Systemau Coedamaeth
Er mwyn cynyddu'r amrywiaeth coetiroedd bydd angen ehangu amrediad y systemau coedamaeth sy'n cael eu defnyddio gan reolwyr ar hyn o bryd. Un o amcanion strategaeth Coetiroedd i Gymru yw lleihau swm llwyrgwympo a chynyddu’r defnydd o Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith (LISS).
Cyfarwyddyd ar systemau coedamaeth
Rydym wedi cynhyrchu Canllaw Arfer Da ar reoli amrywiaeth genetig coetiroedd Cymru er mwyn sicrhau gwydnwch coedwigoedd.
Mae’r canllaw yn cynnwys gwybodaeth am y rhesymau dros ddibynnu llai ar lwyrgwympo, ar osod amcanion rheoli, ar y camau sy'n cael eu hargymell ar gyfer gwahanol fathau o goetir, ar sut i benderfynu a yw rheolaeth LISS yn briodol ac ar ddewis systemau coedamaeth.
Mae systemau coedamaeth sy'n cael eu disgrifio yn y cyfarwyddyd yn cynnwys:
- Llwygrwympo. Dyma’r system fwyaf cyfarwydd i’r mwyafrif ar hyn o bryd, a chaiff ei ddiffinio yn y canllaw fel gwaredu'r holl goed o ardal o dros ddau hectar
- Systemau Coedamaeth Bach eu Heffaith, sy'n cynnwys:
- Ymyrraeth leiaf – dim cwympo na phlannu coed yn systematig
- Cwympo llannerch fach – tynnu coed o ardal >0.25ha a < 2ha mewn coetir mwy o faint
- Coedwigaeth Gorchudd Parhaol (CCF) – gwaith rheoli sy'n golygu cynnal canopi'r goedwig ar un neu ragor o lefelau
- CCF Syml ‒ un neu ddwy haen ganopi o goed, math o system coed cysgodol y coed yn bennaf
- CCF Cymhleth – tair neu ragor o haenau o orchudd coed
- Boncodio ‒ gwaith rheoli sy'n seiliedig ar adfywio drwy aildyfu o fonion wedi'u torri a elwir yn foncyffion coedlan. Defnyddir yr un bôn drwy sawl cylch o dorri ac aildyfu. Defnydd cyfyngedig ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru
- Coedlan gyda choed tal ‒ coedlan a chanddi wasgariad o goed sydd wedi tarddu o eginblanhigion neu goedlannau, sy'n cael eu tyfu ar gylchdro hir er mwyn cynhyrchu pren mwy o faint, ac er mwyn ailgynhyrchu eginblanhigion newydd i ddisodli'r boncyffion treuliedig. Defnydd cyfyngedig ar Ystâd Goed Llywodraeth Cymru
Systemau eraill
System wahanol ychwanegol a ddisgrifir yn y cyfarwyddyd yw Coedwigaeth cylchdro byr (SRF). Mae hyn yn golygu cnydau coed sydd fel arfer yn cael eu cynaeafu pan fyddan nhw rhwng 8 ac 20 mlwydd oed.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn parhau i gefnogi ymchwil a fydd yn ein helpu ni i ddarparu rhagor o wybodaeth.
Os hoffech gysylltu â thîm Rheolaeth Coedwigaeth Gynaliadwy Cyfoeth Naturiol Cymru, gallwch anfon eich ymholiad at sfmt@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk