Mae'r dolenni canlynol yn rhoi gwybodaeth am y rheoliadau sy'n llywodraethu’r broses o greu coetiroedd ac unrhyw ardystiad y gallai fod angen i chi ei ystyried.

Safon Coedwigaeth y DU
Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig yw'r deunydd cyfeirio safonol ar gyfer rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy yn y DU. Mae'n amlinellu'r cyd-destun ar gyfer coedwigaeth, yn nodi dull llywodraethau'r DU o reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, yn diffinio safonau a gofynion, ac yn darparu sail ar gyfer rheoleiddio a monitro.

Lawrlwythwch Safon Coedwigaeth y DU o Gov.uk


Asesiadau o'r Effaith Amgylcheddol
Er mwyn diogelu amgylchedd ac adnoddau naturiol Cymru, mae'n bwysig bod asesiad yn cael ei wneud o effeithiau prosiectau a chynlluniau posibl.

Darllenwch am Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol ar gyfer prosiectau coedwigaeth


Safon Sicrwydd Coetiroedd y DU (UKWAS)
Mae UKWAS yn safon ardystio annibynnol ar gyfer cadarnhau rheolaeth gynaliadwy ar goetiroedd yn y DU. Fe'i defnyddir ar gyfer ardystiad y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC) a'r Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC).

Dysgwch fwy am UKWAS ar eu gwefan

Y Rhaglen Cymeradwyo Ardystio Coedwigoedd (PEFC)
Mae PEFC yn cymeradwyo systemau ardystio coedwigoedd cenedlaethol ac yn darparu cronfeydd data o ddeiliaid tystysgrifau a deiliaid bathodynnau sicrhau ansawdd.

Dewch o hyd i gynlluniau ardystio a gymeradwywyd gan PEFC ar wefan PEFC

Y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd (FSC)
Mae'r Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd yn darparu ardystiad sy’n dangos bod coedwig yn cael ei rheoli mewn ffordd sy'n diogelu amrywiaeth fiolegol ac sydd o fudd i fywydau pobl a gweithwyr lleol, gan sicrhau hefyd y cynhelir hyfywedd economaidd.

Cyngor ar goedwigaeth gynaliadwy gan y Cyngor Stiwardiaeth Coedwigoedd

Canllaw Creu Coetir Glastir
Mae canllaw cynllun Creu Coetir Glastir Llywodraeth Cymru yn esbonio'r hyn y mae angen i chi ei wneud a phryd, i gael eich cynllun plannu'n iawn y tro cyntaf.

Lawrlwythwch Ganllaw Creu Coetir Glastir ar gyfer cynlluniau dros chwarter hectar


Canllaw Creu Coetir Glastir i gynllunwyr
Dysgwch sut i adnabod sensitifrwydd amgylcheddol a allai effeithio ar eich safle arfaethedig yng nghanllaw cynllunwyr Creu Coetir Glastir (GN0002)

Lawrlwythwch 'Darparu tystiolaeth ychwanegol i gefnogi ceisiadau Creu Coetir Glastir (GN009)'
sy’n nodi cynefinoedd â blaenoriaeth ac yn nodi sut i ddarparu ffotograffau a chomisiynu arolwg ecolegol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer dilysu cynllun CCG yn unol â Safon Coedwigaeth y DU

Cod Carbon Coetiroedd
Cod Carbon Coetiroedd yw'r safon sicrwydd ansawdd ar gyfer prosiectau creu coetiroedd yn y DU, ac mae'n cynhyrchu unedau carbon wedi'u dilysu'n annibynnol.
Cofrestrwch gyda'r Cod Carbon Coetiroedd ar eu gwefan

Diweddarwyd ddiwethaf