Bygythiadau i iechyd coed

Mae coed brodorol a’r rheiny sydd wedi eu cyflwyno i Gymru ill dau yn agored i ystod eang o blâu a phathogenau, ynghyd a ffynonellau anfiotig o ddifrod megis tywydd eithafol a llygredd. 

Gall coed gefnogi poblogaethau o lawer o bryfaid a ffyngau heb ddioddef difrod difrifol. Weithiau, gall ffrwydradau poblogaeth, tywydd anarferol neu gyflwyniad o bla newydd arwain at ddifrod sylweddol i’r coed, neu hyd yn oed eu lladd.  Gall achosion o blâu ac afiechydon sy’n effeithio nifer fawr o goed gael effaith sylweddol ar ein tirweddau, ein cynefinoedd naturiol a’n heconomi.

Plâu a chlefydau newydd

Mae cynnydd yn y nifer o achosion o blâu ac afiechydon newydd mewn blynyddoedd diweddar. Mae hyn i’w weld yn gysylltiedig â’r cynnydd mewn masnachu byd-eang a theithio a’r symud cysylltiedig o blanhigion, cynnyrch coed, pecynnu pren ac unrhyw ddeunydd arall sydd o bosib wedi’i heintiedig neu’n llawn pla.

Gall newid yn yr hinsawdd efallai newid yr ardal dros ba amodau sy’n addas ar gyfer rhai plâu ac afiechydon. Er enghraifft, credir bod ymdeithiwr y pinwydd (Thaumetopoea pityocampa), rhywogaeth Ganoldirol,  yn symud yn ogleddol o ganlyniad i newid hinsawdd. 

Gall achosion o dywydd eithafol o bosib newid ymddygiad plâu ac afiechydon brodorol a’r rheiny sydd wedi’u cyflwyno mewn ffyrdd anrhagweladwy. Gall straen hinsoddol megis sychder adael coed yn fwy agored i ymosodiad. 

Plâu ac afiechydon sydd yng Nghymru ar hyn o bryd

Yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r achosion o Glefyd y llarwydd (Phytophthora ramorum), Clefyd (Chalara) coed ynn (Chalara fraxinea) a Dirywiad derw aciwt wedi codi proffil afiechydon coed yn y DU a Chymru.

Mae effeithiau’r afiechyd ramorum wedi gorfodi clirio ardaloedd mawr iawn o larwydd, yn enwedig yng nghymoedd De Cymru

Rydym yn dysgu sut i ymdopi gyda phlâu sefydledig megis y Chwilen rhisgl sbriws fawr (Dendroctonus micans) Prif glas sbriws gwyrdd (Elatobium abietinum) Dothistroma a Hylobius.

Bygythiadau posib yn y DU

Gall rhai plâu ac afiechydon sy’n bresennol neu wedi’i atal mewn mannau eraill o’r DU achosi perygl i goed yng Nghymru pe’u caniateir i ledaenu.

Darganfyddwch mwy am y bygythiadau posib i Gymru o dan plâu ac afiechydon coed ar Gov.uk

Planhigion, hadau a ffrwythau o du allan i’r DU

Ni ddylid dod ag unrhyw blanhigion, hadau, ffrwythau, blodau neu lysiau y dewch o hyd iddynt dramor yn ôl i’r DU gan eu bod yn cludo plâu ac afiechydon a fyddai’n dinistrio planhigion, coed a chnydau’r DU.

Darllenwch fwy ynglŷn â’r peryglon o gludo plâu ac afiechydon planhigol yn ôl i'r DU ar gov.uk  

Sut y gallwn ni gyd warchod ein coed

Gall pawb yng Nghymru gymryd camau er mwyn helpu gwarchod ein coed:

·    Bod yn ymwybodol o’r bygythiadau presennol a phosib i goed

·    ’Gwybod sut i adnabod plâu ac afiechydon a sut i’w hysbysu 

·    Cymryd camau syml wrth ymweld â chefn gwlad er mwyn osgoi lledaenu plâu ac afiechydon 

Diweddarwyd ddiwethaf