae coetiroedd yn cynnig cyfleoedd gwych ar gyfer mentrau, gyda’r potensial i greu busnesau a swyddi go iawn
- Mae defnyddio coed sy’n cael eu rheoli’n gynaliadwy ar gyfer tanwydd yn lleihau allyriadau CO2
- Gall ychwanegu gwerth at bren fel cynnyrch ysgogi’r economi drwy weithgarwch ychwanegol yn Sector Coedwigaeth Cymru. Caiff gwerth ei ychwanegu i bren drwy brosesu'r coed yn gynnyrch pren wedi’i lifio a’i weithgynhyrchu, ac mae hynny’n helpu i greu swyddi yng Nghymru
- Mae pren yn economaidd hyfyw fel deunydd ac fel tanwydd o’i gymharu â chynhyrchion a ffynonellau ynni eraill
- Nid yw tanwydd ffosil trwm ar ynni yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu pren a chynhyrchion pren, yn wahanol i gynnyrch tebyg i ddur, concrit, brics a phlastig
- O'r holl ddeunyddiau adeiladu cyffredin, pren sydd â’r ôl troed carbon lleiaf
- Mae pren yn ffynhonnell ynni lân, effeithlon, gynaliadwy, carbon isel ac adnewyddadwy
Coedwigaeth a'r economi
Mae Diwydiant Coedwigaeth Cymru yn werth dros £400m i’r economi ac mae’n cyflogi dros 16,000 o bobl mewn cannoedd o fusnesau gwledig bach a chanolig eu maint. Mae diwydiannau'r Sector Coedwigaeth yn tyfu yng Nghymru, gyda dros £40 miliwn o fuddsoddiad newydd wedi'i wneud yn ddiweddar. Mae cyfleoedd am swyddi newydd yn cael eu creu a fydd yn cynnal y diwydiant hwn, ac maen nhw'n cynnwys:
- Swyddi gwyrdd sy’n helpu i sicrhau bod coetiroedd nad ydyn nhw'n cael eu rheoli i’w llawn botensial yn cael eu rheoli’n gynhyrchiol
- Swyddi gwyrdd sy'n datblygu cyfleusterau hamdden newydd yng nghoetiroedd Cymru
- Swyddi gwyrdd a fydd yn creu 100,000ha o goetiroedd newydd ledled Cymru yn yr 20 mlynedd nesaf
- Swyddi gwyrdd mewn prosiectau ynni adnewyddadwy, a hynny mewn coetiroedd ac o ganlyniad i gynnyrch y coetiroedd
Defnyddio pren wrth adeiladu
Mae defnyddio pren wrth adeiladu yn lleihau allyriadau CO2, nid yn unig oherwydd bod angen llai o ynni i greu cynhyrchion adeiladu pren o’i gymharu â deunyddiau adeiladu eraill, ond hefyd am fod carbon yn cael ei storio yn yr adeilad ei hun.
Gall carbon gael ei gloi am gannoedd o flynyddoedd o’i ddefnyddio mewn cynhyrchion fel trawstiau hen adeiladau neu ddodrefn. Mae modd wedyn adennill y pren, ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei ddefnyddio fel tanwydd.
Defnyddio pren fel tanwydd
Pan gaiff pren ei dyfu a’i reoli’n gynaliadwy, mae tanwydd pren yn lleihau allyriadau CO2. Er bod llosgi pren yn rhyddhau carbon deuocsid, caiff hyn ei wrthbwyso gan y carbon deuocsid a amsugnwyd wrth i’r coed dyfu ac wrth i goed newydd dyfu.
Mae pren yn effeithiol fel ffurf ar wresogi domestig. Mae nid yn unig yn ffynhonnell o wres y gellir ei storio, i'w defnyddio dim ond pan fydd ei hangen, ond mae stofiau modern hefyd yn hynod effeithlon ac mae modd eu rheoli’n dda.
Tyfu ein heconomi
Gellir ychwanegu gwerth i bren trwy weithgarwch ychwanegol yn y sectorau cynradd, eilaidd a thrydyddol.
Ar ôl troi coed yn bren drwy eu llifio mewn melin (prosesu cynradd) mae’n bosibl cynyddu fwyfwy ar werth y pren ar y farchnad trwy gynhyrchu cynhyrchion pren wedi’u llifio (prosesu eilaidd). Mae troi pren yn ddarnau celf a chrefft neu'n ddodrefn (prosesu trydyddol) yn gallu ychwanegu hyd yn oed fwy o werth. Mae’r gweithgarwch prosesu hwn yn helpu economi Cymru trwy ddarparu swyddi yn y gadwyn gyflenwi a gweithgynhyrchu.
Cost gymharol pren
Nid yw pren yn ddrutach nag unrhyw gynnyrch arall sy’n cystadlu yn ei erbyn fel deunydd adeiladu, fel cynnyrch neu fel ffynhonnell ynni. Gall hyn fod yn arbennig o wir am bren o ffynonellau lleol oherwydd y gostyngiad mawr mewn costau cludo.
Os hoffech gysylltu â Thîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk