Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif – o ganlyniad i glirio coetiroedd mewn cyfnodau cynharach yn ein hanes – roedd y sefyllfa’n bur argyfyngus, gyda choetir yn gorchuddio dim ond 5% o dir Prydain, a’r ffigur yn cwympo. Bellach, mae’r ffigur oddeutu 12% ac yn cynyddu. Yng Nghymru, mae coetiroedd yn gorchuddio 15% o’r tir. Fodd bynnag, mae tua 40% o’r coetir hwnnw’n cael ei dan-reoli, neu heb gael ei reoli o gwbl.

Pwysigrwydd cynaliadwyedd

Trwy greu’r ased newydd, pwysig hwn, rhaid i ni sicrhau ein bod yn cyflwyno i genedlaethau’r dyfodol rywbeth sy’n rhagori ar yr hyn rydyn ni wedi’i etifeddu. Mae cynaliadwyedd wrth galon ein polisïau a’n harferion ym maes coedwigaeth, fel bod modd i ni sylweddoli potensial llawn ein coetiroedd fel adnoddau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.

Lle bo angen gwelliant, ein cyfrifoldeb ni yw cynnig arweiniad ar newidiadau, eu hannog, a’u cynnwys ymhlith yr ymrwymiadau rhyngwladol rydyn ni wedi’u gwneud ar fater rheoli coedwigaeth yn gynaliadwy.

Beth yw ystyr rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy? Yn 1993, dan gynllun ‘Forest Europe’, aeth y Gweinidogion â chyfrifoldeb ati i lunio diffiniad o’r term ‘rheoli coedwigaeth yn gynaliadwy’. Hyd heddiw, mae’r diffiniad hwnnw’n parhau i fod yn sail i’n polisi a’n harferion ym maes coedwigaeth:

‘… stiwardiaeth a’r defnydd o goedwigoedd a thiroedd coediog mewn dull, ac ar raddfa, sy’n cynnal eu bioamrywiaeth, eu gallu i gynhyrchu, eu gallu i adfywio, eu bywiogrwydd a’u potensial i gyflawni, yn awr ac yn y dyfodol, swyddogaethau perthnasol yn ecolegol, yn economaidd ac yn gymdeithasol, a hynny ar lefelau lleol, cenedlaethol a byd-eang, ac nad ydynt yn achosi niwed i ecosystemau eraill…’

Goblygiadau ar gyfer y dyfodol

Mae rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn cydnabod pwysigrwydd cysylltu gwerth coedwigoedd yn economaidd, yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Ar ei fwyaf syml, mae’n golygu sicrhau bod y coedwigoedd sy’n bodoli heddiw yn dal yma ar gyfer ein plant a’n hwyrion. Ond rhaid i ni hefyd fod yn ofalus ynghylch ansawdd yr etifeddiaeth rydyn ni’n ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Bydd ganddyn nhw hawl i ddisgwyl bod eu coedwigoedd a’u coetiroedd yn cynnig yr un manteision a chyfleoedd (neu hyd yn oed fwy) â’r rhai rydyn ni’n eu mwynhau.

Rôl Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, y Comisiwn Coedwigaeth yn Lloegr a’r Alban, a’n cydweithwyr yng Ngwasanaeth Coedwigaeth Gogledd Iwerddon, yw ceisio cyflawni’r disgwyliadau hynny. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni.

Cynaliadwyedd yng Nghymru

Yng Nghymru, y blaenoriaethau ar gyfer yr adnoddau coedwigaeth yw:

  • Rheoli mwy o goetir mewn dull cynaliadwy
  • Cynyddu’r arwynebedd net o goetir yng Nghymru
  • Gwella amrywiaeth strwythurol ein coetiroedd (llai o lwyrgwympo)
  • Cael mwy o amrywiaeth yn rhywogaethau’r coed mewn rhagor o’n coetiroedd
  • Gwella cyflwr y coetiroedd brodorol, ac ychwanegu at eu maint
  • Cynyddu gwytnwch ein holl goetiroedd yn wyneb newid yn yr hinsawdd
  • Sicrhau y bydd gallu potensial ein coetiroedd i gynhyrchu pren ar lefel genedlaethol yn y dyfodol yn cael ei gynnal neu’n cynyddu  

Cyflawni cynaliadwyedd yng Nghymru

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i gyflawni’r amcanion hyn yn ein dull o reoli Ystâd Goed Gyhoeddus Llywodraeth Cymru; rydyn ni’n gwneud hynny trwy gynnig arweiniad, trwy ein swyddogaethau rheoleiddiol, ac yn ein gwaith gyda phartneriaid. Rydyn ni’n deall bod angen hyrwyddo coedwigaeth aml-ddefnydd er mwyn cyflawni cydbwysedd priodol rhwng gwahanol anghenion y gymdeithas. Mae hyn yn golygu:

  • Bod angen annog arferion Coedamaeth sy’n efelychu natur, gan wrthwynebu’n gryf unrhyw arferion sy’n groes i ddulliau rheoli mewn ffordd gynaliadwy
  • Wrth reoli coedwigoedd sy’n bodoli eisoes, a datblygu coedwigoedd newydd, rhaid dewis rhywogaethau o goed sy’n gwbl addas i’r amgylchiadau yn y lleoliad hwnnw; drwy gydol y cyfnod tyfu, rhaid iddyn nhw fod yn abl i oddef straen yn wyneb yr hinsawdd a ffactorau eraill, e.e. pryfed a chlefydau, a newidiadau posibl yn yr hinsawdd
  • Bod angen coedwigo mewn modd nad yw’n cael effaith andwyol ar leoliadau a thirweddau sydd o ddiddordeb ecolegol, neu sy’n nodedig mewn rhyw ffordd
  • Lle bo hynny’n briodol, mae angen rhoi blaenoriaeth i rywogaethau brodorol a rhai sy’n tarddu o’r ardal leol

Ein rôl ni wrth gyflawni cynaliadwyedd

Fe fyddwn ni’n parhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru i ddod â mwy o goetir i mewn i gynlluniau grantiau coetiroedd, a chwilio am ddulliau i ddatblygu Glastir ymhellach. Mae’n bwysig ein bod yn denu mwy o goetiroedd fferm dan gynlluniau rheoli; yn achos coetiroedd sydd eisoes yn cael eu rheoli, mae’n bwysig ein bod yn creu ffrydiau o incwm y tu hwnt i helwriaeth a gweithgareddau hamdden mewn coetiroedd. Mae angen i ni hyrwyddo’r cyfleoedd a’r mecanweithiau i gefnogi rheolaeth coetiroedd llai, is eu gwerth, a chynyddu’r cyflenwad o nwyddau tanwydd coed, yn enwedig rhai fyddai’n fanteisiol i’w defnyddio ar ffermydd.

O fewn ein cylch gwaith, fe fyddwn ni’n chwilio am ffyrdd o wella’n dull o gyfuno datblygiad polisi a chyflwyno’n rhaglen gyda dulliau eraill o ddefnyddio tir, e.e. rheoli dŵr, amaethyddiaeth ac ynni adnewyddadwy. Un mesur allweddol yw gwella’r ymwybyddiaeth, hyfforddiant ac addysg mewn rheoli coetir ar gyfer y sector amaethyddol ehangach. Fe fyddwn ni’n gwneud hyn mewn partneriaeth ag eraill er mwyn gallu sylweddoli potensial economaidd coedwigoedd fel adnodd, a dod â mwy o’n coetiroedd brodorol dan ddulliau rheoli.

Sut y gallwn ni helpu

Dilynwch y dolenni er mwyn gweld sut y gall Cyfoeth Naturiol Cymru eich helpu gyda rheoli coedwigoedd, a pha gymorth ariannol allai fod ar gael. Mae modd hefyd cael mynediad at arweiniad pellach ar reoli coedwigoedd.

Ffynonellau eraill o wybodaeth Caiff gofynion arfer gorau o ran y gyfraith a choedwigaeth eu rhestru yn Safon Coedwigaeth y DU, ac mae amrywiaeth eang o ddogfennau i gynnig arweiniad ar gael o gatalog cyhoeddiadau’r Comisiwn Coedwigaeth. Efallai y byddech chi’n hoffi ystyried a yw eich coetir yn addas ar gyfer Ardystiad ai peidio – cam fyddai’n gallu agor drysau i roi sicrwydd i gwsmeriaid yn y dyfodol bod y cynnyrch o’ch coed yn dod o ffynhonnell gynaliadwy. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni.

Mae yna nifer o sefydliadau sy’n cynnig cyngor a chymorth ariannol ac ymarferol i’ch helpu i ddod â’ch coetir dan ddulliau rheoli; maen nhw hefyd yn cynnig arbenigedd ar sawl agwedd o goedamaeth. Mae Coed Cymru’n cynnig cymorth a chyngor yn rhad ac am ddim ar reoli coetiroedd. Gall gwefannau ConFor a Phartneriaeth Fusnes Coedwig Cymru eich ysbrydoli trwy gynnig mynediad at gefnogaeth, adroddiadau ac arweiniad. Am ragor o wybodaeth, dilynwch y dolenni.

Os hoffech gysylltu â’r Tîm Rheolaeth Coedwigaeth Gynaliadwy, Cyfoeth Naturiol Cymru, gallech anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf