Mae’r Safon Coedwigaeth y DU, a’r saith Canllaw sydd i’w chanlyn, yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer coedwigaeth yn y DU. Cyhoeddwyd gyntaf yn 1998, a chyhoeddwyd 4ydd argraffiad ar 5 Gorffennaf 2017.

Mae’n dangos sut mae llywodraethau’r DU yn bwriadu rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, yn diffinio safonau a gofynion ac yn cynnwys canllawiau technegol ar gyfer rheoleiddio, monitro a chynnig grantiau.

Mae’n cynnwys y gofynion cyfreithiol ac Ymarferion Coedwigaeth Cyffredinol sy'n gyffredin i bob elfen o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy.

Safon Coedwigaeth y DU

Cwmpas Safon Coedwigaeth y DU

Cafodd Safon Coedwigaeth y DU, a’r Canllawiau i’w chanlyn, eu datblygu gan y Comisiwn Coedwigaeth ym Mhrydain Fawr a'u cadarnhau gan lywodraeth y DU a llywodraethau'r gwledydd. Maen nhw’n berthnasol i bod coedwig a choetir yn y DU.

Ar y cyd â Strategaeth Coetiroedd i Gymru Llywodraeth Cymru, mae Safon Coedwigaeth y DU yn gosod fframwaith ar gyfer gweithredu cytundebau rhyngwladol i reoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn ogystal a pholisïau’r gwledydd ynghylch eu gweithredu.

Beth yw coedwigaeth gynaliadwy?

Golyga ymarfer coedwigaeth gynaliadwy reoli ein coedwigoedd mewn ffordd sy’n cyfarfod â’n anghenion ni heddiw heb gyfaddawdu ar allu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Fel sy’n gwbl briodol, y disgwyl yw y bydd coedwigoedd a'u coetiroedd yn cynnig o leiaf yr un buddion a’r cyfleoedd i’r cenedlaethau hynny ag rydyn ni'n eu mwynhau heddiw.

Craidd y dull rheoli yn ôl Safon Coedwigaeth y DU yw'r pwysigrwydd o gydbwyso’r buddion amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol y gall ein coedwigoedd eu darparu a hefyd gydnabod bod ein coedwigoedd yn gwasanaethu amrywiaeth eang o amcanion.

Saith maes rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy

Mae'r Canllawiau ategol yn diffinio rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU dan saith maes pwnc:

  • Bioamrywiaeth
  • Newid hinsawdd
  • Yr amgylchedd hanesyddol
  • Tirlun
  • Pobl
  • Pridd
  • Dŵr

Mae'r gofynion cyfreithiol a hanfodion arferion coedwigaeth da wedi'u nodi a rhoddir arweiniad ar sut i'w cyflawni.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ganfod rhagor ynghylch rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy drwy archwilio'r dolenni. Gallwch lawrlwytho copïau o Safon Coedwigaeth y DU a Chanllawiau a chanllawiau ategol arferion gorau o wefan y Forest Research.

Mae’r Forest Research yn cyhoeddi amrywiaeth eang o wybodaeth ynghylch rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy ym Mhrydain ac mae modd chwilio eu catalog.

Sut allwn ni helpu

Gallwch ganfod sut y gallwn ni eich helpu i reoli eich coedwig neu eich coedtir yn unol â Safon Coedwigaeth y DU a gweld a ddylech chi ymgeisio am unrhyw drwyddedau cyn gwneud unrhyw waith drwy ymweld â’n tudalennau ar reoleiddio coedwigoedd a'r canllawiau ar gyfer rheolwyr coetiroedd.

Mathau eraill o help

Efallai y gallwch chi gael cefnogaeth ar gyfer gwaith rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, felly ymwelwch â'n tudalennau ariannu Partneriaethau ac â gwefan Llywodraeth Cymru i ganfod rhagor am y cymorth ariannol sydd ar gael, meini prawf cymhwyso a sut y gallech chi ymgeisio.

Darllenwch ynghylch Safon Sicrwydd Coetir y DU a sut y gallai achrediad â’r Safon neu â'r Rhaglen Cefnogi Ardystio Coedwigoedd helpu eich busnes.

Os hoffech gysylltu â'r Tîm Rheoli Coedwigoedd Cynaliadwy yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiadau i sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf