Diogelu adar gwyllt yn ystod gwaith yn y goedwig

Beth mae’r gyfraith yn ei ymofyn?  

Mae’r gyfraith yn gymhleth ond mae’n cydnabod bod rhai mathau angen mwy o amddiffyniad nag eraill. Er enghraifft, nid yw bob amser yn anghyfreithlon i gwympo coed yn ystod y tymor nythu ond mae’r gyfraith yn mynnu ein bod yn cymryd gofal, yn arbennig yn achos y mathau sydd fwyaf o angen eu hamddiffyn.

Rydyn ni’n cydymffurfio â’r gofynion hynny ac yn fel rheol yn mynd ymhellach.

Ein rheolaeth gynaliadwy o Ystâd Coetir Cymru 

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli  126,000 hectar o goedwigoedd ar draws Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Rydyn ni’n rheoli’r ystâd yn ôl egwyddorion Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy (SMNR) sy’n golygu cydbwyso amryfal  gyfyngiadau a gofynion, megis cynhyrchu pren,  rheolaeth cynefinoedd a rhywogaethau, hamdden a thirlun.

Weithiau ni allwn osgoi gweithio ar amseroedd o’r flwyddyn pan fydd yr adar yn nythu, ond pan ddigwydd hynny gallwch fod yn sicr ein bod yn ymarfer y gofal mwyaf. Mae gennym ddulliau o weithio a ffyrdd o ymarfer diogelwch i’w dilyn er mwyn gwneud yn siŵr bod unrhyw aflonyddwch a achosir gan ein gwaith yn y coedwigoedd cyn lleied â phosibl.

Sut ydyn ni’n amddiffyn adar gwyllt?

Er mwyn lleihau’r aflonyddu ar adar sy’n bridio, mae pob ardal o’r goedwig sydd wedi ei chlustnodi ar gyfer gwaith yn cael ei harolygu cyn dechrau ar y gwaith. Byddwn hefyd yn edrych ar gofnodion hanesyddol i asesu a oes rhywogaethau gwarchodedig wedi nythu yn y fan honno o’r blaen.

Rydyn ni bob amser yn ystyried gwahanol anghenion a sensitifrwydd rhywogaethau gwarchodedig rydyn ni’n eu canfod. Yn ôl y rhywogaeth dan sylw, gallwn osgoi gweithio yn yr un ardal â’r safle nythu neu ohirio ein gweithgareddau am gyfnod.

Aflonyddu ar raddfa fechan, gwelliannau ar raddfa fawr

Mae coedwigoedd sy’n cael eu rheoli’n dda yn llesol i fywyd gwyllt, gan gynnwys adar, ac rydyn ni’n gwella ein coedwigoedd ar gyfer bywyd gwyllt yn raddol drwy ddarparu strwythur mwy amrywiol megis lleoli coed o wahanol oedran a gwahanol rywogaeth mewn mannau arbennig. 

Mae strwythur coedwig amrywiol yn darparu cynefin sy’n addas i fwy o rywogaethau o adar. Ni fydd yn syndod bod ardaloedd o goedwigoedd gorchudd di-dor (lle nad yw’r ardal byth yn cael ei chlirio’n llwyr o goed) yn darparu lleoliadau bridio gwych i adar.  Fodd bynnag mae ardaloedd  sydd wedi eu clirio’n llwyr, ac a allai edrych yn gwbl ddiffaith, yn bwysig hefyd. Maent yn darparu cynefin i’r troellwr mawr gan ei fod yn ymddangos yn hynod o debyg i’w cynefin o rostir naturiol yr iseldir sydd wedi dirywio’n sylweddol yn ystod y ddau gan mlynedd ddiweddaraf.

Erbyn hyn mae bron i 20,000 hectar o goedwigoedd hynafol ar yr ystâd rydyn ni’n ei rheoli wedi eu gwella ar gyfer  bioamrywiaeth. Mae llawer o’r ardaloedd hyn  a oedd gynt yn llawn conifferau, erbyn hyn yn y broses o gael eu hadfer. Mae’n broses araf ond yn un sy’n werth aros amdani.

Tra gall peth gwaith yn y goedwig gael effaith ar nifer fechan o adar ac anifeiliaid, bydd gwella strwythur y goedwig yn cyfrannu’n wirioneddol adeiladol i gynhaliad y poblogaethau hynny yn y tymor hir.

Mae gweithgareddau, megis cwympo coed, bob amser yn golygu peth aflonyddu lleol. Fodd bynnag, mae’r ardal yr effeithir arni yn eithaf bach fel rheol o’i chymharu â’r holl ardal o goedwig nas tarfwyd arni. Bydd y rhan fwyaf o adar ac anifeiliaid yn symud i’r ardaloedd hyn pan fydd y gwaith yn dechrau.

Sut rydyn ni’n trwyddedu eraill

Fel rheol bydd gofyn i unrhyw un sy’n bwriadu cwympo nifer sylweddol o goed yng Nghymru wneud cais i ni am drwydded cwympo coed. Tra bo gennym y grym o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 i wrthod trwydded neu i osod amodau, mae’r gyfraith ond yn caniatáu i ni wneud hyn ar seiliau arbennig. Dim ond ar y sail ei bod yn  fuddiol i wneud hynny “er lles coedwigaeth dda, amaethyddiaeth, amwynder yr ardal”  neu er lles ymarfer ein “dyletswydd i hyrwyddo, sefydlu a chynnal  cronfeydd o goed sy’n tyfu” y gallwn wrthod trwydded neu osod amodau. Mae’r unig amodau y gallwn eu gosod yn ymwneud ag ailgyflenwi’r tir gyda choed a chynnal y coed hynny.

Bydd gofyn i’r sawl fydd yn gwneud y gwaith weithredu mesurau diogelu addas er mwyn osgoi cosbau cyfreithiol os byddant yn tarfu ar neu’n distrywio rhywogaethau gwarchodedig neu eu mannau nythu, ond nid yw’r rhain yn rhan o’r drwydded cwympo. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr amddiffyniad a roddir i adar ac i rywogaethau eraill y DU a ddiogelir yng Nghymru ar ein gwefan.

Trawsgydymffurfiad a grantiau a thaliadau amaethyddol

Mae gofyn i dirfeddianwyr sy’n derbyn taliadau amaethyddol arbennig Gydymffurfio gyda Cyflwr Amaethyddol ac Amgylcheddol Da (GAEC) fel un o amodau’r taliad. Mae GAEC 7 yn darparu cyfyngiadau ychwanegol er mwyn diogelu adar sy’n nythu. Ceir rhagor o wybodaeth am drawsgydymffurfio â GAEC 7 ar Wefan Llywodraeth Cymru.

Diweddarwyd ddiwethaf