Rhywogaethau a warchodir: coedwigaeth a choetiroedd


Canllawiau ategol a geir yma ar gyfer perchenogion a rheolwyr coetiroedd. Mae’n rhoi cyngor ar yr arferion gorau er mwyn bodloni gofynion Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Dylid darllen y canllawiau law yn llaw â’r wybodaeth ar ein prif dudalen ar trwyddedu rhywogaethau a warchodir.

Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010

Mae’r rheoliadau cynefinoedd (The Conservation of Habitats and Species Regulations 2017) yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i rywogaethau sy’n cael eu gwarchod lle bynnag maen nhw’n bodoli yng Nghymru. Mae llawer o’r rhywogaethau sy’n dod o dan y rheoliadau hyn i’w cael mewn coetiroedd. O ganlyniad, mae rhai goblygiadau o ran rheoli’r coetiroedd hynny a’r gwaith coedwigaeth a wneir ynddynt.

Bioamrywiaeth a rheoli cynaliadwy

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ymrwymo i wreiddio’r rheoliadau cynefinoedd yng ngweithrediadau’r sector coedwigaeth, er mwyn datblygu bioamrywiaeth coetiroedd Cymru a rheolaeth gynaliadwy arnynt. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y rheoliadau’n cael eu hintegreiddio i ganllawiau arferion gorau ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy, yn hytrach na sefydlu mesur rheoleiddio ychwanegol.

Diogelu rhywogaethau a warchodir gan Ewrop mewn coetiroedd

Yn ôl y rheoliadau cynefinoedd mae gofyn newid y ffordd o reoli coetiroedd a gwaith coedwigaeth mewn ardaloedd lle mae yna rywogaethau sy’n cael eu gwarchod gan Ewrop.

Ymysg y Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop sy’n bodoli yng Nghymru mae:

  • Pob un o’r 17 rhywogaeth o ystlumod
  • Pathew
  • Madfall ddŵr gribog
  • Dyfrgi

Efallai hefyd y ceir llyffant y twyni a rhywogaethau planhigion a warchodir (Gefell-lys y Fignen, Dŵr-lyriad Nofiadwy, Rhedynen Killarney a Thafolen y Traeth) mewn coetiroedd neu gallai gwaith coedwigaeth effeithio arnynt.

Cydymffurfio â’r rheoliadau cynefinoedd

Mae amryw o adnoddau ar gael isod. Maen nhw’n rhoi cyngor ynglŷn â’r ffordd orau o reoli coetir lle mae rhywogaethau a warchodir gan Ewrop yn bresennol. Mae’r canllawiau hyn yn cydymffurfio ag arferion cynaliadwy rheoli coedwigaeth a’r rheoliadau cynefinoedd. Sylwch y gallai’r canllawiau gael eu diweddaru o bryd i’w gilydd.

Adnoddau’r rheoliadau cynefinoedd

Mae’r dogfennau isod yn egluro’r rheoliadau ac yn cynnwys coeden benderfyniadau sy’n dangos pa ffactorau y dylech eu hystyried wrth benderfynu pa un a oes angen ichi wneud cais am drwydded ai peidio.

Canllawiau yn ôl rhywogaeth

Mae’r dogfennau canllawiau isod (a ddiweddarwyd yn 2010) yn egluro sut mae canfod a oes rhywogaethau a warchodir gan Ewrop yn bresennol yn eich coetir chi ac, os oes, beth y dylech ei wneud:

Gwneud cais am drwydded Rhywogaeth a Warchodir gan Ewrop

Efallai y bydd angen trwydded arnoch i wneud gweithgareddau penodol. Darganfyddwch sut i wneud cais am drwydded rhywogaethau a warchodir.

Trwydded pathew

Mae’r Templed Datganiad Dull Pathewod yn mynd law yn llaw â’r cais am drwydded rhywogaeth a warchodir gan Ewrop. Mae wedi’i fwriadu i helpu perchenogion a rheolwyr coetiroedd i ddarparu’r wybodaeth ofynnol fel rhan o’r cais am drwydded ac mae’n rhoi canllawiau ar ddefnyddio technegau rhesymol er mwyn tarfu cyn lleied â phosib ar bathewod.

Cysylltwch â ni

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ddeddfwriaeth ar rywogaethau a warchodir gan Ewrop a’r ffordd y caiff ei gweithredu mewn perthynas â choedwigaeth neu waith coetiroedd, defnyddiwch y wybodaeth gyswllt isod:

Diweddarwyd ddiwethaf