Plant! Coed ar gyfer pob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu
Ynglŷn â Plant!
Mae’r cynllun Plant! gan Lywodraeth Cymru wedi plannu coeden ar gyfer pob baban a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru ers 1 Ionawr 2008.
Ers mis Ebrill 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda’r elusen Maint Cymru i blannu coed yn Mbale, Uganda fel rhan o’i rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Mae coeden wedi’i phlannu yng Nghymru ac un arall yn Mbale i ddynodi pob tro y mae plentyn yn cael ei eni neu ei fabwysiadu.
Y nod yw creu coetiroedd sy’n hygyrch i’r cyhoedd, meithrin cysylltiad cryfach rhwng plant, teuluoedd a’u hamgylchedd naturiol ac ymgysylltu â chymunedau lleol.
Os hoffech blannu eich coeden eich hun, mae Coed Cadw yn cynnig gwasanaeth plannu coed coffa.
Dod o hyd i’ch coeden
Os yw eich cod post ar adeg geni yn dechrau gyda CH, HR, LD, LL, SY10, SY13, SY14, SY15, SY16, SY16, SY17, SY18, SY21, SY22, SY5, SY7, SY9 neu SY99 fe blannwyd coeden eich plentyn yn un o’n safleoedd yn y Gogledd.
Os yw eich cod post ar adeg geni yn dechrau gyda CF, GL, NP, SA, SY19, SY20, SY23, SY24 neu SY25 fe blannwyd coeden eich plentyn yn un o’n safleoedd yn y De.
Nid yw’r coed wedi’u marcio mewn unrhyw ffordd, ond mae rhif y coed ar y safle yn nodi nifer y genedigaethau a ddyrannwyd i’r safle hwnnw ac mae’n cael ei fonitro.
Gogledd
Safleoedd a ddyrannwyd yn seiliedig ar pryd y cafodd y plentyn ei eni neu ei fabwysiadu.
Dyddiad geni neu fabwysiadu | Safle | Cod Post |
---|---|---|
Ionawr 2008 i Awst 2008 |
Coed Cefn Ila, Sir Fynwy |
NP15 1PR |
Medi 2008 i Orffennaf 2010 |
Coed Ysgubor Wen, Gwynedd |
LL36 9UE |
Awst 2010 i Ragfyr 2010 |
Coed Bryn Oer, Blaenau Gwent |
NP22 3AY |
Ionawr 2011 i Hydref 2011 |
Parc Caia, Wrecsam |
LL13 8SF |
Hydref 2011 i Dachwedd 2012 |
Coed y Felin, Ynys Môn |
SA44 4PB |
Tachwedd 2012 i Hydref 2013 |
|
|
Tachwedd 2013 |
SY23 3AB |
|
Rhagfyr 2013 i Ionawr 2014 |
Parc Coetir Cefn-y-Pant, Caerffili |
NP11 5DB |
Ionawr 2014 i Chwefror 2014 |
Llynnoedd y Garn, Torfaen |
NP4 9SF |
Chwefror 2014 i Ebrill 2014 |
SA13 3HG |
|
Mai 2014 i Ragfyr 2014 |
SY23 3AB |
|
Rhagfyr 2014 i Orffennaf 2018 |
|
|
Gorffennaf 2018 i Orffennaf 2019 |
CH7 5SH |
|
Gorffennaf 2019 ymlaen |
Llanelwy, Sir Ddinbych |
|
De
Safleoedd a ddyrannwyd yn seiliedig ar pryd y cafodd y plentyn ei eni neu ei fabwysiadu.
Dyddiad geni neu fabwysiadu | Safle | Cod Post |
---|---|---|
Ionawr 2008 i Orffennaf 2008 |
Coed Cefn Ila, Sir Fynwy |
NP15 1PR |
Awst 2008 i Fehefin 2009 |
Coed Ysgubor Wen, Gwynedd |
LL36 9UE |
Gorffennaf 2009 i Ragfyr 2010 |
Coed Bryn Oer, Blaenau Gwent |
NP22 3AY |
Ionawr 2011 i Orffennaf 2011 |
Coed Cwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr |
CF32 8AT |
Awst 2011 i Hydref 2011 |
Coed Bryn Oer, Blaenau Gwent |
NP22 3AY |
Tachwedd 2011 i Chwefror 2012 |
Coed Cwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr |
CF32 8AT |
Mawrth 2012 i Ionawr 2013 |
Coed McLaren/Syfi, Caerffili |
NP22 5BH |
Ionawr 2013 i Fai 2013 |
Parc Coetir Cefn-y-Pant, Caerffili |
NP11 5DB |
Mehefin 2013 i Dachwedd 2013 |
|
|
Rhagfyr 2013 i Ionawr 2014 |
Parc Coetir Cefn-y-Pant, Caerffili |
NP11 5DB |
Ionawr 2014 i Chwefror 2014 |
Llynnoedd y Garn, Torfaen |
NP4 9SF |
Mawrth 2014 i Awst 2014 |
SA13 3HG |
|
Awst 2014 i Fehefin 2016 |
Coed Ffos Las, Sir Gaerfyrddin |
SA17 4HE |
Mehefin 2016 i Hydref 2018 |
Coed y Foel, Llandysul |
SA44 4PB |
Tachwedd 2018 i Chwefror 2019 |
Glan Morfa, Sir Ddinbych |
LL18 2AD |
Mawrth 2019 ymlaen |
Fferm Brynau, Castell-nedd |
SA11 3QE |
Gwybodaeth i Berchnogion Tir
A oes gennych chi dir ac yn dymuno cyfrannu at gynllun sy’n plannu coed am bob plentyn a anwyd neu a fabwysiadwyd yng Nghymru?
Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Plant! sydd wedi bod yn plannu coed am dros ddeng mlynedd, ond mae o hyd angen tir plannu newydd arnom. Byddwn yn eich cefnogi i blannu coetiroedd llydanddail brodorol newydd sy’n cynnig mynediad i’r cyhoedd am chwarter canrif fel y gall teuluoedd ymweld â nhw wrth i’w plentyn a’u coeden dyfu.
Mae Llywodraeth Cymru trwy Plant! a grantiau creu coetiroedd yn gallu cynnig cyllid i gefnogi prosiectau creu coetiroedd brodorol newydd ledled Cymru.
Y nod yw creu coetiroedd sy’n hygyrch i bawb ac ymgysylltu â chymunedau lleol. Gall y cyllid hwn gynnwys:
- Y costau ar gyfer plannu coed
- Gwaith paratoi safleoedd
- Gwaith mynediad cyhoeddus gan gynnwys llwybrau, dehongli, gatiau, ardaloedd eistedd ac ati.
- Cynnal a chadw safleoedd am hyd at bum mlynedd
- Rhedeg digwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu â’r gymuned dros bum mlynedd
Os oes gennych gontract gyda Plant! yn barod, neu i drafod safle posibl newydd ar gyfer Plant!, cysylltwch â ni.
Mae rheolau llawn y cynllun ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.